Stephen Kinnock AS yn ddechau’i waith fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Mae Stephen Kinnock wedi ymgymryd â'i rôl fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ôl iddo gael ei benodi gan y Prif Weinidog Andy Burnham.
Mae Stephen Kinnock wedi ymgymryd â’i rôl fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ôl iddo gael ei benodi gan y Prif Weinidog Andy Burnham.
Mr Kinnock yw’r AS ar gyfer Aberafan Maesteg.
Yn dilyn ei benodiad ar ddydd Llun (20 Gorffennaf), addawodd Mr Kinnock roi llais cryf i Gymru yn Llywodraeth newydd y DU a gan fabwysiadu dull agored a chydweithredol o lywodraethu, drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol a sefydliadau Cymru i gyflawni dros Gymru, yn unol a’r cyfeiriad a osodwyd gan y Prif Weinidog.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Kinnock:
Mae’n fraint fy mywyd cael fy mhenodi’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac i wasanaethu pobl Cymru fel rhan o Gabinet newydd y Prif Weinidog Andy Burnham.
Mae Cymru’n llwyddo pan rydyn ni’n tynnu i’r un cyfeiriad, a byddaf yn gweithio ar draws pob lefel o lywodraeth i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i’n cymunedau, fel gwlad ddeinameg a hyderus o fewn Teyrnas Unedig ddeinameg a chryf.
Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru byddaf yn sicrhau bod Swyddfa Cymru yn parhau i hyrwyddo Cymru o fewn Llywodraeth y DU a sicrhau bod anghenion Cymru yn flaenoriaeth.
Mae hyn yn ymwneud ag adeiladu Cymru gryf o fewn Teyrnas Unedig gryf lle mae pawb yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial llawn gyda thwf da ym mhob cod post yng Nghymru a lle mae cymunedau mewn rheolaeth ac yn cael eu cefnogi gan y llywodraeth ar bob lefel.
Mae’n anrhydedd mawr i allu camu i mewn i’r rôl mewn amser mor allweddol i Gymru a’r DU, ac rwy’n glir nad oes terfyn ar yr hyn y gallwn ei gyflawni drwy gydweithio.
Bydd Mr Kinnock nawr yn dechrau rhaglen lawn o gyfarfodydd ac ymweliadau i lunio agenda Llywodraeth y DU yng Nghymru ac i gyflawni dros Gymru yn San Steffan ac ar draws Whitehall.