Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn bwriadu cael Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dweud wrth y Senedd bod Llywodraeth y DU yn edrych ar ffyrdd o sefydlu Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf erioed i Gymru.

Generic image of soldier

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer penodi Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru.

Wrth siarad yn nadl flynyddol Dydd Gŵyl Dewi yn y Senedd ddydd Iau 25 Chwefror, dywedodd Ysgrifennydd Cymru wrth ASau fod Llywodraeth y DU yn mynd ati i edrych ar ffyrdd o sefydlu Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf i Gymru.

Nod Comisiynwyr Cyn-filwyr yw gwella bywydau a hyrwyddo buddiannau cyn-filwyr y Lluoedd Arfog drwy weithio gyda chyn-filwyr a’r sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy’n eu cynrychioli.

Ychwanegodd Mr Hart y byddai’r cynlluniau’n gam pwysig iawn i gyn-filwyr yng Nghymru a’u teuluoedd ac y bydden nhw’n helpu i gyflawni uchelgais Llywodraeth y DU o wneud y Deyrnas Unedig y lle gorau yn y byd i fod yn gyn-filwr.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae gan y Lluoedd Arfog draddodiad hir a phwysig yng Nghymru ac rydyn ni’n eithriadol o falch o’n cyn-filwyr o Gymru. Mae cyn-filwyr a’u teuluoedd yn haeddu cydnabyddiaeth, cefnogaeth a pharch gydol eu gwasanaeth a thu hwnt.

Bydd recriwtio Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru yn cyfrannu’n helaeth at gynyddu’r gefnogaeth sydd ar gael ac yn tynnu sylw at ymrwymiad Llywodraeth y DU i les cyn-filwyr y Lluoedd Arfog.

Dywedodd Johnny Mercer, y Gweinidog dros Amddiffyn Pobl a Chyn-filwyr:

Mae’r lluoedd arfog yn amddiffyn y Deyrnas Unedig gyfan ac felly mae’n iawn i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi cyn-filwyr pan fyddan nhw’n gadael y lluoedd arfog.

“Byddai Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru yn gam pwysig ymlaen i gefnogi cyn-aelodau’r lluoedd arfog yn y wlad ac mae’n cydnabod cyfraniad milwrol balch Cymru.”

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 26 February 2021