Datganiad i'r wasg

Swyddfa Cymru yn ymateb i Gyllideb 2013

Bydd Cyllideb Canghellor y Trysorlys yn braenaru’r ffordd ar gyfer adferiad economaidd cynaliadwy ac yn cefnogi uchelgeisiau pobl a busnesau Cymru, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones heddiw (20 Mawrth 2013).

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Dywed Mr Jones y bydd cyhoeddiadau’r Canghellor yn cefnogi pobl yng Nghymru sydd ag uchelgais i weithio’n galed a dod yn eu blaenau, yn cynorthwyo busnesau Cymru sydd eisiau tyfu ac yn helpu pobl i gael eu troed ar yr ysgol dai.

O ganlyniad i’r mesurau a gyhoeddwyd heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn elwa o £161 miliwn yn ychwanegol o bŵer gwario cyfalaf. Bydd hyn yn dwyn cyfanswm y pŵer gwario cyfalaf ychwanegol a roddir i Lywodraeth Cymru dros gyfnod yr adolygiad o wariant i dros £858 miliwn.

Bydd y Llywodraeth hefyd yn cyflwyno lwfans o £2,000 y flwyddyn i bob busnes ac elusen i’w ddefnyddio yn erbyn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol eu gweithwyr o 2014 ymlaen. Bydd y mesur hwn yn rhoi budd o £50 miliwn i 35,000 o fusnesau yng Nghymru, gydag 20,000 o’r busnesau hyn yn cael eu heithrio o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn gyfan gwbl.

Bydd perchnogion y 1.8 miliwn o gerbydau yng Nghymru yn elwa o ganslo’r cynnydd arfaethedig yn y dreth ar danwydd ym Medi 2013, gan arbed i’r modurwr arferol £25 y flwyddyn a £750 y flwyddyn i gludwyr.

Bydd 1.1 miliwn o drethdalwyr yng Nghymru yn elwa o’r cynnydd yn y lwfans treth bersonol i £10,000, a bydd yn eithrio 12,000 o unigolion ar incwm isel o dalu treth incwm yn gyfan gwbl. Gyda’i gilydd, mae’r newidiadau yn nhrothwy’r lwfans personol er 2010 wedi eithrio 130,000 o bobl yng Nghymru rhag gorfod talu treth incwm o gwbl.

Bydd pobl sy’n gobeithio prynu eu cartref cyntaf yng Nghymru yn elwa o ‘Warant Morgeisi Cymorth i Brynu’ y Llywodraeth, yn sgil cyflwyno gwarant ecwiti’r llywodraeth ar forgeisi 95%.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrthi’n cynnal cyfres o ymweliadau thematig addysg a busnes yn Hanoi, fel rhan o’i daith fasnachu a buddsoddi i Asia. Gan siarad o Hanoi, lle mae heddiw’n nodi mynediad y DU i Sefydliad Gweinidogion Addysg De Ddwyrain Asia (SEAMEO), meddai:

“Bwriedir y mesurau a gyhoeddwyd gan y Canghellor heddiw i sefydlogi cyllid y wlad, i adfer hyder mewn busnes, ac i sicrhau twf y sector preifat. Maent yn dangos bod Llywodraeth y DU yn gosod y sylfeini ar gyfer twf economaidd drwy weithredu mewn modd pendant.

“Roeddwn yn falch o weld y bydd Llywodraeth Cymru yn cael £161 miliwn o arian cyfalaf yn ychwanegol o ganlyniad i’r Gyllideb hon. Mater i Brif Weinidog Cymru a’i dîm yn awr yw gosod eu blaenoriaethau eu hunain a defnyddio’r arian hwn i fuddsoddi mewn seilwaith o ansawdd, gan gynnwys mewn unrhyw brosiectau sy’n barod i ddechrau ond sy’n aros am gefnogaeth ariannol i’w rhoi ar ben ffordd.

“Rydym ni wedi ymrwymo o hyd i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac i barhau â’n trafodaethau cadarnhaol ar yr opsiynau ariannu ar gyfer gwella’r M4 yn y de. Mae’r rhain yn cael eu hystyried ochr yn ochr â’r argymhellion a wnaed yn adroddiad Comisiwn Silk a byddwn yn ymateb maes o law.

“Roeddwn hefyd yn falch dros ben o weld bod blaenoriaethau aelodau fy Ngrŵp Cynghori Busnesau, i weld cynnydd mewn cyllid cyfalaf i Gymru, ac i gyflwyno’r lwfans Cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi’u hadlewyrchu yn y Gyllideb heddiw.

“Yr hyn y mae’r Gyllideb hon yn ei ddangos yw bod y Llywodraeth hon yn benderfynol o baratoi’r ffordd ar gyfer adferiad economaidd cynaliadwy. Rydym ni’n creu’r amodau i helpu busnesau yng Nghymru i sefydlu, tyfu a datblygu, i helpu unigolion i ofalu am eu teuluoedd ac i gefnogi dyheadau pawb am Gymru fwy ffyniannus.”

Mewn mesurau eraill a gyhoeddwyd heddiw, bydd busnesau yng Nghymru hefyd yn elwa o Gyllideb heddiw gyda’r cyhoeddiad o ostyngiad pellach o 1% ym mhrif gyfradd y dreth gorfforaethol, gan ddod â’r gyfradd i 20% erbyn 2015.

