Datganiad i'r wasg

Cynllun iaith Gymraeg i gael rhagor o fynediad at gyfiander

Mae’r cynllun newydd yn rhoi mynediad at ystod o wasanaethau cyfiawnder yn Gymraeg.

  • Bydd hysbysebion am swyddi gwag i staff a’r farnwriaeth yng Nghymru yn ddwyieithog
  • Mae’r rhaglen yn cynnwys y gwasanaeth carchardai, y gwasanaeth prawf, gwasanaethau cyfreithiol a’r gwasanaeth llysoedd

Heddiw, mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder (MOJ) wedi gwella’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Wedi ei gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg, bydd y cynllun yn cynnwys pob un o gyrff cyflawni’r MoJ sef - Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol, Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a’r Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol. Bydd pob corff yn mabwysiadu ei fersiwn ei hun o’r rhaglen.

Bydd yr Adran hefyd yn hysbysebu swyddi gwag ar gyfer staff, barnwyr ac ynadon yng Nghymru yn ddwyieithog ac yn rhoi hysbysebion mewn cyhoeddiadau Cymraeg.

Dywedodd Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Cyfiawnder, Richard Heaton:

Mae’r newid hwn yn cefnogi un o’n nodau mwyaf sylfaenol – gwneud mynediad at Gyfiawnder yn haws i bawb.

Fe wnaethon ni wrando’n ofalus ar yr adborth o’n hymgynghoriad cyhoeddus a bydd y gwelliannau hyn yn ein galluogi i ddarparu gwasanaeth sy’n gweithio’n well i siaradwyr Cymraeg.

Darparu ein gwasanaethau yn Gymraeg

Byddwn yn darparu gwasanaethau Cymraeg i’r un safon a chysondeb â’r rhai a ddarperir yn Saesneg, gan gynnwys drwy:

  • Ymateb yn Gymraeg i ohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg o fewn yr un amserlen â gohebiaeth yn Saesneg.
  • Sicrhau bod digwyddiadau yng Nghymru yn cael eu hyrwyddo yn Gymraeg a bod cyfranogwyr yn gallu cyfrannu yn Gymraeg.
  • Cyhoeddi cynnwys Cymraeg ar wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.

Datblygwyd y cynllun yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus gydag adborth gan aelodau o’r cyhoedd, busnesau a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y Cynllun Iaith Gymraeg, ewch i GOV.UK.

Cyhoeddwyd ar 28 June 2018