Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Cytundeb General Dynamics yn “hanfodol” i dwf economi Cymru

Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan ymrwymiad £5.5bn y Weinyddiaeth Amddiffyn i ariannu llinell gynhyrchu Cerbydau …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan ymrwymiad £5.5bn y Weinyddiaeth Amddiffyn i ariannu llinell gynhyrchu Cerbydau Ymladd Arfog, a fydd yn diogelu ac yn creu cannoedd o swyddi yng Nghymru.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau yn ei Chylch Cynllunio 2012 y bydd yn ymrwymo i ariannu cyflenwad o gerbydau arfog i Fyddin Prydain, sy’n cynnwys prosiect Scout SV sy’n cael ei arwain gan gwmni amddiffyn General Dynamics, yn Oakdale a Threcelyn yng Nghaerffili.

Disgwylir y bydd hyd at 300 o beirianwyr a rheolwyr prosiect yn y ffatrioedd yn Ne Cymru yn datblygu’r cerbydau, ac y bydd cannoedd o swyddi eraill yn cael eu creu yn ystod y cyfnod cynhyrchu.

Mae Mrs Gillan yng Ngwlad Thai, yn mynd ar ymweliadau i hyrwyddo cysylltiadau masnach, twristiaeth a llywodraethol fel rhan o ymgyrch FAWR Llywodraeth y DU, a dywedodd:

“Mae’r diwydiant amddiffyn yn parhau i fod yn hanfodol i economi Cymru, ac mae’r cyhoeddiad hwn yn wirioneddol ddilysu buddsoddiad parhaus General Dynamics yn nhalent, arbenigedd a sgiliau ein gweithwyr yma yng Nghymru a hyd a lled y DU.

“Fe wnes ymweld a ffatri General Dynamics UK yn Nhrecelyn ym mis Mawrth y llynedd a gwelais y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud yno a’m llygaid fy hun. Rwyf hefyd yn trafod materion caffael amddiffyn a’r goblygiadau i Gymru gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn rheolaidd.

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi cyfle i ni ddangos i weddill y byd bod Cymru wir yn chwarae ei rhan wrth amddiffyn a chefnogi’r unigolion dewr sy’n gweithio mewn amrywiol sefyllfaoedd rheng flaen o gwmpas y byd.”

Cyhoeddwyd ar 15 May 2012