Stori newyddion

Pryd i ddweud wrthym pan mae manylion swyddogion eich cwmni’n newid

Os ydych yn dweud wrth Dŷ’r Cwmnïau’n hwyr am newidiadau i fanylion eich swyddogion, fe allai gostio’n ddrud ichi.

Graphic of ticking stopwatch

Time to tell us about a change

Chwiliadau am swyddogion cwmnïau yw 47% o’r holl chwiliadau gan y cyhoedd o’n cronfa ddata, ond 53% o gwmnïau’n unig sy’n rhoi gwybod inni’n unol â’r amserlen gyfreithiol bod manylion eu swyddogion wedi newid.

Gall ffeilio’ch cyfrifon yn hwyr effeithio ar eich statws credyd, gan mai dyma un o’r dangosyddion o ddibynadwyedd eich cwmni. Os yw’n effeithio ar eich llinell waelod, mae’n gwneud synnwyr bod eich holl dogfennau’n gyfredol.

Rhaid ichi ddweud wrth Dŷ’r Cwmnïau am newidiadau i’ch swyddogion cyn pen 14 diwrnod ar ôl y newid. (Saesneg yn unig)

Gwnewch yn siŵr y rhoddwch wybod i Dŷ’r Cwmnïau cyn gynted ag sy’n bosibl pan mae’ch swyddogion yn newid. Dibynadwyedd cofrestr y Deyrnas Unedig yw un o’r rhesymau y mae mor uchel ei pharch – gan wneud y Deyrnas Unedig yn un o’r gwledydd mae pobl yn fwyaf hyderus ynghylch gwneud busnes. Mae pobl eisiau gwybod bod enw da gan y cwmnïau maen nhw’n delio â nhw, ac mae cadw’r wybodaeth am y cwmni’n gyfredol yn hanfodol i hynny.

Mae cyflymder ffeilio ar lein a mynediad rhwydd yn golygu y gallwch ddiweddaru’r wybodaeth am eich cwmni ar unwaith cyn gynted ag y gwneir penderfyniadau, felly mae pob rheswm dros fanteisio ar hyn. Mae rôl i bob cwmni gael effaith gadarnhaol ar yr economi trwy ffeilio’n brydlon.

Cyhoeddwyd ar 4 June 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 September 2015 + show all updates
  1. Welsh translation added

  2. First published.