Datganiad i'r wasg

Cymru yn lle delfrydol ar gyfer busnesau o’r radd flaenaf, meddai Ysgrifennydd Cymru

Mae cyflogwyr byd-eang megis Panasonic yn arwain y ffordd wrth ddangos pam mae Cymru’n lleoliad delfrydol ar gyfer busnes ac ar gyfer buddsoddi…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae cyflogwyr byd-eang megis Panasonic yn arwain y ffordd wrth ddangos pam mae Cymru’n lleoliad delfrydol ar gyfer busnes ac ar gyfer buddsoddi, yn ol Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, a fu’n ymweld a’r safle yng Nghaerdydd.  
 
Roedd Mrs Gillan yn mynd o amgylch safle Pentwyn, sy’n cyflogi 520 aelod o staff mewn pedair uned fusnes wahanol, a’r rheini’n ymwneud a gweithgynhyrchu poptai microdon, ffurfweddu gliniaduron, amgryptio disgiau, a chynnal gwaith ymchwil a datblygu yng nghyswllt setiau teledu. Ei bwriad oedd gweld sut mae Panasonic wedi datblygu’r gweithlu lleol i’w helpu i wella’i sefyllfa fel gweithgynhyrchwr byd-eang allweddol ym marchnadoedd Ewrop.  
   
Dywedodd Mrs Gillan: “Mae’n galonogol bod buddsoddwyr allweddol megis Panasonic yn dal yn ystyried Cymru fel lle delfrydol ar gyfer buddsoddi. Mae gennym weithlu medrus ac ymrwymedig iawn, ac mae cyflogwyr yn cydnabod ein bod yn meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a’r cyfleoedd i helpu eu busnesau i dyfu ac ehangu.  
   
“Y diwydiant gweithgynhyrchu fu’r prif symbylydd ar gyfer twf parhaus y sector preifat yma yng Nghymru, ac rwy’n falch o weld bod y byd gweithgynhyrchu’n dal yn llwyddiannus er gwaetha’r hinsawdd economaidd anodd.
   
“Mae’n hanfodol ein bod yn dal ati i hyrwyddo Cymru fel lleoliad deniadol ar gyfer entrepreneuriaeth a masnach, gyda’r lefel briodol o gefnogaeth ar gyfer busnesau.”  
   
Dywedodd Mr Tim Onoe (Rheolwr Gyfarwyddwr Panasonic Manufacturing UK) “Mae Panasonic wedi bod yn gweithredu yn ei safle yng Nghaerdydd er 1976, ac er bod natur y gwaith wedi amrywio a datblygu dros y blynyddoedd, mae’r prif bethau sy’n ei gadw yn y lleoliad hwn yr un fath, sef y gweithlu medrus sy’n llawn cymhelliant, a’r gefnogaeth ymarferol a’r cymorth wedi’i dargedu gan y Wladwriaeth. Nod benodol ein rhiant gwmni, sef Panasonic Corporation, yw cyflwyno cynnyrch arloesol yn y degawd nesaf er mwyn dod yn brif gwmni arloesi “gwyrdd” yn y diwydiant electroneg. Mae ein safle yng Nghaerdydd mewn sefyllfa ddelfrydol i gefnogi’r amcan hwn.”  
 
Mae’r Adolygiad Cyllideb a Thwf a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn dynodi sut y bydd Llywodraeth y DU yn helpu busnesau i dyfu drwy fasnachu a buddsoddi, gan ystyried y sector gweithgynhyrchu fel sector allweddol.    
   
Nodiadau i olygyddion: 
  
Mae’r strategaeth ‘Prydain ar agor i Fusnes’ yn dangos sut y bydd Masnach a Buddsoddi y DU a phartneriaid eraill yn meithrin cysylltiadau strategol a llunwyr penderfyniadau ym maes cyfalaf menter, yn atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng clystyrau technoleg tramor ac yn gweithio gyda phartneriaid cyflenwi, megis y Bwrdd Strategaeth Technoleg, er mwyn ysgogi diddordeb a dangos bod y DU yn lle gwych i leoli busnes.    
   
Gellir gweld y strategaeth ‘Prydain ar agor i Fusnes’ yma:

Cyhoeddwyd ar 3 June 2011