Datganiad i'r wasg

“Gall Cymru chwarae ei rhan mewn dadeni ym maes gweithgynhyrchu yn y DU”

Alun Cairns yn tynnu sylw at lwyddiant gweithgynhyrchu yng Nghymru

Mae gan weithgynhyrchu yng Nghymru bŵer i drawsnewid y rhagolygon ar gyfer yr economi ym Mhrydain a bywydau cenedlaethau’r dyfodol, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw wrth iddo annerch cynulleidfa o gwmnïau gweithgynhyrchu blaenllaw yn ne Cymru (4 Mehefin).

Mae digwyddiad blynyddol “Llais Gweithgynhyrchu Cymru” Barclays ac SPTS Technologies Ltd yn dod ag arweinwyr busnes o sector gweithgynhyrchu Cymru at ei gilydd i drafod gyda Gweinidogion yr heriau sydd i ddod a’r camau nesaf ar gyfer y sector wrth i Lywodraeth y DU barhau i osod gweithgynhyrchu wrth galon ei rhaglen ar gyfer dyfodol mwy ffyniannus.

Yn y cyfarfod heddiw yn SPTS Technologies yng Nghasnewydd, amlinellodd Alun Cairns sut bydd Strategaeth Ddiwydiannol Fodern Llywodraeth y DU yn helpu i gadw’r DU yn flaenllaw mewn meysydd hanfodol o fantais gymharol, fel deallusrwydd artiffisial a’r diwydiant modurol.

O led-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghaerdydd i dechnoleg amaethyddol yn Aberystwyth a gwyddorau bywyd yn Wrecsam, mae Cymru eisoes yn croesawu’r cyfleoedd sy’n cael eu darparu gan ddeallusrwydd artiffisial ac arloesi er mwyn chwyldroi sawl maes mewn gweithgynhyrchu.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Gan adeiladu ar gryfderau Cymru, rydyn ni eisiau gweithio’n agos â busnesau er mwyn cefnogi a datblygu galluoedd gweithgynhyrchu’r DU, annog arloesi a hybu allforio.

Dyma pam rydyn ni’n gweithio gyda byd busnes i weithredu Strategaeth Ddiwydiannol fodern ar gyfer gweithgynhyrchu modern ym Mhrydain.

O annog twf ar draws ffiniau yn dilyn diddymu tollau Pontydd Hafren i sicrhau bod cwmnïau o Gymru’n cael eu cyfran o’r cyllid sydd ar gael, roedd y cyfarfod hwn yn llwyfan arall perffaith i ni gryfhau ein perthynas â’r diwydiant yng Nghymru ymhellach.

Yn bwysicach na dim, roedd yn gyfle i mi glywed beth sydd gan yr arweinwyr i’w ddweud i sicrhau ein bod yn cynnal sector gweithgynhyrchu sydd nid yn unig yn buddsoddi ac yn allforio, ond hefyd yn chwaraewr allweddol a hyderus mewn creu dyfodol mwy ffyniannus i Gymru.

Hefyd amlinellodd yr Ysgrifennydd Gwladol nad y Strategaeth Ddiwydiannol yw’r unig faes y mae angen i’r llywodraeth a gweithgynhyrchwyr fod yn gweithio mewn partneriaeth ynddo.

Trafododd bwysigrwydd gwarchod buddiannau gweithgynhyrchu Prydain ar adeg pan mae Prydain yn dyst i berthynas newydd gyda’r UE, a cheisio gwarchod y sector dur yng Nghymru fel rhan o drafodaethau parhaus gydag UDA ynghylch tariffau mewnforio.

Hefyd tanlinellodd ei bod yn bwysig i fusnesau Cymru warchod eu mynediad i farchnadoedd ledled Ewrop a thu hwnt, a sicrhau bod y DU yn parhau i ddenu’r dalent orau a mwyaf disglair o bob cwr o’r byd.

Ychwanegodd Alun Cairns:

Mae cyflogaeth ar gynnydd ledled Cymru ac, yn seiliedig ar y sgyrsiau rwyf wedi’u cael gyda phobl yn yr ystafell heddiw, byddai’n cynyddu mwy fyth pe baent yn gallu cael hyd i ddigon o bobl gyda’r sgiliau y mae arnynt eu hangen.

Felly beth am i ni ddweud wrthyn nhw bod Toyota, ar Lannau Dyfrdwy, yn cynhyrchu injan newydd bob 57 eiliad. Ac yn Sain Tathan, bydd mwy na 7,000 o gerbydau Aston Martin DBX yn dod oddi ar y llinell gynhyrchu pan fydd yn gwbl weithredol ac, ym Mhontyclun, mae Concrete Canvas yn creu chwyldro mewn prosesau adeiladu drwy weithgynhyrchu concrid ar rolyn.

Dywedodd Simon Vittle, Pennaeth Gweithgynhyrchu Barclays yng Nghymru:

Nod y gyfres hon o ddigwyddiadau bwrdd crwn gweithredol yw dod â grŵp dethol o gynrychiolwyr rheoli o amrywiaeth o gwmnïau gweithgynhyrchu rhanbarthol blaenllaw at ei gilydd ar draws diwydiannau, llywodraeth leol, gweinidogion ac arbenigwyr busnes i drafod y materion o bwys sy’n wynebu gweithgynhyrchu yng Nghymru heddiw.

Roedd prinder sgiliau’n destun trafod fel arfer, gyda’r newid o gymwysterau galwedigaethol i raddau prifysgol a’r camsyniadau am y swyddi llawn boddhad gyda chyflog da mae gyrfaoedd peirianneg a gweithgynhyrchu’n eu cynnig. Mae ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gynllunwyr, peirianwyr a gwneuthurwyr yn hollbwysig ond rhaid i ni roi mwy o bwyslais ar wella sgiliau, ailhyfforddi a dysgu gydol oes.

Yn erbyn cefndir heriol, mae gweithgynhyrchwyr y DU yn hynod bositif. Mae allbwn ar gynnydd, llyfrau archebu’n gadarn, buddsoddiadau cyfalaf ar gynnydd ac, unwaith eto, mae “Gwnaethpwyd ym Mhrydain” yn cael ei weld fel bathodyn o safon.

Cyhoeddwyd ar 4 June 2018