Cymru’n ymuno â Cysylltu â Gwaith wrth i filoedd gael cynnig cymorth i gael mewn i swyddi
Ardaloedd cyntaf Cymru yn lansio gwasanaethau ‘Cysylltu â Gwaith’ wrth i 16 rhanbarth arall ledled Cymru a Lloegr gael cadarnhad o’u cyllid
- Cymorth cyflogaeth ‘un i un’ a ddarperir mewn lleoliadau cymunedol lleol, fel parciau a chaffis, fydd yn paru pobl a swyddi yn seiliedig ar eu galluoedd a’u hamgylchiadau personol.
- Buddsoddiad o £300 miliwn yn rhan o fenter “Llwybrau at Waith” y Llywodraeth - yn cefnogi dros 75,000 o bobl anabl a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd, gan gynyddu cyfanswm cyllid y rhaglen i fwy na £950 miliwn.
Mae gwasanaethau Cysylltu â Gwaith cyntaf Cymru wedi agor eu drysau, yn nodi carreg filltir bwysig yng nghyflawniad menter Llwybrau at Waith y Llywodraeth - ei gynllun hir dymor i ddiwygio budd-daliadau a chymorth cyflogaeth, ac i helpu pobl anabl, sy’n gallu gweithio, gyda’r gefnogaeth gywir i gael swyddi da.
Heddiw, mae cyllid wedi’i gadarnhau mewn 16 ardal arall ledled Cymru a Lloegr fel rhan o ehangu gwerth £300 miliwn — i newid bywydau, wrth ddod â chymorth cyflogaeth wedi’i addasu i dros 75,000 mwy o bobl sy’n wynebu rhwystrau cymhleth i waith.
Mae Canolbarth Cymru, Gogledd Cymru a De-orllewin Cymru ymhlith yr 16 ardal ble mae’r cyllid wedi’i gadarnhau, sy’n cyflawni carreg filltir arwyddocaol yn ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau y gall pob gwlad a rhanbarth wireddu eu potensial llawn.
Er mwyn helpu gwella rhagolygon cyflogaeth pobl anabl, pobl a chyflyrau iechyd â’r rhai sydd ag anghenion cymhleth, bydd y tair ardal Cymraeg yn derbyn:
- Canolbarth Cymru: Hyd at £3.9 miliwn i’w roi i 1,000 o bobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd â’r rhai sydd â rhwystrau cymhleth i weithio; eu cyfle i ddod o hyd i gyflogaeth dda a diogel.
- Gogledd Cymru: Hyd at £13.3 miliwn i ddarparu, ar gyfer 3,550 o bobl, ar draws y rhanbarth, gyda chymorth cyflogaeth wedi’i deilwra.
- De-Orllewin Cymru: Hyd at £14.4 miliwn i gynnig y gefnogaeth wedi’i theilwra sydd ei angen ar gyfer 3,850 o bobl leol, i ddod o hyd i waith.
Mae’r cyllid yn dod â chyfanswm buddsoddiad y rhaglen i dros £950 miliwn ledled Cymru a Lloegr, a disgwylir i’r cyllid ar gyfer De-ddwyrain Cymru gael ei gadarnhau yn fuan.
Gyda 2.8 miliwn o bobl allan o waith oherwydd afiechyd, mae’r Llywodraeth yn cymryd camau i fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd a thyfu’r economi fel rhan o’r Cynllun ar gyfer Newid. Mae ‘Cysylltu â Gwaith’ yn rhoi’r offer sydd eu hangen i’r ardaloedd lleol i ddylunio cefnogaeth o amgylch yr hyn sy’n gweithio i’w cymunedau hwy; deall y marchnadoedd swyddi lleol a mynd i’r afael a’r heriau penodol y mae eu trigolion yn eu hwynebu.
Dywedodd y Gweinidog Cyflogaeth, y Gwir Anrhydeddus Fonesig Diana Johnson:
Mae’r Llywodraeth hon yn credu ym mhotensial pob person ym mhob rhan o’r DU. Dyna pam rwy’n falch iawn o gadarnhau cyllid ar gyfer tri o’r pedwar ardal gyflenwi yng Nghymru, ac mae’n wych gweld dau o’r ardaloedd hynny eisoes ar agor ac yn cefnogi cyfranogwyr.
