Datganiad i'r wasg

Gallai pobl ifanc yn eu harddegau fod ar eu colled

Gallai pobl ifanc yn eu harddegau fod â £2,100, ar gyfartaledd, yn eu cyfrifon cynilo Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn aros i gael ei hawlio.

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn atgoffa degau ar filoedd o bobl ifanc yn eu harddegau yn y DU y gallai fod miloedd o bunnoedd yn aros amdanynt. Gallai hyn fod yn wir os nad ydynt wedi hawlio’r cynilion sydd wedi cronni yn eu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant hyd yn hyn.

Cyfrifon cynilo hirdymor yw Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant, a agorwyd ar gyfer pob plentyn a aned rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011. Er mwyn annog cynilo ar gyfer y dyfodol, ac i ddechrau’r cyfrif, gwnaeth y llywodraeth daliad cychwynnol o £250 o leiaf.

Mae’r cyfrifon cynilo yn aeddfedu pan fydd y plentyn yn troi’n 18 oed. Mae’n bosibl bod gan bobl ifanc cymwys sy’n 18 neu’n hŷn, ac sydd heb gael mynediad hyd yn hyn at eu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, gynilon sydd werth £2,100 ar gyfartaledd yn aros amdanynt.

Os yw pobl ifanc yn eu harddegau, eu rhieni neu eu gwarcheidwaid eisoes yn gwybod pwy yw eu darparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, gallant gysylltu â nhw’n uniongyrchol. Gallai hyn fod yn fanc, yn gymdeithas adeiladu neu’n ddarparwr cynilion arall.

Fel arall, gallant fynd i GOV.UK a llenwi ffurflen ar-lein i ddod o hyd i ble mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn cael ei chadw.

Mae’n bosibl bod llawer o bobl ifanc cymwys, nad ydynt wedi hawlio’u cynilion hyd yn hyn, ar fin dechrau yn y brifysgol, dechrau prentisiaeth neu ddechrau eu swydd gyntaf. Gallai’r cyfandaliad gynnig hwb ariannol ar adeg pan mae ei angen fwyaf arnynt.

Meddai Angela McDonald, Dirprwy Brif Weithredwr ac Ail Ysgrifennydd Parhaol CThEF:

Mae’n bosibl bod gan bobl ifanc yn eu harddegau swm o arian yn aros amdanynt sydd werth miloedd o bunnoedd – a heb sylweddoli hynny. Rydym am eich helpu i gael mynediad at eich cynilion a’r arian y mae hawl gennych iddo.

I gael rhagor o wybodaeth, chwiliwch am ‘Child Trust Fund’ ar GOV.UK.

Amcangyfrifir bod 6.3 miliwn o gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant wedi’u hagor drwy gydol cyfnod y cynllun, sydd werth tua £9 biliwn. Os nad oedd rhiant neu warcheidwad yn gallu agor cyfrif i’w blentyn, agorodd CThEF gyfrif ar ran y plentyn.

Gall person ifanc yn ei arddegau sy’n 16 neu’n hŷn reoli ei Gronfa Ymddiriedolaeth Plant ei hun os yw’n dymuno, er nid yw’n bosib codi arian o’r gronfa hyd nes y bydd yn 18 oed.

Os oes gan blentyn Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, gall y teulu barhau i gyfrannu hyd at £9,000 y flwyddyn iddi, a hynny’n rhydd o dreth. Mae’r cyfrif yn aeddfedu unwaith i’r plentyn droi’n 18 oed, ac nid yw’n bosib rhoi rhagor o arian ynddo. Yna, gall y person ifanc yn ei arddegau naill ai godi’r arian o’r cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant sydd wedi aeddfedu, neu ail-fuddsoddi’r arian mewn cyfrif cynilo arall.

Hyd nes y bydd y plentyn yn codi’r arian neu’n ei drosglwyddo, bydd yr arian yn aros mewn cyfrif nad oes gan unrhyw un arall fynediad ato.

Cafodd y cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ei gau ym mis Ionawr 2011 a’i ddisodli gan y Cyfrif Cynilo Unigol (ISA) ar gyfer Plant Iau.

Further information

Rhagor o wybodaeth ynghylch Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant.

Mae’r llywodraeth yn cynnig help i gartrefi. Trowch at GOV.UK i gael gwybod pa gymorth gyda chostau byw y gallech fod yn gymwys ar ei gyfer.

Cyhoeddwyd ar 5 October 2022