Integreiddio’r VOA gyda CThEF
Gwybodaeth am yr integreiddio ar 1 Ebrill 2026
Ar 1 Ebrill 2026, bydd swyddogaethau Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cael eu hintegreiddio i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF), ac ni fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio bellach yn bodoli fel asiantaeth weithredol.
Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar ddarparu ein gwasanaethau craidd na statudol. Mae hyn yn cynnwys gwiriadau a heriau prisiadau ardrethi busnes, heriau band Treth Gyngor, a’r gwaith a wneir gan swyddogion rhent.
Gweithio gyda’n cwsmeriaid
Os ydych chi’n gwsmer gyda’r VOA ar hyn o bryd, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Bydd eich achos yn parhau i gael ei symud ymlaen, ond bydd unrhyw ohebiaeth ar ôl 1 Ebrill yn dod oddi wrth y Swyddfa Brisio o fewn CThEF.
Bydd rhif y llinell gymorth i gwsmeriaid yn aros yr un fath, a bydd y ffurflen gyswllt ar-lein yn parhau i fod ar gael, felly parhewch i gysylltu â ni yn y ffordd arferol.
Os ydych yn gleient masnachol sy’n gweithio gyda thîm y Gwasanaethau Prisiwr Dosbarth, ni fydd unrhyw newid i’r gwasanaeth a ddarperir.
Os ydych chi mewn cysylltiad â gweithiwr achos, bydd eu cyfeiriad e-bost yn newid i @hmrc.gov.uk. Byddant yn parhau i dderbyn e-byst a anfonir i’w hen gyfeiriad e-bost VOA.
Cadw’n ddiogel rhag sgamwyr
Mae sgamwyr yn aml yn talu sylw i faterion cyfoes a newidiadau. Gan amlaf, gwelwn gynnydd mewn gweithgarwch amheus pan fydd biliau ardrethi busnes a’r Dreth Gyngor yn cael eu hanfon.
Fel arfer, os byddwn yn cysylltu â chi ynghylch eiddo penodol, byddwn bob amser yn nodi’r cyfeiriad, yn rhoi cyfeirnod i chi, ac yn gwirio eich hunaniaeth.
Ni fyddwn byth yn cysylltu â chi heb nodi cyfeiriad, cysylltu â chi heb gadarnhau eich enw neu’ch cysylltiad â’r eiddo, yn gofyn am arian heb esboniad clir, nac yn dweud wrthych faint sy’n ddyledus gennych ar gyfer ardrethi busnes neu Dreth Gyngor.
Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw gysylltiad rydych wedi’i dderbyn, rhowch wybod i CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
-
Adding Welsh translation.
-
First published.