Stori newyddion

Bydd Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru yn coffáu rhyddhau ’s-Hertogenbosch

Y Gweinidog Foster: Mae’n fraint talu teyrnged i’r rheini o’r 53ain Adran Gymreig a fu farw wrth ryddhau ‘s-Hertogenbosch 75 mlynedd yn ôl

53rd Welsh Division memorial 's-Hertogenbosch

53rd Welsh Division memorial 's-Hertogenbosch

Bydd Kevin Foster, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru, yn teithio i’r Iseldiroedd ar 26 Hydref i gymryd rhan mewn gwasanaeth i goffáu’r unigolion o adran Gymreig y fyddin a frwydrodd ac a fu farw wrth ryddhau ’s-Hertogenbosch yn 1944.

Ym mis Hydref 1944, treuliodd 53ain Adran y Milwyr Traed Cymreig bedwar diwrnod yn brwydro i ryddhau’r ddinas yn ne’r Iseldiroedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar 27 Hydref 1944, daeth lluoedd y cynghreiriaid i’r ddinas rydd a’r ardal gyfagos, yn dilyn brwydro ffyrnig lle collodd 764 o ddinasyddion a 146 o filwyr Prydeinig eu bywydau.

Yn y gwasanaeth coffáu, bydd Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru yn talu teyrnged i’r milwyr a’r dinasyddion a gollodd eu bywydau, drwy osod torch ar ran Llywodraeth y DU.

Dywedodd Kevin Foster, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru:

Mae’r digwyddiadau coffáu yn gyfle pwysig i anrhydeddu dewrder a bywydau pawb o’r 53ain Adran Gymreig a frwydrodd yn ddewr i ryddhau ‘s-Hertogenbosch yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gyda llawer ohonynt yn aberthu eu bywydau.

Rydw i’n falch o gynrychioli Llywodraeth y DU a bod yn rhan o’r foment arbennig yn y gwasanaeth coffáu lle byddwn yn cofio’r Milwyr Prydeinig a’r dinasyddion a gollodd eu bywydau 75 mlynedd yn ôl. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i roi o’n hamser i gofio am y rheini a fu farw er mwyn rhyddhau ‘s-Hertogenbosch ac i ddiolch i’r rheini a fu’n gwasanaethu ochr yn ochr â nhw er mwyn sicrhau bod eu dewrder yn parhau i gael ai anrhydeddu.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 26 October 2019