Am gyfnod rhy hir, mae gormod o bobl wedi cael eu diystyru a’u gadael ar ôl. Mae Cysylltu â Gwaith yn newid hynny- wrth roi cefnogaeth wirioneddol, wedi’i theilwra i symud pobl allan o dlodi ac i swyddi da. Dyna beth mae lledaenu cyfleoedd yn ei olygu yn ymarferol.
Mae cefnogaeth y rhaglen wedi’i chynllunio i gyd fynd ag anghenion yr unigolyn - gall y cyfranogwyr gyfarfod â’u cynghorydd cyflogaeth lle bynnag y maent yn teimlo fwyaf cyfforddus, boed hynny’n gaffi lleol, parc neu ganolfan gymunedol.
Mae’n darparu cymorth dwys, personol, gan gynnwys hyfforddiant unigol gan arbenigwyr cyflogaeth, gwasanaethau paru swyddi, a chefnogaeth barhaus i gyfranogwyr a chyflogwyr fel ei gilydd; gan chwalu’r rhwystrau a all wneud i fynediad at gymorth cyflogaeth draddodiadol deimlo’n frawychus ac i sicrhau nad yw pobl yn cael swyddi yn unig - eu bod yn eu cadw.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens:>
Mae darparu cymorth wedi’i dargedu i bobl gael gwaith, yn golygu dyfodol mwy sefydlog yn ariannol ac ansawdd bywyd gwell i lawer. :> Bydd y gefnogaeth wedi’i theilwra a gynigir gan wasanaethau Cysylltu â Gwaith yng Nghymru yn sicrhau bod unrhyw un sy’n gallu gweithio yn cael ei gefnogi i gael y swydd gywir iddynt, ac yn eu helpu i gyflawni eu hamcanion.
Mae’r ehangu hefyd yn cynnwys 13 ardal arall ledled Lloegr gan gynnwys:
- Gorllewin Swydd Efrog: Hyd at £48.2 miliwn i gefnogi dros 13,000 o bobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd a rhwystrau cymhleth i waith
- Dwyrain Canolbarth Lloegr: Hyd at £44.1 miliwn o gyllid i ddarparu cymorth cyflogaeth wedi’I deilwra i dros 12,000 o bobl lleol
- Rhanbarth Dinas Lerpwl: Hyd at £43.1 miliwn yn rhoi’r cyfle i 12,000 o bobl ar draws y rhanbarth
Mae Cysylltu â Gwaith eisoes yn trawsnewid bywydau ledled Lloegr gyda meysydd cyflawni cynnar yn dangos y gwahaniaeth gwirioneddol y gall cymorth cyflogaeth wedi’i dargedu ei wneud.
Ar ei brofiad gyda Cysylltu â Gwaith, dywedodd Adrian o Portsmouth:
Ers ymuno â Cysylltu â Gwaith gyda Chyngor dinas Portsmouth, rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael fy mharu â Leigh sydd wedi bod yn fy helpu i gyfyngu fy chwiliad am swydd, a dod o hyd i gyflogwyr sy’n fodlon fy nghefnogi gydag addasiadau rhesymol.
Rydym wedi gwneud cais am 2 rôl, ac rydym wedi siarad â chyflogwr gyda’n gilydd am rôl yn seiliedig mewn swyddfa, a byddwn yn ymholi ymhellach am rolau eraill o fewn eu cwmni.
Rydym hefyd yn gwneud cais i ddarparwr gwasanaeth gofalu am anifeiliaid anwes ar-lein, i edrych ar ddod yn Lletywr Cŵn, a ddaeth Leigh, fy nghynghorydd, i fyny fel syniad imi. Felly, dim ond ar ôl cael ychydig o sesiynau gyda Leigh, rwy’n teimlo fy mod yn gwneud mwy o gynnydd tuag at waith nag yr oeddwn i’n gallu ei wneud ar fy mhen fy hun.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA):
Mae’r llywodraeth leol yn croesawu’r cyfle y mae’r fenter ddiweddaraf hon yn ei roi i fuddsoddi mewn cymorth cyflogaeth arbenigol dan arweiniad lleol. Mae galluogi cynghorau i gynllunio a darparu cefnogaeth hanfodol o’r fath yn lleol, yn gydnabyddiaeth groesawgar o rôl allweddol y llywodraeth leol wrth fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd.
