Datganiad i'r wasg

Baneri’r Undeb nawr yn ymddangos ar drwyddedau gyrru Prydeinig

O ddydd Llun (6 Gorffennaf 2015), bydd pob trwydded cerdyn-llun a gyhoeddir yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn dangos Baner yr Undeb ochr yn ochr â’r Faner yr Undeb Ewropeaidd bresennol.

Driving licence

Meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth yr Arglwydd Ahmad o Wimbledon:

Mae ein baner yn cael ei hadnabod a’i pharchu ledled y byd ac yn rhywbeth y bydd pobl Prydain yn falch ohoni. Rwy’n falch iawn o’i gweld yn ymddangos ar drwyddedau gyrru.

Rydym yn uno’r wlad gyfan wrth wneud hyn. Mae ychwanegu ein baner genedlaethol ar drwyddedau gyrru Prydeinig yn wir ddathliad o Brydain fel un genedl.

Mae baner yr Undeb Ewropeaidd wedi bod ar drwyddedau gyrru llawn ers i drwyddedau cerdyn-llun ddod i rym gyntaf ym mis Gorffennaf 1998. Mae mwy na 132 miliwn o drwyddedau cerdyn-llun wedi eu cyhoeddi ers iddynt ddod i rym. Llynedd yn unig, cyhoeddodd DVLA fwy na 10.4 miliwn o drwyddedau.

Nodiadau i olygyddion

  1. Bydd Baner yr Undeb yn ymddangos ar bob trwydded yrru a gyhoeddir i fodurwyr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Nid yw’r newidiadau yn berthnasol i fodurwyr yng Ngogledd Iwerddon gan fod trwyddedu gyrwyr yn fater datganoledig yng Ngogledd Iwerddon.
  2. Bydd y newidiadau yn ymddangos ar bob trwydded newydd a’r rhai a gyfnewidir a gyhoeddir i yrwyr Prydain Fawr o 6 Gorffennaf. Bydd trwyddedau sydd mewn cylchrediad eisoes cyn y dyddiad hwnnw yn parhau’n ddilys ac ni fyddant yn cael eu galw’n ôl.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 6 July 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 July 2015 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.