Datganiad i'r wasg

Cyfradd diweithdra wedi gostwng wrth i farchnad swyddi Cymru ragori ar weddill y DU

Mae economi sy’n cryfhau ledled Cymru wedi arwain at leihau diweithdra unwaith eto, wrth i ystadegau newydd awgrymu bod y farchnad swyddi yn ffynnu.

Mae economi sy’n cryfhau ledled Cymru wedi arwain at leihau diweithdra unwaith eto, wrth i ystadegau newydd awgrymu bod y farchnad swyddi yn ffynnu.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae lefel diweithdra yng Nghymru wedi gostwng yn gyflymach nag yn unrhyw ardal arall yn y DU ac mae’n parhau i fod yn is na’r gyfradd ar gyfer y DU gyfan. Mae’r canran y gyfradd cyflogaeth wedi cynyddu mwy nag unrhyw ran arall o’r wlad, gyda dros 1.4 miliwn o bobl mewn gwaith.

Dyma brif bwyntiau Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw:

  • Mae’r lefel diweithdra wedi gostwng 5,000, a’r gyfradd wedi lleihau 0.3 pwynt canran yn ystod y chwarter diwethaf i 4.8%. Roedd 73,000 o bobl ddi-waith yn ôl y data diweddaraf, sef y nifer lleiaf ers 2008.
  • Roedd nifer y bobl a oedd yn hawlio budd-daliadau 100 (0.1 y cant) yn llai rhwng mis Ebrill a mis Mai, a 3,100 (6.8 y cant) yn llai dros y flwyddyn.
  • Mae lefel cyflogaeth yng Nghymru i lawr 2,000 dros y chwarter ond mae’r gyfradd wedi cynyddu 0.3 pwynt canran i 71.9%. Yn ystod y flwyddyn, bu cynnydd o 42,000 yn y lefel a chynnydd o 1.6 pwynt canran, sef y cynnydd mwyaf o bob un o wledydd a rhanbarthau’r DU o ran pwyntiau canran.
  • Nid yw anweithgarwch economaidd – sef pobl nad ydynt mewn cyflogaeth nac yn ddi-waith ond sydd, er enghraifft, yn astudio neu’n gofalu am aelod o ‘r teulu – wedi newid o gymharu â’r chwarter blaenorol. Dros y flwyddyn, gostyngodd anweithgarwch economaidd 10,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 0.5 pwynt canran.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae economi sy’n ehangu yng Nghymru yn creu marchnad swyddi gref.

Mae ystadegau heddiw’n awgrymu unwaith eto bod Cymru’n wlad hyderus sy’n allforio ac yn masnachu er mwyn llwyddo. Hefyd, mae awgrym bod y penderfyniadau anodd a wnaed o ran llesiant yn gweithio, drwy newid agwedd a lleihau diweithdra.

Mae rhagor o waith i’w wneud, ac mae awgrym bod buddsoddiadau’n cael eu gohirio nes byddwn yn gwybod canlyniad refferendwm yr UE. Ond rwyf yn hyderus y bydd Cymru yn ennill y blaen ac yn dal ati i greu swyddi medrus iawn, gyda chyflogau i gyd-fynd â nhw.

Cyhoeddwyd ar 15 June 2016