Datganiad i'r wasg

Sector awyrennau Cymru’n hawlio sylw

Ysgrifennydd Gwladol Cymru i danlinellu arbenigedd y diwydiant awyrofod yng Nghymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
British Airways Maintenance Centre

British Airways Maintenance Centre

Bydd cryfder y diwydiant awyrennau yng Nghymru yn cael ei bwysleisio gan David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ystod cyfres o ymweliadau â sefydliadau gweithgynhyrchu a chynnal a chadw ar gyfer y diwydiant awyrofod yr wythnos nesaf (wythnos yn cychwyn 17 Mehefin 2013).

Bydd Mr Jones yn tanlinellu rôl hanfodol y diwydiant yn iechyd yr economi – yn lleol ac yn genedlaethol – pan fydd yn ymweld â Chanolfan Cynnal a Chadw British Airways ym Mro Morgannwg (17 Mehefin) cyn ymweld â 50fed Sioe Awyr Ryngwladol Paris yn ddiweddarach yn yr wythnos (20 Mehefin).

Daw’r ymweliadau yn y misoedd ar ôl lansio strategaeth ddiwydiannol awyrofod – partneriaeth strategol hirdymor rhwng y llywodraeth a’r diwydiant awyrofod. Mae’r strategaeth yn amlinellu cynllun a fydd yn atgyfnerthu safle’r DU ar flaen y gad o ran gweithgynhyrchu awyrofod ledled y byd, gan fynd i’r afael â rhwystrau rhag twf, hybu cyfleoedd i allforio a chynyddu gwerth uchel swyddi yn y sector awyrofod ym mhob cwr o’r wlad.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r diwydiant awyrofod yn un o’n diwydiannau gweithgynhyrchu pwysicaf, ac mae Prydain yn arwain y ffordd yn Ewrop. Mae’r sector yn cyfrannu £24 biliwn i’r economi bob blwyddyn, mae’n cynnwys 3,000 o gwmnïau ac yn cefnogi 230,000 o swyddi ar hyd a lled y wlad.

Mae Cymru a’i gweithlu hynod o fedrus eisoes yn chwarae rhan hanfodol yn y llwyddiant hwn. O gynhyrchu adenydd Airbus ym Mrychdyn i wasanaethu peiriannau awyrennau enfawr yn GE Aviation yn Nantgarw, mae ystod yr arbenigedd yng Nghymru yn arbennig.

Gyda’r camau cywir gan y Llywodraeth a’r diwydiant, yn realistig, gall y DU ddatblygu ei safle cryf er mwyn sicrhau swyddi, a chreu gwerth economaidd sylweddol i’r DU drwy raglenni gweithgynhyrchu mawr.

Bydd Mr Jones yn cychwyn ar ei gyfres o ymweliadau i gefnogi’r diwydiant yng Nghanolfan Cynnal a Chadw British Airways (BAMC) – cyfleuster gwasanaeth a chynnal a chadw penodol ar gyfer fflyd BA o awyrennau Boeing ym Maes Awyr Caerdydd. Bydd yn cael ei dywys o amgylch yr awyrendy tri gofod a’r gweithdai cefnogi, ac yn cyfarfod â Bill Kelly, Rheolwr Cyffredinol Gwaith Cynnal a Chadw Trwm Peirianneg British Airways.

Dywedodd Mr Kelly:

Rydym yn hynod o falch o’n gwaith peirianneg yn Ne Cymru. Rydym yn cyflogi dros 1,400 o unigolion medrus iawn ar draws tri chyfleuster o’r radd flaenaf, ac wedi ymrwymo i sicrhau llwyddiant parhaus y sector awyrennau yn y rhanbarth.

Yn ddiweddarach yn yr wythnos, bydd Mr Jones yn cyfarfod ag aelodau pwysig o’r diwydiant awyrennau byd-eang yn Sioe Awyr Ryngwladol Paris.

Mae’r sioe awyr, a fydd yn cael ei chynnal yng nghanolfan arddangosfeydd Le Bourget, yn un o ddigwyddiadau awyrennau byd-eang mwyaf eiconig y byd, ac mae’n gyfle i roi sylw haeddiannol i dechnoleg a pheirianneg Prydain.

