Stori newyddion

Gweinidogion Swyddfa Cymru yn cefnogi Wythnos Twristiaeth Cymru

Wrth iddynt nodi dechrau Wythnos Twristiaeth Cymru (23 Chwefror - 3 Mawrth), bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru yn cael blas ar y cyfoeth o atyniadau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Wrth iddynt nodi dechrau Wythnos Twristiaeth Cymru (23 Chwefror - 3 Mawrth), bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru yn cael blas ar y cyfoeth o atyniadau i dwristiaid sydd yn y wlad yr wythnos hon, o ysblander eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, i’r amgueddfeydd sy’n diffinio hanes Cymru.

Mae Wythnos Twristiaeth Cymru yn ddathliad unigryw sy’n dangos y rhanbarth fel cyrchfan ysbrydoledig i dwristiaid, ac sy’n dwyn sylw at yr arwyddocad economaidd posibl ar gyfer y dyfodol.

Mae’r sector twristiaeth yn werth £5biliwn i economi Cymru, ac mae’n cyflogi mwy na 8% o’r gweithlu. Yn 2011, daeth 879,000 o ymwelwyr o dramor i Gymru, gan wario £328miliwn.

Bydd pob un o weinidogion Swyddfa Cymru yn nodi’r dathliadau eleni drwy ymweld a chyrchfannau i dwristiaid ledled Cymru - cyrchfannau sy’n dal i ddenu ymwelwyr o’r DU a thu hwnt, flwyddyn ar ol blwyddyn.

Dywedodd David Jones , Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Roedd yr holl chwaraeon eithriadol yn ystod yr haf a dathliadau’r Jiwbili Diemwnt yn golygu bod sylw wedi’i hoelio ar Brydain Fawr yn 2012, ac yma yng Nghymru, fe wnaethon ni fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at y llu o atyniadau gwych sydd gennyn ni i’w cynnig.

“Mae Wythnos Twristiaeth Cymru yn gyfle newydd i ni nodi rol hollbwysig twristiaeth yn ein heconomi. Roedd ymgyrch Prydain FAWR a lansiwyd gan y Prif Weinidog y llynedd yn gyfle i ni ddangos i’r byd fod Prydain ar agor i fusnes; ac yn lle gwych ymweld ag ef, i fyw, i gynnal busnes ac yn lle gwych i fuddsoddi.

“Rwyf i a’m tim o weinidogion Swyddfa Cymru, yn edrych ymlaen at ddathlu Wythnos Twristiaeth Cymru ac ymweld ag amrywiol gyrchfannau i dwristiaid sy’n creu argraff ar ymwelwyr o gartref a thramor.”

Ymysg rhanbarthau Cymru, Gogledd Cymru ddenodd y gyfran uchaf o dwristiaid Prydain Fawr a oedd yn aros dros nos ar wyliau yn 2011, ac ar ddydd Gŵyl Dewi, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld a dau o atyniadau mwyaf poblogaidd y rhanbarth.

Bydd Mr Jones yn ymweld a Sŵ Mynydd Cymru ym Mae Colwyn i ddathlu ei hanner canmlwyddiant, cyn ymweld a Gerddi Bodnant yn Nyffryn Conwy.

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru sydd a chyfrifoldeb dros dwristiaeth, y Farwnes Jenny Randerson, yn ymweld a thri atyniad yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ar ddydd Mawrth 25 Chwefror, gyda phob un yn cynrychioli’r amrywiaeth o weithgareddau sydd ar gael ar hyd a lled Cymru.

Bydd yn ymweld ag eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Gerddi Dyffryn ac Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, cyn ymuno a Gweinidog Llywodraeth Cymru, Edwina Hart AC ar gyfer lansio Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2013 yng nghanolfan Cwrs Dŵr Gwyn Rhyngwladol, Bae Caerdydd.

Dywedodd y Farwnes Randerson:

“Mae Wythnos Twristiaeth Cymru yn ein hatgoffa ni am y cyfleoedd sydd ar gael ar garreg ein drws yn ogystal ag annog mwy o ymwelwyr i ddod i Gymru. Mae’n caniatau i ni ddathlu’r cyfoeth o ddigwyddiadau, mannau ac atyniadau rhyfeddol sydd gan y wlad i’w cynnig, ac i greu mwy o ymwybyddiaeth o bwysigrwydd hanfodol y diwydiant i bob elfen o’r economi.

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, yn mynd i’r ddinas leiaf yn y DU, Tyddewi yn Sir Benfro, a bydd yn bresennol yn y dathliadau diwylliannol sydd wedi cael eu trefnu i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth.

Hefyd, mewn partneriaeth a Thwristiaeth Sir Benfro, bydd Mr Crabb yn cynnal sesiwn holi ac ateb gyda busnesau lleol i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd y diwydiant twristiaeth yn y rhanbarth, ac i sicrhau bod pryderon gweithredwyr busnes yn cael eu clywed yn San Steffan.

Dywedodd Mr Crabb:

“Mae atyniadau mor amrywiol i dwristiaid yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod ag aelodau’r diwydiant twristiaeth yn Sir Benfro i glywed o lygad y ffynnon am y problemau y maen nhw’n eu hwynebu, a’r cyfleoedd y maen nhw’n manteisio arnyn nhw.

“Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod busnesau’n cael pob cymorth sydd ei angen arnyn nhw i dyfu, ac i wneud yn siŵr bod y diwydiant twristiaeth yn cael y cyfle i ffynnu yng Nghymru.”

Cyhoeddwyd ar 23 February 2013