Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson: Bydd yr Arglwydd Rowan Williams yn “Ganghellor disglair ar gyfer Prifysgol De Cymru”
Croesawodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson nifer o academyddion a gwleidyddion i Dŷ Gwydyr heddiw [17 Mehefin] wrth i Brifysgol De Cymru gyhoeddi mai Canghellor nesaf y brifysgol fydd yr ysgolhaig a’r academydd y Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Williams o Ystumllwynarth.
Vice Chancellor, Julie Lydon, Rt Hon Lord Morris, Rt Hon Lord Williams and Baroness Randerson.
Bu’r Arglwydd Williams yn Archesgob Caergaint rhwng 2002 a 2012, ac mae bellach yn Feistr Coleg Magdalen, Caergrawnt, a bydd yn olynu’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Morris o Aberafan KG CF, a gynhaliodd y digwyddiad yn adeilad Swyddfa Cymru yn Whitehall heddiw.
Ar ôl y derbyniad, dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:
Roedd yn fraint ac yn anrhydedd mai yn Swyddfa Cymru y cyhoeddwyd newyddion mor nodedig. Fe wnes i gyfarfod â’r Arglwydd Williams am y tro cyntaf 15 mlynedd yn ôl, ac rwy’n gwybod y bydd yn Ganghellor disglair ym Mhrifysgol De Cymru.
Bydd ei frwdfrydedd a’i arbenigedd yn hwb go iawn i’r Brifysgol ac ni allaf i feddwl am unrhyw un gwell ar gyfer y rôl hon ac i ddatblygu’r Brifysgol yn bresenoldeb byd-eang yn y gymuned addysg uwch.
Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Williams yn y Brifysgol yn y dyfodol agos er mwyn parhau’r cysylltiadau rydyn ni eisoes wedi’u ffurfio â Phrifysgol De Cymru.
Hefyd hoffwn ddiolch i’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Morris am ei waith gyda’r Brifysgol hyd yma. Mae wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o ddatblygu’r Brifysgol hyd yma a dylai fod yn falch iawn o’r hyn y mae wedi ei gyflawni.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyhoeddiad, cysylltwch â thîm cyfathrebu Prifysgol De Cymru ar 01443 483 362.