Skip to main content
Datganiad i'r wasg

Mae 250fed canolfan fancio’r DU yn agor yng Nghas-gwent, gan gadw mynediad at arian parod a bancio wyneb yn wyneb yn y dref

Mae Gweinidog y Trysorlys Lucy Rigby yn agor 250fed canolfan fancio’r DU yn swyddogol yng Nghas-gwent

  • Mae mynediad at arian parod a bancio wyneb yn wyneb wedi’i ddiogelu yng Nghas-gwent wrth i ganolfan fancio newydd agor.
  • Bydd y 250fed canolfan fancio yn y DU yn cael ei hagor gan Weinidog y Trysorlys Lucy Rigby, gan gadw gwasanaeth hanfodol ar garreg drws pobl a chefnogi twf busnesau lleol.
  • Yn rhan o waith ehangach i wella mynediad at wasanaethau bancio ledled y DU ac yn dilyn yr ymrwymiad maniffesto i ddarparu o leiaf 350 o ganolfannau bancio yn ystod senedd y DU hon.

Bydd miloedd o drigolion lleol a mwy na 100 o fusnesau yng Nghas-gwent yn elwa o gadw mynediad at arian parod a gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb hanfodol yn y dref pan fydd 250fed canolfan fancio’r DU yn agor yn swyddogol heddiw.

Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad cau cangen banc olaf Cas-gwent y mis nesaf, a fyddai’n golygu bod yn rhaid i drigolion deithio wyth milltir i Lydney i’r gangen agosaf. Gall y daith honno gymryd tua 30 munud ar drafnidiaeth gyhoeddus a chostio £4, gan greu rhwystr penodol i bobl sy’n dibynnu ar wasanaethau wyneb yn wyneb lleol. 

Mae’r ganolfan fancio newydd yn golygu bod y gallu i roi arian parod yn y banc, a’i dynnu allan, rhoi sieciau yn y banc a chael mynediad at fancwyr cymunedol wedi’i ddiogelu i bobl leol – sy’n cadw gwasanaeth hanfodol ar garreg drws pobl ac yn cefnogi twf busnesau. Mae gan y ganolfan hefyd beiriant ATM allanol y gellir ei ddefnyddio am ddim i ddarparu mynediad 24 awr o’r dydd at arian parod i’r gymuned. 

Yn cael ei agor yn swyddogol gan Weinidog y Trysorlys Lucy Rigby heddiw (dydd Gwener 18fed  Medi) – y ganolfan fancio newydd yw’r 250fed i’w hagor ers i ymrwymiad gael ei wneud yn y maniffesto i ddarparu o leiaf 350 o ganolfannau erbyn diwedd senedd y DU hon. Mae canolfannau bancio wedi’u hagor mewn trefi eraill ledled Cymru, gan gynnwys Caergybi, Prestatyn a Phorthcawl.

Mae canolfannau bancio yn eiddo i Cash Access UK, y sefydliad dielw sy’n dod â gwasanaethau arian parod a bancio a rennir i gymunedau ledled y DU. Mae’r canolfannau’n darparu gwasanaethau cownter arian parod dyddiol i gwsmeriaid roi arian parod yn y banc, a’i dynnu allan, lle mae canghennau banc traddodiadol wedi cau, gan adael cymunedau heb fynediad at arian parod. Maent hefyd yn darparu rhai gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb ehangach gyda nifer o fanciau stryd fawr wedi’u cynrychioli yn y canolfannau trwy fancwyr cymunedol sy’n cylchdroi.

Dywedodd Ysgrifennydd Economaidd y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus Lucy Rigby CB AS:

Mae’r ganolfan fancio newydd hon yn golygu y bydd gan drigolion lleol fynediad o hyd at wasanaethau pwysig y maent yn dibynnu arnynt.

Rydym ymhell ar ein ffordd i agor 350 o ganolfannau ledled y DU – ymrwymiad maniffesto a rhan allweddol o’n Strategaeth Cynhwysiant Ariannol – a fydd yn sicrhau bod gan bobl a busnesau ledled y wlad y mynediad at arian parod a’r gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb y maent yn eu haeddu.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Stephen Kinnock AS:

Mae pobl a busnesau ledled Cymru eisiau i wasanaethau fel bancio fod ar gael yn eu cymunedau lleol – a dyna’r hyn yr ydym yn ei ddarparu drwy’r canolfannau newydd.

Mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o wneud i wasanaethau lleol weithio’n well i bobl, ac rwy’n falch iawn dros bobl Cas-gwent y bydd y ganolfan newydd hon yn gwasanaethu eu cymuned fel bod bancio wyneb yn wyneb yn parhau yma ymhell i’r dyfodol.

Dywedodd Gareth Oakley, Prif Swyddog Gweithredol, Cash Access UK: 

Rwy’n falch o gyhoeddi agoriad canolfan Cas-gwent fel ein 250fed ganolfan, gan sicrhau mynediad hanfodol at arian parod a gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb i drigolion a busnesau ar draws y gymuned leol.

Mae’r gwasanaethau’n hynod boblogaidd, gyda desg flaen brysur i gefnogi trafodion arian parod a bancwyr cymunedol sy’n cylchdroi i gefnogi anghenion bancio wyneb yn wyneb. Eleni rydym wedi agor canolfan newydd bob wythnos, felly rydym yn gweld y gwahaniaeth gwirioneddol y mae’n ei wneud i’r gymuned leol ac yn falch o fod yn dod â’r gwasanaeth hwn i Gas-gwent.

Dywedodd Natalie Ceeney CBE, Cadeirydd, Cash Access UK:

Mae pob un o’n 250 o ganolfannau bancio yn bodoli oherwydd bod angen rhywle ar filiynau o bobl a busnesau bach ledled y DU i gerdded i mewn, rhoi arian eu busnes yn y banc, tynnu arian parod, neu eistedd i lawr gyda rhywun wyneb yn wyneb ynghylch eu bancio.

Ers dechrau 2026, mae mwy nag wyth miliwn o drafodion wedi cael eu cefnogi ar draws pob canolfan fancio a gwasanaeth adneuo gan ddangos bod bancio wyneb yn wyneb a mynediad at arian parod yn dal i fod yn hanfodol i’r rhai sydd ei angen. Rydym yn cydweithio â phrif fanciau’r DU i ddarparu’r gwasanaeth hwn a byddwn yn parhau i wneud hynny er mwyn cefnogi cymunedau ledled y DU.

Mae hyn yn dilyn yr Adolygiad annibynnol i Fynediad at Wasanaethau Bancio, a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU ym mis Mai, a fydd yn archwilio effaith newidiadau mewn mynediad at wasanaethau bancio wyneb yn wyneb ac yn nodi a yw hyn yn achosi niwed i ddefnyddwyr, cymunedau a busnesau. Bydd yr adolygiad yn gwneud argymhellion i’r Llywodraeth ym mis Hydref.