Stori newyddion

Penodi UK Packaging PRO i gyflawni cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith

Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr newydd i weithio gyda PecynUK i helpu i lunio dyfodol cynllun pecynwaith newydd

A photo of used bottles

Mae PecynUK wedi cyhoeddi heddiw (dydd Llun 23 Mawrth 2026) fod UK Packaging PRO wedi’i benodi’n Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (PRO) ar gyfer cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (pEPR) dros becynwaith y Deyrnas Unedig. 

Mae UK Packaging PRO yn sefydliad dan arweiniad cynhyrchwyr sydd wedi’i greu i helpu i gyflawni un o’r rhaglenni amgylcheddol mwyaf arwyddocaol mewn cenhedlaeth. Bydd pEPR yn helpu i sbarduno’r newid tuag at ddeunyddiau mwy ailgylchadwy a lleihau gwastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi’r wlad.

Mae UK Packaging PRO wedi dod â mwy na 100 o frandiau, manwerthwyr a chyrff masnach mwyaf y Deyrnas Unedig at ei gilydd, gyda chefnogaeth y Ffederasiwn Bwyd a Diod (FDF) a’r Cyngor Diwydiant Pecynwaith a’r Amgylchedd (INCPEN), ymhlith eraill.

Ac yntau’n fodel gwirioneddol gydweithredol, mae PRO dan arweiniad y diwydiant yn gyfle unigryw i randdeiliaid ar draws y gadwyn werth lunio cyflawniad y cynllun pEPR yn y dyfodol. Mae’n cryfhau’r bartneriaeth rhwng y llywodraeth a’r diwydiant, gan harneisio dirnadaeth ac arbenigedd y cynhyrchwyr i gyflawni rhwymedigaethau pEPR a nodau cyffredin, i gynyddu cyfraddau ailgylchu a sbarduno cylcholrwydd.

Dywedodd Jeremy Blake, Prif Swyddog Gweithredol PecynUK:

Rwy’n falch iawn o groesawu UK Packaging PRO fel y Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr newydd.

Mae’r cyhoeddiad yma yn dilyn proses ddethol drylwyr, gan fod PecynUK wedi ymrwymo i ddewis yr ymgeisydd gorau posibl i gynrychioli buddiannau amrywiol y diwydiant pecynwaith.

Bydd penodi’r PRO yn gwella’r cynllun ymhellach trwy ddatgloi’r manteision y gall sefydliad dan arweiniad y diwydiant eu cynnig.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Gylchol, Mary Creagh:

Bydd y llywodraeth yma yn cyflymu’r trawsnewidiad i economi gylchol.

Bydd ein cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (pEPR) yn cymell busnesau tuag at ddewisiadau pecynwaith mwy cynaliadwy ac yn gwella gwasanaethau ailgylchu ym mhob rhanbarth.

Mae lansio UK Packaging PRO, dan arweiniad busnesau a chan weithio’n agos gyda PecynUK, yn gam mawr ymlaen – gan roi arbenigedd y diwydiant wrth wraidd sut mae pEPR yn cael ei gyflawni.

Dywedodd Karen Graley, Pennaeth UK Packaging PRO:

Rydyn ni’n falch iawn o gael ein penodi i chwarae rôl mor hanfodol yn y cynllun EPR Pecynwaith. Cafodd UK Packaging PRO ei greu i roi sedd wirioneddol wrth y bwrdd i’r cynhyrchwyr.

Gyda llywodraethiant cryf ar waith, cynllun gweithredu clir, a chefnogaeth eang o bob rhan o’r sector, rydyn ni’n barod i fynd ati – mewn partneriaeth agos â PecynUK, llywodraethau, awdurdodau lleol a sefydliadau ar draws y gadwyn werth i ddarparu system becynwaith sy’n gweithio’n well i bawb.

Mae’r cynllun pEPR yn darparu cyllid i’r awdurdodau lleol, i ysgogi gwelliannau mewn ailgylchu, gydag £1.4 biliwn yn cael ei fuddsoddi ym Mlwyddyn gyntaf y cynllun. Mae hyn yn helpu i wella’r broses o gasglu ac ailgylchu gwastraff pecynwaith, ac yn cymell cynhyrchwyr i leihau ôl troed eu deunyddiau.

Bydd penodiad ffurfiol UK Packaging PRO yn dechrau ar 1 Ebrill 2026, gyda chyfrifoldebau’n cael eu cyflwyno’n raddol. Bydd PecynUK yn goruchwylio’r PRO ac yn sicrhau ei fod yn atebol i lywodraethau pedair gwlad  y Deyrnas Unedig.

Bydd y pwerau gweinyddol craidd, megis penderfyniadau terfynol ar daliadau i’r awdurdodau lleol a ffioedd y cynhyrchwyr, yn aros yn nwylo PecynUK.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dilyn proses ddethol helaeth ac yn tynnu ar arferion gorau rhyngwladol sydd wedi ennill eu plwyf. Mae cynlluniau tebyg eisoes yn gweithredu’n llwyddiannus mewn mwy na 30 o wledydd, gan gynnwys Gwlad Belg, Ffrainc a’r Almaen, lle maen nhw wedi helpu i sbarduno cyfraddau ailgylchu uwch, mwy o effeithlonrwydd mewn systemau a chostau is.

Bydd PecynUK yn adeiladu ar ddulliau cydnabyddedig wrth deilwra’r model at ddull pedair gwlad y Deyrnas Unedig.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Mawrth 2026