Stori newyddion

Atgoffa myfyrwyr i fod yn wyliadwrus o sgamiau wrth i flwyddyn academaidd 25/26 ddechrau

Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn rhybuddio myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd i fod yn wyliadwrus o sgamiau, wrth i flwyddyn academaidd newydd 25/26 ddechrau.

Ym mis Medi, bydd SLC yn talu tua £2.2 biliwn mewn taliadau cynhaliaeth i bron i filiwn o fyfyrwyr wrth iddynt ddechrau a dychwelyd i’r brifysgol. Fodd bynnag, ar yr adeg hon o’r flwyddyn, gall sgamwyr dargedu myfyrwyr, gyda thwyll negeseuon testun (SMS) ar hyn o bryd y math mwyaf poblogaidd o dwyll.

Dywedodd Alan Balanowski, Cyfarwyddwr Risg SLC: “Cenhadaeth SLC yw cefnogi myfyrwyr i fuddsoddi yn eu dyfodol ac mae bod yn y brifysgol yn gyfnod cyffrous iawn - ond mae’n hanfodol eu bod hefyd yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn ymwybodol o sgamiau wrth iddynt ddechrau neu ddychwelyd i’r brifysgol.

“Mae’r dulliau a ddefnyddir gan dwyllwyr yn esblygu’n gyson, gyda thechnolegau mwy soffistigedig a gwahanol yn cael eu defnyddio i dargedu myfyrwyr. Mae hyn yn arbennig o wir tua dechrau’r flwyddyn academaidd, pan fydd y taliadau cyntaf yn cael eu gwneud. Mae sgamwyr yn ymwybodol iawn y bydd myfyrwyr yn dechrau derbyn eu benthyciad cynhaliaeth gennym ni ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi gweld cynnydd mewn ymdrechion i dwyllo myfyrwyr, gan gynnwys pobl sy’n dynwared SLC neu fyfyrwyr trwy alwadau ffôn (llais-rwydo), cyswllt trwy neges destun (SMS-rwydo) neu drwy e-byst (gwe-rwydo). 

“Mae gennym nifer o ddulliau atal rydym yn eu defnyddio i nodi ac atal sgamwyr a’r llynedd, fe wnaethom atal £45.5m rhag cael ei ddwyn gan fyfyrwyr. Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn myfyrwyr, fodd bynnag, mae’n hanfodol y gallant weld arwyddion o sgam a gweithredu i amddiffyn eu hunain a’u harian rhag syrthio i’r dwylo anghywir.  Mae ein neges i fyfyrwyr yn syml - meddyliwch cyn clicio.”

Awgrymau da’r SLC ar gyfer nodi ac atal sgam

  • Gwiriwch ansawdd y cyfathrebu - yn aml bydd camsillafu, diffyg atalnodi a gramadeg gwallus yn arwyddion o we-rwydo.
  • Cadwch lygad am unrhyw e-byst, galwadau ffôn neu negeseuon SMS rydych chi’n meddwl sy’n amheus, yn enwedig o gwmpas yr amser rydych chi’n disgwyl taliad.
  • Mae e-byst twyll a negeseuon testun yn aml yn cael eu hanfon mewn swmp at lawer o bobl ar yr un pryd ac yn annhebygol o gynnwys eich enw cyntaf a’ch enw olaf. Mae’r rhain yn dechrau fel arfer – ‘Annwyl Fyfyriwr’ – felly byddwch yn wyliadwrus os gwelwch un fel hyn.
  • Mae negeseuon sy’n cyfleu ymdeimlad o frys hefyd yn annhebygol o fod yn ddilys – er enghraifft ‘bydd methu ag ymateb o fewn 24 awr yn arwain at gau eich cyfrif’.
  • Meddyliwch cyn clicio. Os ydych chi’n derbyn e-bost neu SMS sy’n cynnwys dolen nad ydych chi’n siŵr ohoni, yna hofran drosto i wirio ei fod yn mynd lle mae i fod. Os ydych chi’n dal i’w hamau, peidiwch â’i mentro. Ewch yn uniongyrchol at y ffynhonnell yn hytrach na chlicio ar ddolen a allai fod yn beryglus.
  • Gall twyllwyr ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i geisio eich cael i dalu arian neu rannu manylion personol, gan gynnwys defnyddio galwadau ffôn twyllodrus, postiadau cymdeithasol a negeseuon uniongyrchol ar lwyfannau digidol. Os ydych yn amheus o gysylltiad â chi, defnyddiwch rifau ffôn swyddogol, eich cyfrif ar-lein a ffrydiau cyfathrebu swyddogol bob amser i wirio bod y cyswllt a gawsoch yn ddilys.
  • Dylai myfyrwyr hefyd fod yn ymwybodol o’r wybodaeth y maent yn ei rhannu amdanynt eu hunain ar gyfryngau cymdeithasol, ac mewn mannau eraill ar-lein, i helpu gwarchod rhag lladrad hunaniaeth. Mae lladrad hunaniaeth yn digwydd pan fydd twyllwyr yn cyrchu gwybodaeth am hunaniaeth person, megis ei enw, dyddiad geni, cyfeirnod cwsmer, gwybodaeth cwrs neu gyfeiriadau presennol neu flaenorol i ddynwared nhw ar-lein a thros y ffôn.
  • Cymrwch olwg ar ein canllaw i nodi twyll ar www.gov.uk/guidance/phishing-scams-how-you-can-avoid-them

Mae gan SLC hefyd amrywiaeth o ddulliau i ddiogelu myfyrwyr, gan gynnwys anfon SMS at gwsmeriaid yn Lloegr os oes newid wedi’i wneud i fanylion eu banc a gofyn iddynt gadarnhau’r newid. Os nad yw cwsmer wedi newid ei fanylion ond yn derbyn neges, dylai fewngofnodi i’w gyfrif ar-lein i adolygu ei wybodaeth.

Ni fydd SLC byth ychwaith yn gofyn i fyfyrwyr ddarparu eu gwybodaeth bersonol neu ariannol trwy e-bost neu neges destun. Os yw myfyriwr yn derbyn neges amheus, dylai ei hadrodd i Uned Troseddau Economaidd SLC ar unwaith drwy e-bostio report@phishing.gov.uk a ffonio’r llinell gymorth bwrpasol ar 0300 100 0059.  Nid yw SLC na Chyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) yn darparu unrhyw wasanaethau trwy WhatsApp ac ni fyddant byth yn cychwyn cyswllt â myfyriwr trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol i drafod eu cais neu eu hawl i gyllid myfyriwr. Os yw cwsmer yn derbyn cyfathrebiad gan CMC nad yw’n siŵr ohono, dylai fewngofnodi i’w gyfrif ar-lein i wirio a yw’n ddilys.

Mae yna hefyd ystod o gyngor a gwybodaeth ychwanegol ar adnabod ac osgoi sgamiau gan Action Fraud, canolfan adrodd genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu, yn ogystal â Stop! Think Fraud, ymgyrch gan y Swyddfa Gartref.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Medi 2025