Gweinidog Swyddfa Cymru yn disgrifio gweledigaeth y Gymdeithas Fawr ar gyfer Cymru
Bu David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ymweld ag Ynys Mon heddiw i ddisgrifio gweledigaeth y Llywodraeth glymblaid o’r Gymdeithas Fawr …
Bu David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ymweld ag Ynys Mon heddiw i ddisgrifio gweledigaeth y Llywodraeth glymblaid o’r Gymdeithas Fawr i aelodau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn Llangefni.
Cyflwynodd y Gweinidog ei weledigaeth ar gyfer Cymru fel rhan o fenter y Gymdeithas Fawr, lle mae cymunedau’n gwneud newidiadau ac yn cynllunio atebion i’w problemau eu hunain.
Meddai Mr. Jones: “Mae gan Gymru eisoes ysbryd cymdogol cryf a hoffwn weld hyn yn cael ei ymestyn er mwyn i gymunedau gael eu hysbrydoli i chwarae’u rhan yn adeiladu’r Gymdeithas Fawr. Rwyf wedi gweld enghreifftiau o hyn yn cael eu rhoi ar waith yn barod - megis y pentrefwyr yn Llanarmon yn Ial a ddechreuodd redeg hen dafarn y pentref er mwyn creu Swyddfa Post.
“Mae’r Gymdeithas Fawr yn ymwneud a rhoi’r awenau yn nwylo cymunedau. Os byddwn yn rhoi’r pŵer i newid yn nwylo pobl rwy’n gwbl ffyddiog y byddant yn cael eu hysbrydoli i ddefnyddio’r pŵer hwnnw.”
Nodiadau
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar syniadau i feithrin a chefnogi gwirfoddoliaeth a dyngarwch yn ein cymunedau mewn papur gwyrdd ‘Rhoi’. Mae’r Papur Gwyrdd yn cynnig ffyrdd ymarferol a synhwyrol y gall y Llywodraeth eu defnyddio i hybu’r broses o roi i elusennau, pobl yn rhoi amser, arian, asedau, sgiliau a gwybodaeth i helpu i wneud bywyd pawb yn well.
Mae Gweinidogion yn awyddus i ddod a phobl at ei gilydd i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi gweithredu gwirfoddol ac elusennol ac amlygu’r gwaith rhagorol sy’n digwydd eisoes. Mae’r Papur Gwyrdd yn destun ymgynghori ar hyn o bryd ac mae’r Llywodraeth yn annog unrhyw un i gysylltu os oes ganddynt farn am sut y dylai ein cymdeithas gefnogi rhoi elusennol. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 9 Mawrth 2011. Gellir ymateb drwy e-bostio giving@cabinet-office.x.gsi.gov.uk.