Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Pedair cenedl y DU yn ‘Well gyda'i gilydd'

David Jones i roi araith – ‘Devolution in the Continuing Union’

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

The Union Jack Flag

Bydd pleidlais ‘ia’ yn y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban yn “fenter fawr” ac yn “naid i dir dieithr” i bobl yr Alban. Dyna fydd neges David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth annerch Cymdeithas y Durham Union heno (nos Iau 28 Tachwedd 2013).

Bydd Mr Jones yn rhoi ei araith ‘Devolution in the Continuing Union’ yn sgil cyhoeddi Papur Gwyn yr Alban ar annibyniaeth.

Bydd yn dweud nad yw’r ddogfen yn “rhoi atebion credadwy i gwestiynau sylfaenol bwysig’, megis arian, pensiynau a chost annibyniaeth, a’i bod “yn ymddangos fel pe na bai yn ddim byd mwy na rhestr o ddyheadau a luniwyd i guddio gwir ystyr annibyniaeth.”

Disgwylir i Mr Jones ddweud fod “yr Alban eisoes yn rhan o un o uniadau mwyaf llwyddiannus y byd” a bod datganoli yn golygu y bydd yr Alban yn gallu gwneud penderfyniadau pwysig sy’n effeithio ar fywyd bob dydd.

Bydd Mr Jones hefyd yn dweud fod yr Alban, fel Cymru, yn “elwa o ddwy ddeddfwrfa a dwy lywodraeth sy’n gweithio dros eu buddiannau”, gan bwysleisio mai model datganoli hyblyg sydd fwyaf priodol i’r Deyrnas Unedig.

Bydd yn dweud na fydd annibyniaeth yn “creu uniad newydd” ond, yn hytrach, bydd yr Alban yn gadael y Deyrnas Unedig, gan beri “newid sylfaenol a diwrthdro nad oes modd ei fesur cyn y refferendwm.”

Bydd yn pwysleisio, os bydd pobl yr Alban yn pleidleisio ‘ia’ ym mis Medi 2014, “bydd angen trafod eu dyfodol â dwsinau o wledydd a fydd yn gweithredu er budd eu dinasyddion eu hunain, nid er budd yr Alban, ar faterion megis arian, amddiffyn a ffiniau.”

Bydd yn dweud bod busnesau, prifysgolion a sefydliadau presennol y Deyrnas Unedig yn elwa o economi gref “heb eu llesteirio gan ffiniau a thollau, gydag arian cyfred cryf,” ac y byddai “pleidleisio o blaid annibyniaeth yn golygu y byddai hyn i gyd yn y fantol”.

NODIADAU I OLYGYDDION

  • Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn rhoi ei araith ‘Devolution in the Continuing Union’ am oddeutu 20:30 o’r gloch ddydd Iau 28 Tachwedd yng Nghymdeithas y Durham Union, Pemberton Buildings, Palace Green, Durham, County Durham.

  • Cymdeithas ddadlau a sefydlwyd yn 1842 gan fyfyrwyr Prifysgol Durham yw Cymdeithas y Durham Union.

Cyhoeddwyd ar 28 November 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 November 2013 + show all updates
  1. Link to speech added. Welsh translation added.

  2. First published.