Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn cefnogi Ymgyrch 1nod

Ymunodd David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, a’r disgyblion yn Ysgol Pen-y-Bryn ym Mae Colwyn i weld beth mae’r disgyblion yn ei wneud…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

David Jones a'r disgyblion yn Ysgol Pen-y-BrynYmunodd David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, a’r disgyblion yn Ysgol Pen-y-Bryn ym Mae Colwyn i weld beth mae’r disgyblion yn ei wneud i roi sylw i’r ymgyrch 1Nod - ymgyrch sy’n anelu at sicrhau addysg i holl blant y byd.Mae’r Ymgyrch Fyd-eang dros Addysg wedi ymuno a chwaraewyr pel-droed enwog i lansio 1Nod, er mwyn sicrhau un peth arbennig ar ol i Bencampwriaeth Cwpan y Byd yn Ne Affrica ddod i ben, sef addysg i bob plentyn.

Mae disgyblion yn yr ysgol wedi gwneud sgarff i gefnogwyr sy’n 20 metr o hyd, a bydd yn cael ei anfon at y Prif Weinidog cyn y trafodaethau ar Nodau Datblygu’r Mileniwm ym mis Medi, sy’n anelu at sicrhau bod pob plentyn yn cwblhau addysg o safon erbyn 2015.

Dywedodd Mr Jones: “Mae’r ymgyrch hon yn tynnu sylw at y ffaith bod nifer o bobl ifanc dal ddim yn cael addysg gynradd. Gall addysg dda agor y drws at fyd llawn cyfleoedd felly mae’n rhaid i bawb gydweithio i sicrhau bod pob plentyn ifanc yn cael addysg, ym mha bynnag wlad y mae’n byw.

“Mae disgyblion Ysgol Pen-y-Bryn wedi bod yn brysur yn gweithio ar eu sgarff ac mae eu hymdrechion yn codi proffil yr ymgyrch bwysig hon.  Mae eu hymdrechion wedi cael cymaint o argraff arnaf, rwyf wedi estyn gwahoddiad i’r disgyblion ymweld a Swyddfa Cymru yn Llundain pan fyddant yn danfon y sgarff i 10 Stryd Downing fis nesaf.”

Nodiadau

Yn y flwyddyn 2000, pan gytunwyd ar Nodau Datblygu’r Mileniwm, addawodd arweinwyr y byd y byddai pob plentyn yn cwblhau addysg o safon erbyn 2015. Gyda dim ond 5 mlynedd ar ol tan hynny, mae 72 miliwn o blant dal ddim yn gallu cael addysg gynradd, gyda miliynau ar filiynau ar ben hynny yn gorfod gadael ysgol cyn gorffen eu haddysg.  

Ym mis Medi eleni, cynhelir Uwchgynhadledd yn Efrog Newydd i adolygu Nodau Datblygu’r Mileniwm, gan gynnwys y targed ar gyfer sicrhau addysg gynradd drwy’r byd i gyd.

Cyhoeddwyd ar 28 June 2010