Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Llywodraethau Datganoledig yn gofyn am safbwyntiau ar y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd

Ymgynghoriad i redeg rhwng 18 Ionawr a 12 Ebrill 2022, gan wahodd safbwyntiau oddi wrth y diwydiant, cyrff anllywodraethol a phawb y mae polisïau yn y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd yn effeithio arnyn nhw.

Fishing boats in Brixham Harbour, South West England.

Fishing boats moored in a UK port.

Heddiw, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon a Llywodraeth yr Alban yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd (JFS).

Mae’r Cyd-ddatganiad yn elfen allweddol o Ddeddf Pysgodfeydd 2020, ac mae’n nodi’r polisïau cyfreithiol-rwymol y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Llywodraethau Datganoledig yn eu dilyn, ar lefel y Deyrnas Unedig ac yn unigol, wrth gydweithio i ddarparu pysgodfeydd a rheolaeth dyframaethu gynaliadwy o’r radd flaenaf.

Bydd yr ymgynghoriad, sy’n rhedeg rhwng 18 Ionawr a 12 Ebrill 2022, yn croesawu safbwyntiau rhanddeiliaid diwydiannol ac amgylcheddol, y cyhoedd a phawb sydd â buddiant yn hyn o beth ac y mae’r polisïau arfaethedig yn effeithio arnyn nhw.

Mae’r Cyd-ddatganiad yn nodi polisïau gan y priod lywodraethau ar gyfer cyflawni, neu gyfrannu at gyflawni, yr wyth amcan a amlinellir yn Neddf Pysgodfeydd 2020 a fydd yn helpu i gyflawni gweledigaeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cefnforoedd a moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a biolegol amrywiol.

Yn unol ag amcanion a rhwymedigaethau rhyngwladol y Ddeddf Pysgodfeydd, mae’r Cyd-ddatganiad yn nodi sut y bydd y Deyrnas Unedig yn mabwysiadu dull rheoli pysgodfeydd sydd wedi’i seilio ar ecosystemau ac mae’n cynnwys ymrwymiad i fapio a diogelu’n hadnoddau carbon glas.

Mae’n cydnabod pwysigrwydd pysgota a dyframaethu, a’r manteision y maen nhw’n eu darparu i bob rhan o’r Deyrnas Unedig fel ffynhonnell cyflogaeth a hunaniaeth i’n cymunedau ar y glannau. I ategu hyn, mae’r Cyd-ddatganiad yn cynnwys polisïau i helpu’r diwydiant i ffynnu, gan gynnwys ymrwymiadau i uwchsgilio’r diwydiant a chynllunio olyniaeth, a hybu’r defnydd o fwyd môr lleol.

Mae’r Cyd-ddatganiad yn nodi tri phrif faes i gyflawni’n huchelgais:

  • Diogelu a, lle bo angen hynny, adfer ein stociau pysgod;
  • Lleihau effeithiau pysgota ar yr amgylchedd morol ac arfordirol; a
  • Chefnogi diwydiant pysgota modern, gwydn ac amgylcheddol gyfrifol.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, George Eustice:

Mae’r Ddeddf Pysgodfeydd wedi rhoi’r pwerau inni i weithredu’n polisi pysgodfeydd annibynnol ein hunain, gwella’n hamgylchedd morol a gwneud penderfyniadau ar sail iechyd ein stociau pysgod ac nid buddiannau breintiedig. Heddiw, rydym yn nodi’n gweledigaeth gyffredin ar gyfer diwydiant pysgota cynaliadwy sy’n cyflawni pethau dros ein pysgotwyr, yr amgylchedd a’r Undeb cyfan.

Rydym wedi cymryd rheolaeth yn ôl dros ein dyfroedd, a blwyddyn ar ôl y Cytundeb Masnach a Chydweithredu mae darlun cadarnhaol yn dod i’r amlwg ar gyfer ein diwydiant pysgota. Rydym wedi gweld cynnydd mewn cwotâu a fydd yn cyfateb i ryw £146 miliwn erbyn 2026 ac rydym yn buddsoddi £100 miliwn mewn cymunedau ar y glannau er mwyn iddyn nhw elwa o well seilwaith, swyddi newydd a buddsoddiad mewn sgiliau.

Dywedodd Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd:

Rwy’n falch o gael lansio’r ymgynghoriad hwn gydag awdurdodau polisi pysgodfeydd eraill y Deyrnas Unedig yn dilyn cydweithio agos. Mae’r Cyd-ddatganiad yn adlewyrchu natur ddatganoledig pysgodfeydd, gan gydnabod manteision gweithio cydlynol. Rydyn ni i gyd am weld diwydiannau pysgota a dyframaethu sy’n gynaliadwy ac yn amgylcheddol gyfrifol, yn ogystal ag yn economaidd hyfyw a ffyniannus. Hoffwn ddiolch i bawb, gan gynnwys y diwydiant, sydd wedi ymgysylltu â ni yn ystod y cyfnod datblygu ac rwy’n edrych ymlaen bellach at glywed safbwyntiau ar y cynigion rydyn ni wedi’u nodi.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Llywodraethau Datganoledig wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’r diwydiant ac maen nhw’n yn gofyn am farn y rhanddeiliaid i sicrhau bod y Cyd-ddatganiad yn gweithio gydag anghenion ein diwydiant a’n hamgylchedd morol. Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael yma.

Cyhoeddwyd ar 18 January 2022