Datganiad i'r wasg

Busnesau yng Nghymru yn cael eu henwi a’u cywilyddio am dandalu gweithwyr ar yr isafswm cyflog

Bydd 22,400 sef y nifer uchaf erioed o weithwyr drwy’r DU sy’n derbyn isafswm cyflog, yn derbyn miliynau mewn ôl i gyflogwyr eu tandalu

  • Mae bron i 240 o gyflogwyr a dandalodd y Gyflog Byw a’r Isafswm Cyflog yn cael eu henwi heddiw – 14 o Gymru
  • Mae £1.44m o ôl-daliadau wedi cael eu nodi ar gyfer 22,400 o weithwyr, gyda’r cyflogwyr yn cael eu dirwyo £1.97m ychwanegol
  • Roedd cyflogwyr wedi tandalu gweithwyr drwy gymryd didyniadau o’u cyflogau ar gyfer iwnifformau, tandalu prentisiaid a methu â thalu amser teithio iddyn nhw

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth y DU enwau’r 239 o gyflogwyr a dandalodd 22,400 o weithwyr y DU o £1.44m.

Mae’r cyfanswm yn cynnwys 14 o gyflogwyr o Gymru, sy’n effeithio ar 64 o weithwyr a fydd yn awr yn derbyn ôl-daliadau dros £20,500.

Roedd yr ôl-daliad a nodwyd gan CThEM ar gyfer mwy o weithwyr drwy’r DU nag mewn unrhyw restr enwi sengl flaenorol ac mae wedi cynhyrchu’r nifer uchaf erioed o ddirwyon, sef £1.97m.

Roedd y tandaliad cynharaf yn dyddio’n ôl i 2011, gyda’r un diweddaraf yn digwydd eleni (2018).

Y Cwmnïau o Gymru a gafodd eu cynnwys ar restr heddiw yw:

  1. Lyons Holiday Park Limited, Sir Ddinbych LL18, methwyd â thalu £7,321.01 i 12 o weithwyr, gydag ôl-ddyledion ar gyfartaledd o £610.08 y gweithiwr
  2. Nick’s 76 Services Limited, yn masnachu fel Nick’s Car Wash, Conwy LL22, methwyd â thalu £3,601 i 3 o weithwyr, gydag ôl-ddyledion ar gyfartaledd o £1,200.40 y gweithiwr
  3. Accent on Education Limited, Casnewydd NP20, methwyd â thalu £2,293.23 i 9 o weithwyr, gydag ôl-ddyledion ar gyfartaledd o £254.80 y gweithiwr
  4. Aingarth Rest Home Limited, Conwy, LL28, methwyd â thalu £1,836.60 i 9 o weithwyr, gydag ôl-ddyledion ar gyfartaledd o £204.07 y gweithiwr
  5. Mr Stuart Rooke, sy’n masnachu fel S R Motors, Sir Gaerfyrddin, SA39, methwyd â thalu £1,762.43 i 1 gweithiwr, gydag ôl-ddyledion ar gyfartaledd o £1,762.43 y gweithiwr
  6. Mansion House Llansteffan Ltd, Sir Gaerfyrddin, SA33, methwyd â thalu £1,087.13 i ddau o weithwyr, gydag ôl-ddyledion ar gyfartaledd o £543.57 y gweithiwr
  7. Mrs Meyanee Homnan, yn masnachu fel Dew 4 Sure, Abertawe SA1, methwyd â thalu £616.36 i ddau o weithwyr, gydag ôl-ddyledion ar gyfartaledd o £308.18 y gweithiwr
  8. Restaurant James Sommerin Limited, sy’n masnachu fel Restaurant James Sommerin, Bro Morgannwg CF64, methwyd â thalu £487.57 i 1 gweithiwr, gydag ôl-ddyledion ar gyfartaledd o £487.57 y gweithiwr
  9. Mr Nicholas James Chan, yn masnachu fel Riverside Cantonese Restaurant, Caerdydd CF11, methwyd â thalu £346.39 i 8 o weithwyr, gydag ôl-ddyledion ar gyfartaledd o £43.3 y gweithiwr
  10. Miss Linda Dykes, yn masnachu fel Diamond Cleaning (What Can Shine Will Shine), Conwy LL22, methwyd â thalu £294.17 i 11 o weithwyr, gydag ôl-ddyledion ar gyfartaledd o £26.74 y gweithiwr
  11. Mr Piotr Antoni Zielinski, yn masnachu fel Max Polish Shop, Sir Gaerfyrddin SA40, methwyd â thalu £285.04 i 3 o weithwyr, gydag ôl-ddyledion ar gyfartaledd o £95.01 y gweithiwr
  12. G.Williams & Son (Cigyddion) Cyf, Gwynedd LL57, methwyd â thalu £257.82 i 1 gweithiwr, gydag ôl-ddyledion ar gyfartaledd o £257.82 y gweithiwr
  13. The New Sandon Garage Limited, Caerdydd CF24, methwyd â thalu £220.73 i 1 gweithiwr, gydag ôl-ddyledion ar gyfartaledd o £220.73 y gweithiwr
  14. Owens (Road Services) Limited, Sir Gaerfyrddin SA14, methwyd â thalu £112.50 i 1 gweithiwr, gydag ôl-ddyledion ar gyfartaledd o £112.50 y gweithiwr

