Ysgrifennydd Cymru ‘wrth ei fodd’ dros enillwyr diwethaf Gwobr y Gymdeithas Fawr – Crest Co-operative
Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn llongyfarch un o fentrau cymdeithasol Cymru heddiw [22 Ionawr], Crest Co-operative, sef enillydd…
Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn llongyfarch un o fentrau cymdeithasol Cymru heddiw [22 Ionawr], Crest Co-operative, sef enillydd diweddaraf gwobr y Gymdeithas Fawr y Prif Weinidog.
Mae Crest Co-operative yn fusnes ailgylchu cynaliadwy yng Nghyffordd Llandudno, Gogledd Cymru. Mae ganddynt nifer o gynlluniau ailgylchu sy’n sicrhau na fydd bwyd, nwyddau trydanol, nwyddau i’r tŷ na nwyddau mae modd eu defnyddio yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Byddant yn gwerthu eitemau cartref sydd wedi cael eu trwsio am brisiau fforddiadwy ac yn rhoi bwyd i bobl ddigartref ac agored i niwed. Mae’r broses hefyd yn creu cyflogaeth i bobl sydd wedi bod yn ddi-waith ers tro byd, pobl ag anableddau a chyn-droseddwyr, sy’n gweithio yn eu warysau a’i siopau.
Dywedodd Mr Jones:
“Rwyf wrth fy modd bod Crest Co-operative, menter gymdeithasol yng Nghyffordd Llandudno wedi ennill gwobr y Gymdeithas Fawr heddiw.
“Roeddwn wedi canmol y gwaith gwych roedd Crest Co-operative yn ei wneud ym mis Chwefror 2011 - mae’r fenter gymdeithasol yn enghraifft dda o bŵer y trydydd sector yn newid bywydau pobl er gwell. Maent wir yn haeddu’r wobr hon, gan eu bod yn enghraifft wych o’r Gymdeithas Fawr ar waith, ac mae nifer o bobl yn elwa drwy eu gwaith caled a’u hymroddiad.
“Maent wedi dangos eu bod yn arloesol, yn edrych ymlaen ac yn greadigol a gall busnesau lleol eraill ddysgu llawer ganddynt.”
Nodyn i Olygyddion:
Er 2012 mae’r mudiad yng Ngogledd Cymru wedi gweithio i sicrhau na fydd bwyd y mae’n ddiogel ei ddefnyddio yn cael ei wastraffu. Bydd gweithgynhyrchwyr bwyd cenedlaethol a lleol yn rhoi bwyd o ansawdd sydd ganddynt dros ben i Crest Co-operative a fydd wedyn yn ailddosbarthu’r bwyd i’r rheini sydd ei angen fwyaf. Mae Crest Co-operative yn danfon bwyd i 28 o grwpiau cymunedol ledled Gogledd Cymru, a fydd wedyn yn paratoi prydau ar gyfer pobl ddigartref ac agored i niwed. Maes o law mae hyn yn cynhyrchu cyfleoedd cyflogaeth ac yn helpu’r rheini sy’n gwirfoddoli i ddatblygu sgiliau hanfodol.
Dros y naw mis diwethaf, mae Crest Co-operative wedi:
• rhwystro 56 tunnell o fwyd o ansawdd ac y mae’n ddiogel ei ddefnyddio rhag mynd i safleoedd tirlenwi, gan gyfrannu at brydau bwyd i bobl agored i niwed mewn 28 o grwpiau cymunedol yng Ngogledd Cymru.
• rhwystro 69 tunnell o eitemau cartref rhag mynd i safleoedd tirlenwi drwy eu trwsio a’u gwerthu i’r cyhoedd am bris isel drwy ei siopau cymunedol.
• creu 509 o leoliadau gwaith a chyfleoedd cyflogaeth, fel cynorthwywyr gweithdai, cynorthwywyr gyrwyr faniau, cynorthwywyr manwerthu a lleoliadau gwaith yn helpu oedolion sydd ag anableddau dysgu.
• creu bron i 5,000 awr o gyfleoedd gwirfoddoli.
• darparu 2,391 awr o wasanaeth cymunedol; mae’r rheini sy’n gweithio yn y gwasanaeth hwn yn llai tebygol o droseddu eto.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:
http://www.number10.gov.uk/news/welsh-social-enterprise-recognised-by-prime-minister-for-tackling-food-waste-and-unemployment/
Enillydd cyntaf Gwobr y Gymdeithas Fawr yng Nghymru oedd y Creation Development Trust, i gael rhagor o wybodaeth tarwch olwg ar:
http://www.bigsocietyawards.org/award-winners/creation-development-trust/
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Mr Jones wedi dangos llawer iawn o ddiddordeb yng ngweithgarwch Crest Co-operative: