Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: “Mesurau seilwaith yn dangos bod Cymru yn agored ar gyfer busnes”

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymateb i’r cyhoeddiad ‘Buddsoddi yn Nyfodol Prydain’

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
‘Investing in Britain’s Future’

‘Investing in Britain’s Future’

Mae’r mesurau a gyhoeddwyd heddiw yn y pecyn cyllid ar gyfer seilwaith yn dangos yn glir y modd y mae’r llywodraeth hon yn rhoi ei throed ar y sbardun tuag at dwf, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones.

Ymysg y prif fesurau yn y cyhoeddiadau seilwaith heddiw gan Lywodraeth y DU y mae buddsoddiad o £250 miliwn i adeiladu carchar newydd yng ngogledd Cymru. Disgwylir i’r prosiect greu oddeutu 1,000 o swyddi, gan ddarparu hwb o £23 miliwn i’r economi leol a chenedlaethol.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:

O’r dechrau un, rwyf wedi rhoi fy nghefnogaeth i ogledd Cymru gael ei hystyried yn ddewis ymarferol ar gyfer carchar newydd gyda’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Chris Grayling, ac rwyf wrth fy modd gyda chyhoeddiad heddiw.

Bydd carchar yng ngogledd Cymru yn creu cyfleoedd economaidd, swyddi newydd, ac yn rhoi hwb sylweddol i strategaeth y llywodraeth i sefydlu cyfleusterau carchardai modern, mwy cost-effeithiol, i ddisodli’r hen rai aneconomaidd. Bydd yn darparu i garcharorion lety llawer gwell a mwy cost-effeithiol.

Gwn fod cael y carchar yng ngogledd Cymru yn bwysig dros ben i deuluoedd carcharorion – yn enwedig siaradwyr Cymraeg – a chynghorwyr proffesiynol a bydd ei faint yn gwneud llawer iawn i leddfu’r problemau prinder lle a geir ar hyn o bryd.

Mae’r Prif Ysgrifennydd i’r Trysorlys, Danny Alexander a’r Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd, Ed Davey hefyd wedi amlinellu cynlluniau i fuddsoddi mewn seilwaith economaidd drwy fuddsoddi mewn ynni.

Bydd Llywodraeth y DU yn rhyddhau hyd at £110 biliwn i ariannu buddsoddiadau seilwaith ynni a chefnogi 250,000 o swyddi ledled cadwyn gyflenwi’r DU erbyn 2020. Cyhoeddiad arall a gafwyd heddiw, ynghynt na’r disgwyl, oedd manylion y gefnogaeth a fydd ar gael o 2014 hyd at 2019 ar gyfer trydan adnewyddadwy gan gynnwys prosiectau gwynt ar y tir ac ar y môr, y llanw, tonau, trosi biomas a phrosiectau solar mawr.

Mae Prisiau Sefydlog i bob pwrpas yn dileu’r risg anwadalrwydd prisiau am drydan a gynhyrchir o ffynonellau isel eu carbon, dan Gontractau Gwahaniaeth hirdymor newydd a sefydlir gan y Bil Ynni. Mae hyn yn cynnig gwell sicrwydd i gynhyrchwyr ac felly well bargen i ddefnyddwyr.

Cyhoeddodd y Llywodraeth hefyd ymrwymiad o £250 miliwn pellach i ehangu mynediad i fand eang cyflym iawn i 95% o aelwydydd gwledig ledled y DU. Bydd Cymru yn cael cyfran o’r buddsoddiad hwn a ddaw yn ychwanegol at y £57 miliwn a ddarparwyd eisoes i Lywodraeth Cymru i wella mynediad band eang i gartrefi a busnesau yn yr ardaloedd mwyaf anghysbell yng Nghymru.

Meddai’r Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Stephen Crabb:

Mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn yn y ddarpariaeth band eang yn dangos nad yw’r llywodraeth hon ond yn dangos diddordeb mewn ariannu prosiect adeiladu graddfa fawr. Mae mynediad i fand eang cyflym iawn yn sbardun hanfodol i dwf economaidd, ac mae cyhoeddiad heddiw yn nodi cam hollbwysig arall ymlaen yn ein nodau i wella cysylltedd band eang yng Nghymru.

