Datganiad i'r wasg

Gweinidog Llywodraeth y DU yn ymweld â busnes yng Nghaerdydd sy’n cynhyrfu’r dyfroedd yn y maes amddiffyn byd-eang

Bydd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU, yn ymweld heddiw (7 Tachwedd) â busnes yng Nghaerdydd sy’n gwneud argraff fel cyflenwr a gweithgynhyrchwr byd-eang cyfarpar amddiffyn arbenigol sy’n arbed bywydau.

Mae BCB International yn gwmni blaenllaw sefydledig yn y maes cyfarpar diogelu a goroesi ac mae wedi dod yn gyflenwr y gellir ymddiried ynddo ar gyfer lluoedd sy’n gwasanaethu mewn ymgyrchoedd dramor.

Mae’r cwmni wedi esblygu o’i ddyddiau cynnar fel cyflenwr meddyginiaeth ar gyfer peswch, i ddod yn brif allforiwr technolegau sydd ar flaen y gad ynghyd â dylunio cynnyrch yn ddeheuig.

Bydd Guto Bebb yn cwrdd ag Andrew Howell, Rheolwr-Gyfarwyddwr y cwmni, i drafod sut y mae’r cwmni’n mentro i farchnadoedd newydd ac yn datblygu cynnyrch newydd ar gyfer gwasanaethau milwrol drwy’r byd.

Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU:

Mae busnesau fel BCB International yn ymestyn allan at farchnadoedd rhyngwladol ac yn rhoi Cymru ar y map.

Mae hyn yn dangos bod ychydig o arloesedd yng Nghymru yn mynd yn bell iawn – gan arbed a diogelu bywydau’r rhai hynny sydd gannoedd a miloedd o filltiroedd i ffwrdd, yn aml mewn amgylcheddau heriol a bygythiol.

Nid fu erioed gwell amser i gwmnïau o Gymru fel BCB fanteisio ar y cyfle a dechrau allforio i farchnadoedd newydd, ac mae Llywodraeth y DU wrth law i gefnogi’r dyhead hwnnw.

Mae BCB International wedi bod yn dylunio ac yn cynhyrchu cyfarpar diogelu a goroesi arbenigol ers 1854.

Mae’r cwmni yn cyflenwi’r lluoedd milwrol gyda chyfarpar fel arfwisgoedd, pecynnau cymorth cyntaf a chyflenwadau gwersylla. Mae’n allforio 40 50 y cant o’i gynnyrch, yn bennaf i’r UDA, y Dwyrain Canol ac Ewrop ac mae ganddo drosiant o bron i £9 miliwn.

Eleni, mae’r cwmni wedi ennill busnes newydd gan gwsmeriaid newydd, yn cynnwys Lluoedd Amddiffyn Canada (Paent Cuddliw ar gyfer y Wyneb), a Byddinoedd Ffrainc (Menig Gwrthsefyll Tân) a’r Iseldiroedd (Gwelyau Cynfas).

Mae BCB wedi elwa o gymorth gan Lywodraeth y DU pan enillodd gontract sylweddol i gyflenwi Llynges Ecwador gyda 100 uned o arfwisgoedd wedi’u llenwi ag aer. Roedd Llynges y wlad angen gwarant tâl a chamodd Cyllid Allforio’r DU i mewn i rannu’r risg drwy’i gynllun cymorth bond, fel y gallai BCB ei ddefnyddio fel cyfalaf gweithio ar gyfer yr archeb a chymryd mwy o fusnes.

Dywedodd Andrew Howell, Rheolwr-Gyfarwyddwr BCB International:

Mae’n bleser croesawu’r Gweinidog i’n hadeiladau a dangos iddo rhai o’r nwyddau o ansawdd sy’n ein helpu ni i gipio busnes allforio newydd. Mae gennym ni gynlluniau cyffrous ar gyfer ehangu ac rydym ni’n edrych ymlaen at friffio’r Gweinidog amdanyn nhw.

Mae Cymru eisoes yn wlad sy’n allforio. Ar hyn o bryd, mae dros 3,800 o fusnesau yng Nghymru sy’n allforio, gyda chyfanswm ar y cyd o £13biliwn yn ystod chwarter cyntaf 2017. Yn ogystal, mae Cymru yn le deniadol ar gyfer mewnfuddsoddiad, gyda’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 85 o brosiectau buddsoddi uniongyrchol tramor wedi cael eu diogelu yng Nghymru, sy’n creu 2,581 o swyddi newydd a diogelu bron i 9,000 mwy.

Mae Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cynhyrchu canllawiau allforio pwrpasol, sy’n amlinellu’r amrediad llawn o gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU ac mae’n cynnwys straeon calonogol gan gwmnïau o Gymru sy’n allforio’n llwyddiannus, ar gyfer 26,000 o fusnesau yng Nghymru yn eu hannog nhw i feddwl ynglŷn â chyfleoedd ar gyfer allforio.

Cyhoeddwyd ar 7 November 2017