Mae cynghorau mewn sefyllfa dda i gyflawni’r rhaglen hon, wrth weithio gyda gwasanaethau cymorth cyflogaeth ac iechyd eraill yn eu hardaloedd, a chynyddu’r cysylltiadau o fewn gwasanaethau allweddol eraill y cyngor, gan gynnwys - dysgu cymunedol ac oedolion, gofal cymdeithasol i oedolion, iechyd y cyhoedd, tai, addysg a sgiliau a datblygiad economaidd.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n holl bartneriaid allweddol ar draws pob rhan o Gymru, i sicrhau fod y gefnogaeth hanfodol hon yn galluogi’r unigolion hynny sydd â rhwystrau cymhleth, i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith”.
I gael mynediad at gymorth, gall pobl anabl a’r rhai â chyflyrau iechyd neu rwystrau cymhleth i weithio hunangyfeirio, neu gael eu cyfeirio at y gwasanaeth drwy amrywiol lwybrau, gan gynnwys gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, awdurdodau lleol a phartneriaid yn y sector gwirfoddol.
Mae Cysylltu â Gwaith yn rhan o becyn ehangach Llywodraeth y DU, sef Cael Prydain i Weithio, gwerth £3.5 biliwn — y buddsoddiad mwyaf mewn cymorth cyflogaeth ers cenhedlaeth. Mae’r pecyn yn cynnwys ailwampio Canolfannau Gwaith, fel bod gan yr Anogwyr Gwaith fwy o amser i gefnogi unigolion ac i ailgychwyn pobl sydd wedi bod yn ddi-waith yn hir dymor, i mewn i waith.
Mae hefyd yn darparu Gwarant Ieuenctid, fel bod pob person ifanc yn ennill cyflog neu’n dysgu, ac yn ehangu mentrau iechyd a gwaith fel Work Well. Gyda’i gilydd, mae’r mesurau hyn wedi’u cynllunio i fynd i’r afael ar anweithgarwch economaidd, i chwalu’r rhwystrau i gyflogaeth, a chreu cyfleoedd ym mhob rhan o’r wlad.
Gwybodaeth Bellach
- Mae ‘Cysylltu â Gwaith’ yn rhaglen a ddarperir yn lleol yn dilyn fframwaith ‘Cyflogaeth a Chymorth’ a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae’n cefnogi pobl sy’n economaidd anweithredol neu sydd mewn perygl o golli eu swydd oherwydd eu hiechyd neu anghenion cymhleth, gan gynnwys y rhai sydd â heriau iechyd meddwl ac anableddau dysgu.
Dywedodd Gus Williams, Prif Swyddog Gweithredol Siambr Fasnach Prydain ar gyfer De-ddwyrain, De-orllewin a Chanolbarth Cymru:
Gwyddom mai cyfranogiad economaidd yw un o’r heriau mwyaf yng Nghymru, gyda gormod o bobl wedi’i heithrio o’r gweithle oherwydd problemau iechyd. Ar yr ochr arall, mae llawer o fusnesau yn wynebu heriau o ran sgiliau a recriwtio. Gall y rhesymau dros hyn fod yn gymhleth.
Mae ‘Cysylltu â Gwaith’ yn cynrychioli ymrwymiad a buddsoddiad sylweddol gan y llywodraeth i ddarganfod ffyrdd o ddatrys yr heriau hyn. Mae’r gefnogaeth un-i-un yn cydnabod nad oes un ateb, ond fod angen cymorth wedi’i deilwra ar bobl a busnesau i ddiwallu anghenion unigol a lleol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r DWP i helpu ni i ymgysylltu â chyflogwyr a chefnogi treialon ‘Cysylltu â Gwaith’ yma yng Nghymru.
- Dyma’r ffigyrau ariannu ar gyfer pob ardal gyflawni:
| Ardal Dosbarthu | Cyllid (hyd at) | Pobl a gefnogir (wedi’i dalgrynnu) |
|---|---|---|
| Canolbarth Cymru | £3.9m | 1,000 |
| De Ddwyrain Cymru | £14.4m | 3,850 |
| Gogledd Cymru | £12.9m | 3,550 |
| Dyffryn Tees | £17.6m | 5,000 |
| Caerlŷr, Swydd Gaerlŷr a Rutland | £17.2m | 4,650 |
| Cernyw ac Ynysoedd Scilly | £13.1m | 3,100 |
| Gorllewin Swydd Efrog | £48.2m | 13,350 |
| Gorllewin Lloegr (yn cynnwys Gogledd Gwlad yr Haf) | £15.4m | 3,900 |
| Swindon a Wiltshire | £10.4m | 2,600 |
| Dwyrain Canolbarth Lloegr | £44.1m | 12,200 |