Gweinidog yn Swyddfa Cymru yn mwynhau blas ar Ogledd Cymru mewn sioe amaethyddol
Bydd Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Guto Bebb, yn ymuno â mwy na 60,000 o ymwelwyr ar Ynys Môn i ddathlu hufen y Gymru wledig yn Sioe Amaethyddol Môn
Heddiw bydd Mr Bebb yn treulio amser yn mynd o amgylch y sioe ac yn ymweld ag arddangoswyr amrywiol, gan gynnwys Cwmni Caws Glanbia, cigyddion o fri Edwards o Gonwy, a’r cwmni halen enwog, Halen Môn.
Bydd hefyd yn ymweld â chwmni Pŵer Niwclear Horizon, Cymdeithas Dwristiaeth Ynys Môn, Medrwn Môn ac Age Cymru.
Bydd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru’n cyfarfod Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) ac yn cael clywed am gynigion UAC ar gyfer sut i gael y cyhoedd i brynu cynnyrch ffermydd Prydain pan fo hynny’n bosib.
Ffermio yw asgwrn cefn economi amaethyddol Cymru, gan gyflogi bron i 60,000 o bobl yn llawn amser neu’n rhan amser, gydag amcangyfrif o bron i £1.5 biliwn o allbwn bob blwyddyn.
Dywedodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru:
Mae’n braf iawn cael bod yma yng Ngogledd Cymru’n gweld bwydydd gwych Cymru’n cael eu harddangos gartref.
Mae hefyd yn bwysig cyfarfod undebau’r ffermwyr a chynnig sicrwydd yng ngoleuni pleidlais y refferendwm ar aelodaeth o’r UE. Nawr mae’n rhaid i ni sicrhau’r mynediad gorau posib i farchnadoedd Ewrop a dal ati i annog y cyhoedd i brynu cynnyrch lleol pan fo hynny’n bosib.
Mae amaethyddiaeth a ffermio’n hanfodol i’n heconomi a’n diwylliant ni ac rydw i eisiau i’r diwydiant wybod ein bod ni’n gwrando ar beth sy’n cael ei ddweud a sicrhau bod llais y byd ffermio’n cael ei glywed yn San Steffan.