Cadarnhaodd y Canghellor hefyd y byddai’n darparu £750 miliwn y flwyddyn i helpu i gefnogi teuluoedd sy’n gweithio gyda’u costau gofal plant. Yng Nghymru, bydd 110,000 o deuluoedd sydd â 170,000 o blant dan 12 oed yn gallu hawlio’r cymorth hwn.

Bydd y 192,745 o Fusnesau Bach a Chanolig (BBaCh) yn elwa o fesurau i wella mynediad i gyllid drwy gyfrwng y Banc Busnes a’r Cynllun Gwarant Cyllid Menter. Bydd y sector awyrofod pwysig yn y gogledd hefyd yn elwa o fynediad i’r Sefydliad Technoleg Awyrofod gwerth £2.1 biliwn i gefnogi ymchwil a datblygu yn y sector hwn.

Bydd gweithredwyr dros 21,000 o lorïau nwyddau trwm a 10,000 o fysiau a choetsis yng Nghymru hefyd yn elwa o rewi’r Dreth Gerbydau yn 2013-14.

Meddai’r Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Stephen Crabb:

“Mae’r gyllideb hon yn datgan camau gweithredu’r Llywodraeth hon i symbylu twf, a sicrhau tegwch i bawb ar yr un pryd.

“Caiff y penderfyniad i ganslo’r cynnydd arfaethedig yn y dreth ar danwydd ym Medi ei groesawu ledled Cymru. O fis Ebrill ymlaen, bydd prif cyfartalog litr o betrol yn 13 geiniog y litr yn rhatach nag y byddai pe byddem wedi parhau â’r cynnydd yn y dreth a oedd ar y gweill gan y llywodraeth flaenorol.

“Rydym ni’n parhau i roi blaenoriaeth i fusnes a thwf drwy gwtogi cyfradd y dreth gorfforaethol hyd yn oed ymhellach, a gan ddarparu i BBaCh well mynediad i gyllid. Bydd hyn yn helpu i’n gwneud yn fwy cystadleuol gartref a thramor.

“Yr hyn sy’n glir yw nad yw’r Llywodraeth hon yn mynd i droi ei chefn ar ein problemau, rydym yn mynd i’w goresgyn. Bydd y Gyllideb yn dygnu arni ac yn cymryd y camau nesaf i greu economi gryfach.”

Meddai’r Gweinidog yn Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson:

“O fusnesau i deuluoedd, bydd cyhoeddiad y Gyllideb yn cael effaith deg a chadarnhaol yng Nghymru.

“Bydd y 110,000 o deuluoedd sydd â 170,000 o blant dan 12 yng Nghymru yn croesawu cyflwyno gofal plant di-dreth. Mae gormod o deuluoedd yn ei chael yn anodd talu am ofal plant ac yn aml cânt eu hatal rhag gweithio’r oriau yr hoffent eu gweithio. Dan y cynllun hwn, gallai teulu arferol gyda dau o blant arbed hyd at £2,400 y flwyddyn. Mae hwn yn hwb uniongyrchol i bocedi teuluoedd sy’n gweithio’n galed yn yr hyn fydd yn un o’r mesurau mwyaf erioed i gael ei gyflwyno i helpu rhieni gyda chostau gofal plant.

“Bydd y cynllun Gwarant Morgeisi Cymorth i Brynu hefyd yn darparu cefnogaeth sylweddol i’r rheini sy’n ei chael yn anodd casglu blaendal ynghyd i brynu cartref, ond y byddent yn gallu cynnal morgais.

“Mae’r Gyllideb hon yn dangos bod y llywodraeth glymblaid yn sefydlu’r amodau i gefnogi pobl Cymru gyda’r nod o gefnogi twf economaidd tymor hir ledled y DU.”

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cyhoeddi Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw. Mae’r ffigurau’n datgelu, er bod y lefelau cyflogaeth yng Nghymru wedi gostwng dros y chwarter diwethaf, mae’r rhagolygon tymor hir yn gadarnhaol o hyd.

Yn unol â gweddill y DU, cynyddodd y lefelau diweithdra yng Nghymru dros y chwarter diwethaf. Mae’r lefel gyflogaeth wedi gostwng 8,000 ers y chwarter diwethaf. Er hynny, o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, mae cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 7,000, mae diweithdra ymysg ieuenctid yn is ac mae gweithgaredd economaidd hefyd yn is.

Mewn ymateb i’r ffigurau, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:

“Er bod ffigurau cyflogaeth heddiw yn siomedig i Gymru, maent hefyd yn amlygu’r angen i gryfhau economi Cymru.

“Ar draws y DU gyfan, gwelsom lefelau cyflogaeth yn cynyddu 131,000 dros y chwarter diwethaf yn unig. Rydym yn awyddus i weld y momentwm hwn yn cael ei adlewyrchu yng Nghymru.

“Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddatblygu economaidd yng Nghymru, ond rydym ni eisiau gweithio gyda nhw i achub ar bob cyfle i ddenu buddsoddiadau a chreu swyddi. Rhaid i’r nod cyffredin hwn fod wrth wraidd ein perthynas dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”

Cyhoeddwyd ar 26 March 2013