Datganiad i'r wasg

Tŷ Olwen wedi’i ddewis fel Elusen o Ddewis DVLA wrth i godi arian gyrraedd chwarter miliwn

Mae staff DVLA wrthi’n paratoi ar gyfer blwyddyn brysur dros ben o weithgareddau.

Image of representatives from DVLA meeting some of the team at Tŷ Olwen

Mae staff DVLA yn Abertawe wrthi’n paratoi ar gyfer blwyddyn brysur dros ben o weithgareddau codi arian ar gyfer Tŷ Olwen ar ôl ei ddewis fel yr Elusen o Ddewis ar gyfer 2019.

Daw hyn yn syth ar ôl y newyddion fod staff DVLA wedi codi’r swm anhygoel o £250,000 ar gyfer pum elusen dros y pum mlynedd diwethaf fel rhan o’i menter Elusen o Ddewis a lansiwyd yn 2014.

Mae gweithgareddau ar gyfer Tŷ Olwen eisoes wedi cychwyn gyda grŵp crwydrol newydd i staff a fydd yn wynebu her heicio bob mis i godi arian i’r elusen, sy’n darparu gwasanaethau gofal lliniarol i bobl yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot. Mae cynlluniau eraill yn cynnwys twrnamaint pêl-droed yr haf a dringo Ben Nevis, yn ogystal â gwerthu cacennau, rafflau a llawer o weithgareddau eraill trwy gydol y flwyddyn.

Mis diwethaf, trosglwyddodd DVLA siec i Maggie’s Abertawe ar ôl codi £58,803 trwy ymdrechion codi arian staff. Bydd y swm hwn yn talu i ganolfan Abertawe’r elusen fod ar agor am bum wythnos o’r flwyddyn, gan roi budd i tua 2500 o ymwelwyr. Bydd yr arian hefyd yn helpu ariannu gwasanaethau fel cyngor ar fudd-daliadau, sesiynau seicolegydd clinigol a chymorth profedigaeth i’r rhai sy’n defnyddio’r ganolfan.

Wrth glywed y newyddion, dywedodd Helen Murray MBE, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Tŷ Olwen:

Mae’r holl dîm yn Nhŷ Olwen wrth ein bodd ein bod wedi cael ein dewis i fod yn Elusen o Ddewis DVLA eleni.

Er na all Tŷ Olwen gynnig gwellhad, gallwn gynnig bywyd o ansawdd da i gleifion, ynghyd â gofal diwedd oes dosturiol pan ddaw’r amser.

Mae ein cleifion yn derbyn gofal naill ai yn Nhŷ Olwen ei hun, yn eu cartrefi eu hunain neu ar wardiau ysbytai lleol. Bydd y bartneriaeth hon yn helpu i sicrhau y gall y gofal hanfodol hwn barhau ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda DVLA yn y flwyddyn i ddod.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:

Mae codi £250,000 yn garreg filltir anhygoel i’w gyrraedd. Rwy’n falch iawn o’n staff sy’n parhau i wynebu’r her ac yn rhoi cymaint o’u hamser eu hunain i godi arian ar gyfer ein helusennau enwebedig.

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y gallwn ni wneud gwahaniaeth mawr, ynghyd â Tŷ Olwen, ac rwyf wrth fy modd y byddwn yn cefnogi’r elusen wych hon yn 2019.

Nodiadau i olygyddion:

  1. Y llynedd, fe wnaeth DVLA godi £58,803 ar gyfer Maggie’s Abertawe, Elusen o Ddewis DVLA ar gyfer 2018.

  2. Yn y gorffennol, cododd DVLA £21,389 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru yn 2014, £43,578 ar gyfer LATCH yn 2015, £70,906 ar gyfer Cymdeithas Clefyd Alzheimer yn 2016, £56,159 ar gyfer Mind yn 2017.

  3. Mae Tŷ Olwen yn cynnig ansawdd bywyd i gleifion, ynghyd â gofal diwedd oes briodol a thosturiol pan ddaw’r amser. Mae cleifion yn derbyn gofal naill ai yn Nhŷ Olwen ei hun, yn eu cartrefi eu hunain neu ar wardiau ysbytai lleol. Mae’r gofal yn cael ei ymestyn i deuluoedd a ffrindiau, a rhoddir y gefnogaeth cyhyd ag y mae ei angen.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 10 January 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 January 2019 + show all updates
  1. Translation added.

  2. First published.