Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru: Cwmnïau Fast Growth 50 yn sbarduno economi Cymru

Alun Cairns yn ysgrifennu am 19fed gwobrau Fast Growth 50 yn y Western Mail

Fast Growth 50

Fast Growth 50

Once Unwaith eto, rwy’n falch iawn o allu cefnogi Gwobrau Fast Growth 50 ac i nodi’r cyfraniad pwysig y mae busnesau Cymru yn ei wneud i’n heconomi.

Mae’n anodd credu bod blwyddyn wedi mynd heibio ers i ni ddod at ein gilydd i ddathlu llwyddiannau’r entrepreneuriaid anhygoel sy’n helpu i ledaenu twf economaidd i bob rhan o Gymru.

Ers ei sefydlu yn 1999, mae’r cwmnïau sydd wedi ymddangos ar y rhestrau Fast Growth 50 wedi creu dros 34,000 o swyddi a chynhyrchu tua £18 biliwn o drosiant ychwanegol bob blwyddyn, ac mae llawer ohono yn cael ei wario yn eu hardal leol.

Bellach mae gennym 31,000 o fusnesau bach a chanolig a 93,000 mwy o bobl yn gweithio yng Nghymru nag yn 2010. Mae gennym hefyd yr economi sy’n tyfu gyflymaf y pen y tu allan i Lundain ers 2010. Ac mae hynny’n arwydd clir pam y dylem gael ffydd yn ffyniant Cymru yn y dyfodol.

Ac mae cynifer o’r cwmnïau sydd wedi ymddangos ar restri’r FG50 dros y blynyddoedd bellach yn darparu gwasanaethau ac yn allforio eu cynnyrch ledled y byd.

Cafodd enillydd y llynedd, cwmni peirianneg awyrennau AerFin o Gaerffili, ei enwi fel yr allforiwr sy’n tyfu gyflymaf yn y DU gyda gwerthiant tramor yn cynyddu ar gyfradd flynyddol o 664% ar gyfartaledd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Rhaid i’r criw o 50 eleni gael yr un dyheadau i gyflawni’r un llwyddiant, ac mae Llywodraeth y DU yn barod i’w cefnogi bob cam o’r ffordd.

Ni fu erioed amser gwell i’n busnesau deinamig ac arloesol i allforio eu nwyddau a’u gwasanaethau dramor.

Ac ar adeg pan mae’r DU yn trafod partneriaeth newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd, rwyf wastad yn llawn edmygedd o’r ffordd y mae busnesau Cymru wedi gallu ymateb, arloesi a thyfu gartref a thramor.

Fy mhrif genhadaeth drwy gydol y broses o adael yr UE yw dangos bod Cymru yn wlad sy’n edrych tuag allan, yn meddwl yn fyd-eang ac yn meddu ar syniadau mawr – fel rydym ni wastad wedi gwneud.

Dyna oedd fy neges i arweinwyr busnes yn Japan a Qatar yn ystod fy nheithiau masnach diweddar. Rwyf am i Gymru a’r DU ehangach i fod y lle gorau yn y byd i gynnal busnes.

Mae Ewrop yn farchnad allweddol i Gymru, ond mae gwledydd y tu allan i’r UE, gan gynnwys Singapore, Qatar a Japan i gyd yn ymddangos ar y rhestr o’r 10 lle mwyaf ar gyfer allforion o Gymru.

Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at 26,000 o fusnesau ar draws Cymru sydd wedi’u nodi fel allforwyr posibl, yn cynnwys copi o Ganllaw Allforio Cymru. Mae’n ddogfen sy’n nodi’r ystod lawn o gymorth sydd ar gael i fusnesau Cymreig gan Lywodraeth y DU ac mae’n cynnwys straeon ysbrydoledig o gwmnïau yng Nghymru sy’n allforio’n llwyddiannus.

Yn agosach at adref, mae Llywodraeth y DU hefyd yn rhoi’r amodau gorau posibl ar gyfer twf yn eu lle.

O drydaneiddio rheilffyrdd, trenau o’r radd flaenaf i ariannu band eang cyflym iawn, rydym yn gweithio’n galed i wella seilwaith Cymru. Bydd ein penderfyniad i leihau tollau Hafren - cyn eu diddymu’n gyfan gwbl - hefyd yn lleihau costau i fusnesau, cymudwyr a thwristiaid fel ei gilydd - gan helpu i roi hwb i swyddi a masnach yng Nghymru ac ar draws y De Orllewin.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu cyhoeddi ei strategaeth ddiwydiannol fodern, wedi’i chynllunio i ddatblygu ein cryfderau mewn meysydd fel awyrofod, technoleg a gwyddorau bywyd a sicrhau bod ein pobl yn elwa o greu gweithlu cryf a hynod fedrus.

Ond ni all y Llywodraeth weithredu ar ei ben ei hun. Rydym yn awyddus i chi chwarae eich rôl. Rydym ni angen i chi fuddsoddi yn eich cwmnïau a chwilio am gyfleoedd newydd i’ch busnesau gartref ac ar draws y byd.

A bydd Llywodraeth y DU yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd.

Llongyfarchiadau i bob un o enillwyr Fast Growth 50 eleni. Mae eich gwobrau yn gwbl haeddiannol.

Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS

Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Cyhoeddwyd ar 18 October 2017