Datganiad i'r wasg

Taith y fflam Olympaidd i gyrraedd copa’r Wyddfa

Cafodd ei gadarnhau heddiw (dydd Llun 7 Tachwedd) mai’r lle uchaf y byddai’r ffagl Olympaidd yn ei gyrraedd ar ei thaith o amgylch Prydain fyddai…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Cafodd ei gadarnhau heddiw (dydd Llun 7 Tachwedd) mai’r lle uchaf y byddai’r ffagl Olympaidd yn ei gyrraedd ar ei thaith o amgylch Prydain fyddai’r Wyddfa yng Nghymru.

Mae Pwyllgor Trefnu Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain (LOCOG) wedi cadarnhau llwybr taith y Fflam Olympaidd o amgylch y wlad fel rhan o Daith Gyfnewid Ffagl 2012 Llundain. Yng Nghymru, bydd y Fflam Olympaidd yn teithio i Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe a chadarnhawyd mai’r man uchaf y bydd y fflam yn ei gyrraedd o amgylch Prydain fydd copa’r Wyddfa sydd 1.085 metr uwch lefel y mor.

Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Rwyf wrth fy modd mai copa’r Wyddfa fydd pwynt uchaf llwybr y Ffagl Olympaidd o amgylch Prydain ym mis Mai 2012. Wrth iddi deithio o amgylch Cymru bydd yn gyfle gwych i bawb sy’n gyfagos gymryd rhan, a bydd hefyd yn gyfle i arddangos harddwch Cymru i’r byd, er mwyn i lawer mwy o bobl gael gweld lle mor wych yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol yw Cymru.”

Dywedodd Jeremy Hunt, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Gemau Olympaidd, y Cyfryngau a Chwaraeon:

‘Pan fydd y Fflam Olympaidd yn cyrraedd yma yn y DU ar 18 Mai flwyddyn nesaf byddwn yn ddechrau ar gyfnod cyffrous cyn y digwyddiad chwaraeon mwyaf y bydd ein gwlad yn ei gynnal yn ystod ein hoes. Bydd Taith Gyfnewid y Ffagl Olympaidd yn gyfle gwych i bobl weld y Fflam Olympaidd yn eu trefi ac yn eu cymunedau. Mae gwreiddiau taith y Fflam yn nwfn yn hanes y Gemau Olympaidd, gan deithio o Athen ac wedyn o amgylch y DU i gyd. Rwyf yn annog pawb i fynd allan a chymryd rhan yng nghyffro Taith Gyfnewid y Ffagl wrth iddi ddod drwy eu tref.’

Bydd y Fflam Olympaidd yn cael ei chludo ar draws y DU gan 8,000 o redwyr ysbrydoledig, ac mae gan bob un ohonynt stori o gyflawniad personol a/neu gyfraniad i’r gymuned leol.  Ym mis Rhagfyr eleni, cysylltir ag enwebeion llwyddiannus gyda chynnig amodol a bydd enwau’r rhai olaf i gludo’r Ffagl yn dechrau cael eu cadarnhau o fis Chwefror 2012 ymlaen.

Nodiadau i olygyddion:

I gael rhagor o wybodaeth am lwybr y Ffagl Olympaidd, cysylltwch a Swyddfa’r Wasg Gemau 2012 Llundain ar +44 (0)203 2012 100 neu edrychwch ar y wefan www.london2012.com

Mae map rhyngweithiol sy’n rhoi manylion y daith ar gael yn www.london2012.com/olympictorchrelaymap

Cyhoeddwyd ar 7 November 2011