Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Ymestyn maes awyr yw'r cam cywir i Gymru

Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cytuno ar y cynnig terfynol ar gyfer ehangu Heathrow

Heathrow control tower

Alun Cairns in the air traffic control tower at Heathrow Airport

Heddiw (dydd Mawrth, 5 Mehefin) mae Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi nodi’r cynigion terfynol i gefnogi ehangu Heathrow - gan symud Prydain gam sylweddol yn nes at ragor o hediadau, rhagor o swyddi a rhagor o dwf economaidd.

Gan nodi carreg filltir bwysig wrth adeiladu Prydain fyd-eang, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi’r Datganiad Polisi Cenedlaethol arfaethedig ar gyfer Meysydd Awyr, gan gefnogi ehangu Heathrow drwy ddatblygu rhedfa newydd yng ngogledd orllewin y maes awyr.

Byddai rhedfa newydd yn Heathrow yn dod â manteision go iawn i bobl ledled Cymru. Byddai’n golygu bod mwy o le i hedfan o feysydd awyr ledled y Deyrnas Unedig i Heathrow, a chysylltiadau oddi yno â’i gyrchfannau pell.

Byddai’n golygu rhagor o ddewis o gwmnïau hedfan yn Heathrow a chyrchfannau rhyngwladol i bobl sy’n mynd ar wyliau, yn ymweld â ffrindiau neu deulu neu’n teithio i gynnal busnes. Disgwylir hefyd i’r gystadleuaeth gynyddol yn y maes awyr ostwng prisiau i deithwyr.

Y bwriad yw y bydd Western Rail Link yn rhoi llwybr rheilffordd cyflymach i deithwyr sy’n teithio i Heathrow o dde Cymru heb orfod mynd i Lundain.

Ar draws y wlad, byddai ehangu yn darparu buddion o hyd at £ 74 biliwn i deithwyr a’r economi ehangach ac yn creu degau ar filoedd o swyddi lleol. Bydd yn cysylltu’r Deyrnas Unedig yn well â gweddill y byd, gyda 16 miliwn yn rhagor o seddi ychwanegol ar gael erbyn 2040.

Heathrow yw maes awyr mwyaf y Deyrnas Unedig yn barod o ran teithwyr a nwyddau, a bydd Rhedfa’r Gogledd Orllewin bron yn dyblu gallu’r maes awyr i gludo nwyddau, gan ganiatáu i fusnesau ledled y wlad gynyddu eu hallforion a manteisio ar gwsmeriaid byd-eang newydd.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’i gilydd i sicrhau bod Cymru’n chwarae rhan allweddol yng nghadwyn gyflenwi’r maes awyr. Y mis diwethaf, traddododd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, anerchiad i gynrychiolwyr o Faes Awyr Heathrow yng ngogledd Cymru fel rhan o ymgyrch i ddod ag un o bedair canolfan logisteg Heathrow i Gymru. Bydd hefyd yn cwrdd â busnesau bach a chanolig o Gymru yn yr Uwchgynhadledd Busnes Heathrow nesaf yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf, lle bydd modd iddyn nhw ddysgu am y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yng nghanolbwynt teithio prysuraf y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae cynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi ehangu Heathrow yn anfon neges glir am ein huchelgeisiau ar gyfer dyfodol Prydain.

Maen nhw’n gynlluniau sydd wedi cael fy nghefnogaeth lawn o’r cychwyn cyntaf. O ganolbwyntiau logisteg i gyfleoedd cadwyn gyflenwi, mae gan Gymru gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i chwarae rhan yn y gwaith o gyflwyno un o’r ymdrechion seilwaith mwyaf cyffrous a welwyd ym Mhrydain ers cenedlaethau.

Drwy ehangu Heathrow, gallwn gysylltu pob rhanbarth o Brydain â’r economi fyd-eang - gan ddangos ein bod ni’n agored i fusnes, yn hyderus ynghylch pwy ydym ni fel gwlad, ac yn barod i fasnachu â gweddill y byd.

Dywedodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:

Mae ehangu Heathrow yn gyfle unigryw i roi hwb gwerth biliynau o bunnoedd i’n heconomi, cryfhau ein cysylltiadau byd-eang a chynnal ein safle fel arweinydd byd-eang o ran hedfan.

Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’n rhaid i’r Deyrnas Unedig barhau i fod yn un o’r gwledydd mwyaf allblyg ac sy’n meddu ar y cysylltiadau gorau posibl â’r byd, a thrydedd rhedfa yn Heathrow yw’r dewis gorau i gyflawni hyn.

Rydym wedi gwrando ar sylwadau drwy ein hymgynghoriadau, a byddwn yn sicrhau pecyn o fesurau o’r radd flaenaf i helpu cymunedau lleol a allai gael eu heffeithio gan yr ehangiad.

Mae’r Datganiad Polisi yn ystyried adborth gan y cyhoedd a’r diwydiant ac argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Trafnidiaeth i sicrhau y bydd ehangu meysydd awyr yn Ne Ddwyrain Prydain yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sy’n gost-effeithlon, yn gynaliadwy ac yn sicrhau’r budd mwyaf i deithwyr.

Bydd Heathrow yn cael ei gyllido’n breifat, ac ni fydd cost i drethdalwyr. Er mwyn sicrhau bod yr ehangu’n cael ei gyflwyno gyda buddiannau defnyddwyr wrth wraidd y cyfan, mae’r Llywodraeth wedi gofyn i’r Awdurdod Hedfan Sifil sicrhau bod y cynllun yn parhau i fod yn fforddiadwy wrth ddiwallu anghenion teithwyr.

Er mwyn gwarchod yr amgylchedd, ni fyddai caniatâd cynllunio yn cael ei roi oni bai bod y rhedfa newydd yn cael ei chyflawni o fewn rhwymedigaethau ansawdd aer presennol.

Dros yr ychydig wythnosau nesaf, bydd gan y Senedd y cyfle i ddadlau a phleidleisio ar y Datganiad Polisi.

Cyhoeddwyd ar 6 June 2018