Stori newyddion

£2.5miliwn o gyllid Llywodraeth y DU yn creu 40 o swyddi ymchwil ar gyfer canolfan newydd yn Abertawe

Buddsoddiad yn rhoi hwb derbyniol iawn ar gyfer yr ymchwil arloesol sy’n digwydd yng Nghymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r £2.5 miliwn o gyllid a ddyfarnwyd i Brifysgol Abertawe drwy’r Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol, gan greu 40 o swyddi ymchwil newydd o fis Medi 2015 yn hwb derbyniol iawn i’r Brifysgol, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones heddiw (9 Ionawr).

Mae’r cyllid ar gyfer Prifysgol Abertawe yn rhan o gyhoeddiad ehangach a wnaed gan y Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth David Willetts heddiw wrth ddatgelu 19 o Ganolfannau Hyfforddi Doethurol (CDT) newydd, yn cynnwys Abertawe.

Mae’r cyllid yn caniatáu i Abertawe sefydlu COATED2, canolfan a fydd yn hyfforddi ymchwilwyr ar sut i ddatblygu caenau ymarferol ar gyfer cynhyrchion. Er enghraifft, mae caenau newydd ar ddur a gwydr yn golygu y gall adeiladau cyffredin gynhyrchu, storio a rhyddhau ynni, gan fwy neu lai droi adeiladau yn orsafoedd pŵer ynddynt eu hunain.

Dyma rai o’r meysydd y mae ymchwilwyr Abertawe eisoes yn gweithio ynddynt, ac a fydd yn cael hwb gan y cyllid a gyhoeddwyd heddiw:

  • Batris mwy effeithlon sy’n gallu storio ynni a gynhyrchir o gaenau ffotofoltaig i’w ddefnyddio gydol y dydd.
  • Caenau newydd ar gyfer darnau arian, gan wneud iddynt bara’n well, mewn prosiect gyda’r Bathdy Brenhinol
  • Caenau ar gyfer llongau gofod a fydd yn cynhyrchu trydan o wres, mewn prosiect gyda’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd
  • Pecynnau clyfar ar gyfer nwyddau i’w gwerthu gan ddefnyddio electroneg plastig arwynebedd mawr

Mae cwmnïau mawr yn cydweithio â thîm Abertawe, gan gynnwys Tata Steel, BASF, cwmni cemegol mwyaf y byd, ac NSG Pilkington, un o gynhyrchwyr gwydr mwyaf y byd.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd y cyhoeddiad heddiw ynghylch cyllid i Brifysgol Abertawe yn creu 40 o swyddi ymchwil doethurol ym Mhrifysgol Abertawe o fis Medi 2015 – hwb derbyniol iawn ar gyfer yr ymchwil arloesol sy’n digwydd yng Nghymru.

Mae’r Brifysgol ei hun yn mynd o nerth i nerth ac yn cymryd camau sylweddol ymlaen o ran bod yn un o’r goreuon ym maes gwyddoniaeth ac ymchwil.

Bydd y cyllid yn hybu twf cynnyrch a diwydiannau newydd ac hefyd yn hyfforddi arweinwyr diwydiant i’r dyfodol – mae Prifysgol Abertawe yn parhau i wneud cyfraniad mawr i economi Cymru ac i faes gwyddoniaeth.

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae’r Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn yr 8fed safle yn y DU ac yn cynnig graddau achrededig mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau, gyda’r addysgu wedi ennill 5 seren, a chyda chysylltiadau wedi hen sefydlu gyda byd diwydiant.

  • Mae SPECIFIC, consortiwm academaidd a diwydiannol dan arweiniad Prifysgol Abertawe, gyda Tata Steel yn brif bartner diwydiannol, yn cael ei ariannu gan EPSRC, y Bwrdd Strategaeth Technoleg a Llywodraeth Cymru. Y weledigaeth ar y cyd yw datblygu cynnyrch dur a gwydr gyda chaenau ar gyfer toeau a waliau, sy’n cynhyrchu, storio a rhyddhau ynni adnewyddadwy – gan droi adeiladu yn orsafoedd pŵer a chyflawni manteision amgylcheddol ac economaidd sylweddol.

  • Y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) yw prif asiantaeth y DU ar gyfer ariannu ymchwil ym maes peirianneg a’r gwyddorau ffisegol. Mae EPSRC yn buddsoddi oddeutu £800 miliwn y flwyddyn mewn ymchwil a hyfforddiant ôl-radd i helpu’r genedl i ymdopi â’r genhedlaeth nesaf o newid technolegol. Mae’r meysydd yr ymdrinnir â hwy yn ymestyn o dechnoleg gwybodaeth i beirianneg strwythurol, ac o fathemateg i wyddor deunyddiau.

  • Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol gyda’r gorau yn y byd sy’n cael ei harwain gan ymchwil, wedi’i lleoli mewn parcdir hardd gyda golygfeydd ar draws Bae Abertawe yn agos at Benrhyn Gŵyr, yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf yn y DU. Sefydlwyd y Brifysgol yn 1920 ac ar hyn o bryd mae’n cynnig oddeutu 350 o gyrsiau gradd a 100 o gyrsiau ôl-radd i 14,500 o raddedigion ac israddedigion. Erbyn mis Medi 2015 bydd gan y Brifysgol gampws newydd yn y Bae i ategu’r campws ym Mharc Singleton sydd wedi’i uwchraddio. .

Cyhoeddwyd ar 9 January 2014