Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn anrhydeddu gwreiddiau’r GIG yng Nghymru ar ei ben-blwydd yn 70 oed

Bydd Alun Cairns yn cydnabod cyfraniad enfawr meddygon tramor mewn anerchiad mewn digwyddiad gan BAPIO Cymru dros y penwythnos

Hanes y GIG yw hanes doniau Prydain ac uchelgais Prydain, gyda gwerthoedd craidd Cymreig iawn, fel y dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, heddiw, wrth i’r gwasanaeth ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed (dydd Iau 5 Mehefin).

Daeth Aneurin Bevan, o Dredegar, yn brif rym y tu ôl i sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel Gweinidog Iechyd ym 1948. Ers y foment honno, mae’r egwyddor o ofal iechyd am ddim yn seiliedig ar angen, nid cyfoeth, wedi ei ymgorffori’n gadarn yn ein bywyd cenedlaethol.

Wrth siarad cyn nodi’r garreg filltir, ddywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae gan Gymru gysylltiad hir a balch gyda’r GIG, a heddiw rydym yn dathlu un o’r anrhegion mwyaf a roddwyd gan Gymro i’n cenedl.

Ers hynny, mae natur y gwasanaeth wedi esblygu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf i’n hiechyd, gan ei wneud yn un o brif achubwyr bywyd y byd heddiw.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod pwysigrwydd enfawr y gwasanaeth hwn, nid yn unig o ran iechyd ein poblogaeth, ond hefyd fel cyflogwr mawr i 78,000 o bobl yng Nghymru. Dyna pam y cyhoeddodd y Prif Weinidog yn ddiweddar £20 biliwn yn ychwanegol y flwyddyn o gyllid erbyn 2023/24 ar gyfer gwasanaethau iechyd yn Lloegr, gan arwain at hwb ariannol o £1.2 biliwn i Lywodraeth Cymru ei wario ar wasanaethau iechyd.

Heddiw, ar ei ben-blwydd yn 70 oed, rydym yn llongyfarch yr ymgynghorwyr, y meddygon, y meddygon teulu, y nyrsys, y cynorthwywyr gofal iechyd, y porthorion, y glanhawyr, y derbynyddion, a’r rheolwyr sy’n cyffwrdd â bywydau pobl ar hyd a lled y wlad, gan ymateb yn gyson i heriau a rhagori ar ddisgwyliadau ynghylch yr hyn sy’n bosibl. Pen-blwydd hapus iawn i’r sefydliad cenedlaethol gwych hwn.

Bydd Mr Cairns yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr a phwysig gweithwyr proffesiynol meddygol o dramor mewn digwyddiad gan Gymdeithas Meddygon o Darddiad Indiaidd Prydain (BAPIO) ddydd Sadwrn (14 Mehefin).

Mae BAPIO yn fforwm ar gyfer grŵp amrywiol o feddygon, deintyddion a myfyrwyr meddygol a deintyddol o dreftadaeth Indiaidd, sydd â’r nod o gyflawni rhagoriaeth broffesiynol ym maes gofal cleifion.

Yn ei araith, bydd Ysgrifennydd Cymru yn diolch i staff meddygol o bob cwr o’r byd am eu hymdrechion diflino i wella iechyd poblogaeth Cymru.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bob munud o bob diwrnod mae gweithwyr meddygol o bob cwr o’r byd yn gweithio yn ein hysbytai i achub bywydau a gwella safonau gofal cleifion.

Y bobl hyn yw arwyr di-glod ein gwasanaeth iechyd, y mae eu profiad a’u gwybodaeth bob amser wedi cael eu croesawu yma gyda breichiau agored.

Wrth i ni ddathlu’r garreg filltir bwysig hon yn ein gwasanaeth iechyd, hoffwn ddiolch i BAPIO am ei rôl allweddol yn y gwaith o recriwtio meddygon dros yr 20 mlynedd diwethaf, gan arbed miloedd o bunnoedd mewn costau locwm i’r GIG bob blwyddyn.

Daw’r digwyddiad wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi cynlluniau i feddygon a nyrsys gael eu heithrio o’r cap ar fisâu gweithiwr medrus, gan olygu na roddir cyfyngiadau ar nifer y gweithwyr proffesiynol meddygol a gyflogir drwy lwybr fisa Haen 2.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n cyrraedd cyn diwedd 2020 i wneud cais am eu statws sefydlog. Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno’n raddol yn ddiweddarach eleni, ac fe’i agorir yn ehangach rhwng hynny â’i lansiad llawn erbyn mis Mawrth 2019.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 5 July 2018