Bydd amserlen Ysgrifennydd Cymru yn canolbwyntio ar ymweld â chwmnïau sydd â chysylltiad cryf â Chymru, gan gynnwys Airbus, a wnaeth gyhoeddi’n ddiweddar y bydd yn creu 3,000 o swyddi yn 2013, gyda 300 ohonynt wedi’u lleoli yng nghadarnleoedd gwaith y cwmni yn y DU ym Mrychdyn ac ym Mryste. Ddydd Gwener 14 Mehefin, bu i gludwr pell newydd y cwmni, A350XWB, gydag adenydd a wnaed yng Ngogledd Cymru, hedfan am y tro cyntaf o faes awyr Toulouse-Blagnac.*

Rhwng 2011 a 2012, bu i Airbus gyflogi bron i 10,000 o bobl ym mhedwar ban y byd, gan greu 7,000 o swyddi net. Maent bellach yn cyflogi dros 59,000 o bobl, gan gynnwys 6,000 yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Tom Williams, Is-lywydd Gweithredol ar gyfer rhaglenni ac uwch-gynrychiolydd y DU ar gyfer Airbus:

Sector awyrofod y DU yw’r ail fwyaf yn y byd, ac mae cadwyn cyflenwi Airbus werth oddeutu £2bn i economi’r DU.

Mae Airbus yn bartner allweddol yn y Bartneriaeth Twf Awyrofod sy’n dod â’r llywodraeth a’r diwydiant ynghyd i sicrhau dyfodol hirdymor i sector awyrofod y DU, i wneud yn siŵr ein bod, ar y cyd, yn llwyddo i ddefnyddio ein capasiti technolegol yn llawn. Rydym hefyd yn croesawu cefnogaeth y llywodraeth ar gyfer y sector hwn sy’n tyfu drwy’r Sefydliad Technoleg Awyrofod, buddsoddiad o £2bn i sicrhau bod y DU yn parhau i arwain y blaen o ran technoleg a datblygu, ac mae Airbus yn bartner pwysig yn hyn.

Ychwanegodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Sioe Awyr Paris yn rhoi llwyfan fyd-eang ar gyfer y goreuon o blith diwydiant arloesol Prydain, yn ogystal â rhoi llwyfan ryngwladol i sector awyrennau Cymru ddangos ei waith i’r byd.

Fel cenedl, rydym yn dangos ein cryfderau penodol wrth weithgynhyrchu a chynnal a chadw rhai o rannau mwyaf cymhleth awyren. Yn wir, mae hanner awyrennau mawr modern y byd yn hedfan ar adenydd Airbus, wedi’u dylunio a’u gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Mae sector awyrofod y DU yn ddiwydiant gwasanaeth, cynnal a chadw a pheirianneg uwch-dechnoleg, llwyddiannus sydd o werth uchel, ac rwy’n edrych ymlaen at gael y cyfle i ganolbwyntio ar y diwydiant pwysig hwn yr wythnos nesaf.

Bydd amserlen Mr Jones yn ystod sioe awyr Paris hefyd yn cynnwys ymweliadau â BAE Systems, Raytheon, EADS, Babcock, Thales, Hawker Beechcraft, SAAB a GE (UK). Mae gan bob un o’r cwmnïau hyn gysylltiad cryf â Chymru.

Nodiadau i Olygyddion:

I gael rhagor o wybodaeth neu am gyfle i gyfweld â’r Ysgrifennydd Gwladol, cysylltwch â Lynette Bowley yn Swyddfa Cymru ar 029 2092 4204 / lynette.bowley@walesoffice.gsi.gov.uk

•Y tro cyntaf i A350XWB hedfan wedi’i gadarnhau ar adeg dosbarthu’r hysbysiad i’r wasg.

•I gael rhagor o wybodaeth am Sioe Awyr Paris, ewch i http://www.paris-air-show.com/ neu ddilyn @salondubourget ar Twitter

•Bydd y sioe awyr yn cael ei chynnal rhwng 17 a 23 Mehefin 2013.

•Fe wnaeth Nick Clegg, y Dirprwy Brif Weinidog, lansio’r weledigaeth uchelgeisiol o bartneriaeth hirdymor rhwng y llywodraeth a’r diwydiant awyrofod yn safle Airbus ym Mryste ar 14 Mawrth.

•Mae modd cael gafael ar Lifting Off: Implementing the Strategic Vision for UK Aerospace drwy ddilyn y ddolen ganlynol: link text

Cyhoeddwyd ar 17 June 2013