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae talu llai na’r isafswm cyflog yn anghyfreithlon, anfoesol ac yn gwbl annerbyniol. Os yw cyflogwyr yn torri’r gyfraith hon, maen nhw angen gwybod y byddwn ni’n gweithredu yn llym drwy eu henwi, eu cywilyddio a’u dirwyo nhw, yn ogystal â helpu gweithwyr i adennill miloedd o bunnau mewn cyflog sy’n ddyledus iddyn nhw.

Diolch i ymchwiliadau Llywodraeth y DU, mae cannoedd o weithwyr sy’n derbyn y cyflogau lleiaf yng Nghymru yn cael eu had-dalu bob blwyddyn, wrth inni barhau i adeiladu Cymru, a Theyrnas Unedig ehangach, sy’n gweithio ar gyfer pawb.

Dywedodd y Gweinidog Busnes, Andrew Griffiths:

Ein blaenoriaeth ni yw sicrhau bod gweithwyr yn gwybod beth yw eu hawliau a’u bod yn cael y cyflog y maen nhw wedi gweithio amdano. Mae cyflogwyr nad ydyn nhw yn gwneud y peth iawn yn wynebu dirwyon yn ogystal â chael eu taro gyda’r bil am ôl-daliad.

Mae gweithwyr sy’n derbyn y cyflog isaf yn y DU wedi gweld y twf mwyaf yn eu cyflogau, diolch i gyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol ac mae rhestr heddiw yn fodd o atgoffa pob cyflogwr i wirio eu bod yn talu’r cyflog cywir i’w gweithwyr.

Y 5 prif reswm am dandalu’r Lleisafwm Cyflog a’r Cyflog Byw y tro hwn oedd:

  • gwneud didyniadau o gyflogau am gostau fel iwnifformau
  • talu rhy ychydig i brentisiaid
  • methu â thalu amser teithio
  • camddefnyddio’r gwrthbwysiad ar gyfer llety
  • defnyddio’r cyfnodau amser ar gyfer cyfrifo cyflog anghywir

Dywedodd Cadeirydd y Comisiwn Cyflogau Isel, Bryan Sanderson:

Mae’n hanfodol fod cyflogwyr yn deall eu cyfrifoldebau a bod gweithwyr yn gwybod eu hawliau ynglŷn â’r lleiafswm cyflog. Dyna pam mae gorfodi gweithredol a chyfathrebu effeithiol gan y Llywodraeth mor bwysig.

Mae’n galonogol gweld felly bod CThEM wedi adennill cyflogau sydd heb eu talu ar gyfer y nifer mwyaf o weithwyr eto yn y rownd hon o enwi a chywilyddio. Rydw i’n hyderus y bydd y Llywodraeth yn parhau i fynd ar ôl tandalu’r lleiafswm cyflog yn egnïol.

Mae cyllid ar gyfer gorfodi talu’r lleiafswm cyflog wedi mwy na dyblu ers 2015, a bydd y llywodraeth yn gwario £26.3 miliwn yn ystod yn 2018/19.