Cyhoeddwyd heddiw hefyd y bydd cannoedd o filoedd o gartrefi mewn ardaloedd sy’n agored i lifogydd yn cael sicrwydd yswiriant fforddiadwy rhag llifogydd. Bydd y symudiad hwn yn newyddion i’w groesawu i gannoedd o berchnogion tai a busnesau ledled Cymru yr effeithiwyd arnynt ar ôl un o’r blynyddoedd gwlypaf erioed.

Daeth y cyhoeddiadau ar y diwrnod pryd y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn lansio’r Gweithgor Seilwaith lefel uchel cyntaf yn Swyddfa Cymru yng Nghaerdydd. Bydd uwch swyddogion o ddiwydiannau Cymru, Trysorlys y DU a Llywodraeth Cymru yn ymuno â Mr Jones a’r Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS, i bwyso a mesur y blaenoriaethau allweddol ar gyfer datblygu’r seilwaith gyda’r nod o roi hwb i economi Cymru.

Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:

Mae buddsoddi yn seilwaith y wlad hon a’i wella er mwyn gwneud y DU yn gystadleuol yn fyd-eang yn rhan hanfodol o strategaeth economaidd y Llywodraeth wrth i’r economi symud o achubiaeth i adferiad.

Mae Cymru eisoes yn mynd i elwa’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, oddi wrth £2 biliwn bron, a ddaw o’n rhaglen i foderneiddio’r rhwydwaith trenau.

Bydd y manteision economaidd a ddaw o’r cyfleoedd a geir i’r gadwyn gyflenwi ac i gyflogaeth yn dilyn buddsoddiad Hitachi mewn safle niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn yn sylweddol.

Mae’r cyhoeddiadau heddiw yn pwysleisio’r ffaith bod Cymru, a’r DU fel cyfangorff, yn agored ar gyfer busnes. Rydym yn rhoi’r droed ar y sbardun er mwyn sicrhau bod yr economi’n teimlo manteision y buddsoddiadau cyfalaf pwysig hyn ac er mwyn helpu Prydain i lwyddo yn y ras fyd-eang.

Bydd sefydliadau datblygu ac ymchwil gwyddonol yng Nghymru hefyd yn elwa o setliad ariannol safonol ar refeniw gwyddoniaeth o £4.6 biliwn ynghyd â setliad gwirioneddol safonol ar gyllid cyfalaf o oddeutu £1.1 biliwn.

Mae cefnogaeth ychwanegol hefyd ar gael ar gyfer datblygu ardaloedd arfordirol drwy gyfrwng y Gronfa Cymunedau Arfordirol. Yn 2015/16, bydd y gronfa yn cyfateb i 50% o’r refeniw a gynhyrchir gan asedau morol Ystâd y Goron, a bydd yn helpu i hybu twf economaidd cynaliadwy a swyddi yn nhrefi glan y môr Cymru.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi sut caiff Cronfa strwythurol €9 biliwn yr UE o 2014-2020 ei dyrannu. Yn Chwefror eleni, bu’r Prif Weinidog yn cyd-drafod y cwtogiad mewn termau real yng nghyllideb yr UE am y tro cyntaf mewn hanes. Bydd Cymru yn cael dyraniad o gyfanswm o oddeutu €2.145 biliwn, sy’n bron chwarter cyfanswm dyraniad y Cronfeydd Strwythurol i’r DU. Fel rhan o hyn, cadarnhawyd hefyd y bydd y dyraniad i Orllewin Cymru yn €1,783 miliwn ac yn €361 miliwn i Ddwyrain Cymru.

•I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm cyfathrebu Swyddfa Cymru ar 020 7270 1362 / 029 2092 4204. •I gael rhagor o fanylion am gyhoeddiad heddiw, ymwelwch â: www.gov.uk/treasury neu dilynwch @HMTreasury ar Twitter •Cyhoeddwyd ddoe (26 Mehefin) y bydd cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015/16 yn cynyddu 2.0%, gan alluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu ei gwariant ar brosiectau seilwaith a chefnogi twf. •Mae Llywodraeth Cymru wedi cael dros £858 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol yn ystod cyfnod presennol yr adolygiad o wariant.

Cyhoeddwyd ar 27 June 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 July 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.