Datganiad i'r wasg

Gweinidog y Swyddfa Gymreig yn lansio Senedd Pobl Hŷn

Heddiw [dydd Gwener 1 Hydref] bu David Jones, un o Weinidogion y Swyddfa Gymreig, yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn drwy lansio cynllun…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [dydd Gwener 1 Hydref] bu David Jones, un o Weinidogion y Swyddfa Gymreig, yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn drwy lansio cynllun newydd i roi llais cryfach i bobl hŷn ledled Cymru.

Mae Senedd Pobl Hŷn Cymru yn dwyn ynghyd bedwar corff cenedlaethol i hyrwyddo hawliau pobl hŷn a sicrhau un llais unedig ar eu rhan.

Wrth siarad yn y lansiad ym Mae Caerdydd, dywedodd Mr Jones:  “Mae angen i’r Llywodraeth, yn Llundain ac yng Nghaerdydd, glywed am bryderon pobl hŷn.  Erbyn 2020, bydd hanner poblogaeth y DU yn 50 oed neu’n hŷn.  Dyna pam yr ydym wir eisiau clywed am y materion sy’n wynebu pobl hŷn heddiw, er mwyn gwneud yn siŵr bod camau gweithredu’r Llywodraeth yn diwallu eu hanghenion.

“Rwy’n ffyddiog y bydd Senedd Pobl Hŷn Cymru yn darparu llais cadarn ac yn holi’r Llywodraeth am faterion pwysig megis incwm, gwahaniaethu ar sail oedran, a’r system gofal iechyd.   Gobeithiaf yn fawr mai’r lansiad heddiw fydd y cam cyntaf yn yr hyn a fydd yn arwain at drafodaeth barhaus.”

Pwysleisiodd Mr Jones hefyd sut mae egwyddorion y Llywodraeth glymblaid, sef Rhyddid, Tegwch a Chyfrifoldeb, yn sicrhau y caiff anghenion pobl hŷn eu hystyried.

Ychwanegodd Mr Jones:  “Mae ein Llywodraeth eisoes yn darparu sicrwydd o ran pensiwn y wladwriaeth; amddiffyn budd-daliadau allweddol y gwyddom sydd mor bwysig i bobl hŷn, megis y lwfans tanwydd gaeaf a thrwyddedau teledu am ddim; ac ailsefydlu’r cyswllt rhwng pensiwn ac enillion.  Mae hefyd yn cynnwys ymrwymiadau i amddiffyn y materion sydd o bwys arbennig i bobl hŷn, megis gwarchod y gyllideb iechyd a gwneud yn siŵr bod gan yr heddlu fwy o amser i allu atal troseddu ac i wneud cymunedau’n fwy diogel.

“Byddwn yn disgwyl i sefydliadau fel Senedd Pobl Hŷn Cymru ddweud wrthym ba bolisiau sy’n llwyddiannus a beth y gallwn ei wneud i wella pethau.  Drwy weithio gyda’n gilydd, fe allwn ac fe fyddwn yn hyrwyddo anghenion pobl hŷn yng Nghymru.

NodiadauDyma’r pedwar corff sy’n ymwneud a sefydlu Senedd Pobl Hŷn Cymru:  Cymdeithas Pensiynwyr Cenedlaethol Cymru, Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol Cymru, Grŵp Cynghori Pobl Hŷn Cymru a Fforwm Pensiynwyr Cymru.

Cyhoeddwyd ar 1 October 2010