Mae’r cynllun yn ei bumed flwyddyn ac mae’n galw ar gyflogwyr sydd wedi pechu yn erbyn cyfreithiau lleiafswm cyflog, a hyd yma mae wedi nodi £10.8 miliwn mewn ôl-daliadau ar gyfer oddeutu 90,000 o weithwyr, gyda mwy na 1,900 o gyflogwyr wedi cael eu dirwyo am gyfanswm o £8.4 miliwn. Mae CThEM wedi lansio cyfres o weminarau, sydd ar gael ar GOV.UK, er mwyn helpu cyflogwyr i wirio a ydyn nhw yn cydymffurfio â’r gyfraith.

Ar hyn o bryd, mae’r llywodraeth yn cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â chyfraddau’r Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol, a gododd ar 1 Ebrill 2018, yn ogystal ag annog gweithwyr sydd wedi cael eu tandalu i gwyno wrth CThEM. Mae gwefan yr ymgyrch wedi derbyn mwy na 60,000 o ymweliadau ers i’r ymgyrch gychwyn ar 1 Ebrill.

Mae cyflogwyr sy’n talu llai na’r lleiafswm cyflog i’w gweithwyr yn gorfod talu ôl-ddyledion cyflog i’r gweithiwr ar gyfraddau presennol y lleiafswm cyflog a byddan nhw’n wynebu cosbau ariannol o hyd at 200% o’r ôl-ddyledion, wedi’i gapio ar £20,000 y gweithiwr.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth ynglŷn â’ch cyflog, neu os ydych chi’n meddwl y gallwch chi fod yn cael eich tandalu, gallwch chi gael cyngor a chanllawiau yn yma. Gall gweithwyr gael cyngor yn ogystal gan arbenigwyr yn y gweithle yn Acas.

NODIADAU I OLYGYDDION

O dan y cynllun hwn, bydd y llywodraeth yn enwi pob cyflogwr sydd wedi derbyn Hysbysiad Tandalu (HT) os nad yw cyflogwyr yn cwrdd ag un o’r meini prawf eithriadol neu fod ganddyn nhw ôl-ddyledion o £100 neu lai. Roedd pob un o’r 239 achos a enwyd heddiw, 6 Gorffennaf 2018, wedi methu â thalu’r cyfraddau lleiafswm cyflog cenedlaethol neu’r cyfraddau cyflog byw cenedlaethol ac roedd ganddyn nhw ôl-ddyledion o fwy na £100.

Mae gan gyflogwyr 28 diwrnod i apelio yn erbyn yr HT (mae’r rhybudd hwn yn amlinellu’r cyflogau sy’n ddyledus ac i’w talu gan y cyflogwr ynghyd â’r gosb am beidio â chydymffurfio â chyfraith y lleiafswm cyflog). Os nad yw’r cyflogwr yn apelio neu’i fod yn apelio yn aflwyddiannus yn erbyn yr HT hwn, bydd BEIS yn ystyried eu henwi nhw. Mae gan y cyflogwyr wedyn 14 diwrnod i wneud cynrychioliadau i BEIS yn amlinellu a ydyn nhw yn cwrdd ag unrhyw un o’r meini prawf eithriadol:

  • Mae enwi gan BEIS yn cario risg o niwed personol i unigolyn neu’i deulu;
  • Mae risgiau diogelwch cenedlaethol yn gysylltiedig ag enwi yn yr achos hwn;
  • Ffactorau eraill sy’n awgrymu na fyddai hi o fudd i’r cyhoedd i enwi’r cyflogwr.

Cyfraddau Cyflog Byw Cenedlaethol ac Isafswm Cyflog

Dyddiad 25 oed a throsodd 21 i 24 18 i 20 O dan 18 Prentis
Ebril 2018 £7.83 £7.38 £5.90 £4.20 £3.70

Sectorau sy’n talu’n isel

  • Lletygarwch – 56
  • Manwerthu – 30
  • Gofal cymdeithasol – 22
  • Glanhau a chynnal a chadw – 19
  • Hamdden, teithio a chwaraeon – 15

Cyflogwyr a enwyd ym mhob rhanbarth

  • Llundain – 40
  • Dwyrain Canolbarth Lloegr – 27
  • Yr Alban – 26
  • Gogledd Orllewin Lloegr – 25
  • Swydd Efrog a’r Humber – 24
  • De Ddwyrain Lloegr – 24
  • Gorllewin Canolbarth Lloegr – 22
  • De Orllewin Lloegr – 14
  • Cymru – 14
  • Gogledd Iwerddon – 11
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr – 6
  • Dwyrain Lloegr – 6
Cyhoeddwyd ar 6 July 2018