Datganiad i'r wasg

Atebion i roi hwb i Seilwaith Cymru ar yr agenda

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn lansio Gweithgor Seilwaith cyntaf Swyddfa Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Wales Office Infrastructure Working Group

Wales Office Infrastructure Working Group

Cyn cyhoeddiadau Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ar ymrwymiadau seilwaith yn ddiweddarach heddiw, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn lansio Gweithgor Seilwaith lefel uchaf cyntaf Swyddfa Cymru yng Nghaerdydd (27 Mehefin 2013).

Bydd uwch swyddogion o ddiwydiant Cymru, Trysorlys y DU a Llywodraeth Cymru yn ymuno â’r Ysgrifennydd Gwladol a Stephen Crabb AS, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, i drafod y prif flaenoriaethau ar gyfer datblygu seilwaith gyda’r nod o hybu economi Cymru.

Heriau cysylltedd a seilwaith allweddol Cymru fydd canolbwynt y trafodaethau ymysg y grŵp, a bydd gweinidogion Swyddfa Cymru yn pwysleisio sut mae Llywodraeth y DU yn blaenoriaethu’r gwaith o fuddsoddi mewn seilwaith er mwyn cryfhau’r economi.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Seilwaith cadarn yw’r llinyn sy’n clymu ein ffyniant ynghyd, gan effeithio ar gystadleurwydd pob busnes yn y wlad.

O’r herwydd, nid yw sicrhau bod y seilwaith presennol yn parhau’n ddigon. Mae angen inni adeiladu’r seilwaith newydd y mae ei angen arnom ar gyfer y dyfodol, gan baratoi Cymru, a Phrydain i gyd, ar gyfer llwyddiant hirdymor.

O gyflwyno band eang cyflym iawn i fuddsoddi yn ein seilwaith rheilffyrdd, mae’n fater y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn canolbwyntio arno ers y cychwyn. Rwyf yn awr yn awyddus i glywed gan fusnesau ar lawr gwlad ynghylch beth yn fwy y gallwn ni, a Llywodraeth Cymru, ei wneud gyda’n gilydd i chwalu’r rhwystrau i ddatblygu rhagor ar y seilwaith yng Nghymru, a llwyddo yn y ras fyd-eang.

Yn ystod cyfarfod cyntaf y gweithgor, bydd y cynrychiolwyr yn clywed gan Louise Minford o Infrastructure UK, grŵp o arbenigwyr masnachol yn y sector preifat sydd wedi’u lleoli yn Nhrysorlys y DU. Maent yn gyfrifol am gydlynu’r gwaith o gynllunio a blaenoriaethu’r buddsoddi yn seilwaith y DU. Bydd Ms Minford yn disgrifio’r cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau elwa ar y £40 biliwn o warantïau sydd ar gael i gefnogi prosiectau seilwaith dan gynllun Gwarantïau’r DU gan Lywodraeth y DU. Bydd y grŵp hefyd yn clywed am Gynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru sy’n pennu blaenoriaethau seilwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer y deng mlynedd nesaf.

Dywedodd Stephen Crabb AS, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, a fydd yn cadeirio’r cyfarfod cyntaf:

Mae Llywodraeth dda yn golygu adeiladu ar gyfer yfory. Os ydym am gael economi lwyddiannus yn yr unfed ganrif ar hugain, rhaid inni adeiladu rhwydwaith seilwaith sy’n addas i’r diben.

Mae angen buddsoddi yn ein seilwaith cenedlaethol ar fyrder. Mae angen hefyd cael trafodaeth ar yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer ariannu’r gwaith o ddatblygu’r seilwaith hwnnw. Rwy’n edrych ymlaen at gael clywed beth yw barn busnesau Cymru er mwyn i’r materion sy’n bwysig gael eu cyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol a’i gydweithwyr o gwmpas bwrdd y Cabinet.

CYFLE I’R CYFRYNGAU:

GWAHODDIR Y CYFRYNGAU I FYNYCHU DECHRAU’R CYFARFOD

Dyddiad: Dydd Iau, 27 Mehefin 2013 Amser: 13:15 – 13:40 Cyfeiriad: Swyddfa Cymru, Pedwerydd Llawr, Un Pwynt Caspian, Bae Caerdydd. CF10 4DQ

Fe’ch gwahoddir i anfon newyddiadurwr/person camera / ffotograffydd i’r cyfle isod i’r cyfryngau yn Un Pwynt Caspian, Bae Caerdydd.

13:15 Cyfle am gyfweliad gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb AS a chynrychiolwyr

13:30 Cyfle i ffilmio/tynnu llun ar ddechrau’r cyfarfod

13:40 Y cyfryngau i adael

I gadarnhau y byddwch yn bresennol, cysylltwch os gwelwch yn dda â Lynette Bowley yn Swyddfa Cymru ar 020 7270 0431 / 029 2092 4204 lynette.bowley@walesoffice.gsi.gov.uk

Cyhoeddwyd ar 27 June 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 July 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.