Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dathlu llwyddiannau Cymru yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2022

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart wedi llongyfarch derbynwyr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd eleni.

Mae’r derbynwyr o Gymru sydd ar restr 2022 yn cynnwys yr Olympiaid Hannah Mills (OBE), am ei gwasanaethau i hwylio ac ymgyrchu amgylcheddol, a Lauren Price (MBE) am wasanaethau i focsio. Mae’r Paralympiad David Smith (OBE) hefyd wedi cael ei gydnabod am ei wasanaeth aruthrol i’r gamp Boccia ochr yn ochr â James Roberts sydd wedi derbyn MBE am wasanaethau i rygbi cadair olwyn.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, yn cael ei urddo’n farchog am ei rôl arweinyddol yng Nghymru drwy gydol pandemig Covid-19, tra bod cyn Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, yr Athro Julie Lydon, wedi derbyn gwobr am ei gwasanaethau i addysg uwch.

Mae nifer o bobl o bob cwr o Gymru, gan gynnwys Maureen Davies (BEM am wasanaethau i gymunedau yn Ynys Môn) a Joshua Reeves (BEM am ei waith gyda phobl ag anableddau) wedi cael eu hanrhydeddu am eu gwasanaethau i gymunedau ledled Cymru a thu hwnt.

Diolchodd yr Ysgrifennydd Gwladol i’r derbynwyr am eu hymroddiad, eu llafur caled a’u llwyddiannau ysbrydoledig.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Unwaith eto rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan straeon llawer o bobl ledled Cymru, sy’n cael eu cydnabod yn haeddiannol ar restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.

Mae’r bobl hyn wedi dal ati i wneud cyfraniadau eithriadol mewn cymunedau ledled Cymru, yn ystod blwyddyn heriol iawn.

Mae’n wych gweld pobl o Gymru o gefndiroedd amrywiol yn cael eu cydnabod. Rwyf wrth fy modd bod eu hymroddiad i’w cymunedau, dros chwaraeon ac i wasanaethau iechyd yn cael eu cymeradwyo.

Hoffwn longyfarch yr holl dderbynwyr haeddiannol a diolch iddynt am eu gwaith gwerthfawr.

Gan longyfarch y Paralympiad David Smith, a gafodd OBE am wasanaethau i’r gamp Boccia, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Yn gynharach eleni daeth David yn chwaraewr Boccia mwyaf addurnedig Prydain erioed. Mae’r cyflawniad rhagorol hwn a’i ymrwymiad i’w gamp yn ei wneud yn unigolyn gwirioneddol ysbrydoledig.

Mae David yn athletwr eithriadol ac yn dderbynnydd haeddiannol o’r anrhydedd hwn. Llongyfarchiadau David.

Gan longyfarch Joan Scott (fe’i gelwir yn Jo), a gafodd BEM am wasanaethau yn y gymuned ym Mhwllheli, Gwynedd, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Yn ogystal â chadw cwsmeriaid yn ddiogel yn Asda fel swyddog diogelwch COVID, mae Jo wedi mynd y tu hwnt o ran ei chymuned drwy gydol cyfnod y pandemig. Nid yn unig y mae hi wedi codi miloedd o bunnoedd ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol, mae hi hefyd wedi dysgu Cymraeg i gysylltu’n well gyda phawb sy’n defnyddio’r siop.

Mae ei hagwedd gadarnhaol a’i hymroddiad i’w chymuned yn eithriadol. Mae’n llawn haeddu’r anrhydedd hon.

Gan longyfarch Joshua Reeves, a gafodd BEM am wasanaeth i bobl a chanddynt anableddau, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae Joshua wedi cyflawni gwaith gwych fel rhywun sy’n gweithredu ac yn ymgyrchu dros hawliau’r anabl.

Yn ogystal ag addysgu pobl ar faterion yn ymwneud ag anabledd yma yng Nghymru, mae’n ymgyrchu dros y byd hefyd. Rwy’n diolch iddo am ei ymroddiad dros wella bywydau pobl anabl yng Nghymru a thu hwnt.

Gan longyfarch Maureen Davies, a gafodd BEM ar gyfer gwaith gwirfoddol a gwasanaeth cyhoeddus yn Sir Fôn, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae Maureen wedi rhoi dros 45 o flynyddoedd o wasanaeth i Girl Guiding UK, gan fod yn esiampl i gannoedd o ferched ledled Sir Fôn. Mae ei gwaith rhagorol a’i gwasanaeth hir yn golygu ei bod yn llawn haeddu’r wobr hon. Llongyfarchiadau Maureen.

Gan longyfarch Bnar Talabani, a gafodd MBE ar gyfer gwasanaethau i’r GIG ac am wneud brechiadau COVID-19 yn hygyrch i gymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae Bnar wedi goresgyn caledi ac wedi dod yn Arbenigwr Meddygol Trawsblaniad Aren uchel ei pharch.

Bu ei gwaith dros hybu iechyd a lles cymunedau Mwslemaidd a BAME a’i hymdrechion i chwalu’r camddealltwriaethau ynghylch brechlyn COVID-19 yn amhrisiadwy.

Rwy’n diolch am ei holl waith yn cynorthwyo’r rhaglen frechu ac rwy’n ei llongyfarch hi ar ei gwobr gwbl haeddiannol.

Gan longyfarch Lauren Price, a gafodd MBE am wasanaeth yn y byd bocsio, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Roedd campwaith Lauren yn rhan o dîm Prydain Fawr yn Tokyo dros yr haf yn destun cyffro i filiynau o bobl yn ôl yng Nghymru a gweddill y DU. Mae Lauren yn athletwraig anhygoel ac ysbrydoliaeth go iawn i eraill. Mae ei llwyddiannau yn y byd bocsio cic, pêl droed a bocsio yn dangos ei hymroddiad eithriadol, ei sgiliau a’i hysgogiad.

Llongyfarchiadau i Lauren am y wobr gwbl haeddiannol hon.

Gan longyfarch Alison Williams, a gafodd MBE am wasanaethau i addysg a’r gymuned yn Abertawe, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Yn ogystal ag arwain ysgol gynradd lwyddiannus, mae Alison hefyd yn gwasanaethu ei chymuned drwy helpu i ariannu parc cymunedol, rhandir gwyrdd, ramp sglefrfyrddio a chlybiau gwyliau. Mae ei hymroddiad i’w disgyblion a’i phenderfyniad anhunanol i roi rhywbeth yn ôl i’w chymuned yn ysbrydoledig.

Hoffwn longyfarch Alison yn fawr ar gael yr anrhydedd hon.

Cyhoeddwyd ar 31 December 2021