Stori newyddion

SLC yn ymestyn y dyddiad cau cyllid i fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr amser llawn sy'n dychwelyd yng Nghymru a Lloegr

Ymestyn dyddiad cau cyllid i fyfyrwyr i 30 Mehefin ar gyfer myfyrwyr amser llawn sy’n dychwelyd yng Nghymru a Lloegr

Wrth i Brifysgolion a cholegau ddechrau cadarnhau eu trefniadau dysgu ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod mewn ymateb i Covid-19, mae SLC yn ymestyn y dyddiad cau i ymgeisio am gyllid ar gyfer myfyrwyr amser llawn sy’n dychwelyd, o 12fed Mehefin (Cymru) a’r 19eg Mehefin (Lloegr) i 30ain Mehefin.

Meddai Derek Ross, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau SLC, “Mae SLC yn cydnabod ei bod yn bosibl bod myfyrwyr yn dal i gasglu gwybodaeth ar gyfer eu cynlluniau flwyddyn nesaf. Ar sail hynny, fe hoffem roi mwy o amser iddynt cyn y dyddiad cau i ‘ddychwelwyr’.

“Y cyngor clir i fyfyrwyr sy’n dychwelyd yw bod angen cyflwyno eu cais am gyllid cyn gynted â phosibl, a thrwy ymestyn y dyddiad cau rydym yn darparu mwy o amser gwerthfawr i fyfyrwyr.”

Tra bod SLC yn gwneud popeth o fewn ei allu i brosesu ceisiadau mor fuan â phosibl, mae achosion mwy cymhleth yn cymryd amser. Bydd myfyrwyr yn dal i allu ymgeisio wedi’r dyddiad hwn, fodd bynnag, efallai na fydd myfyrwyr sy’n cyflwyno ceisiadau hwyr yn derbyn eu benthyciad cynhaliaeth llawn ar gyfer dechrau’r tymor newydd. Er y byddwn yn gwneud y taliad sylfaenol nad yw’n seiliedig ar asesiad incwm, dim ond wedi cwblhau’r broses ymgeisio ac asesu y bydd unrhyw hawl atodol yn cael ei dalu.

“I fod yn hollol sicr, rydym yn annog myfyrwyr i nodi’r estyniad i’r dyddiad cau a chyflwyno eu ceisiadau mor fuan â phosibl.”

Gellir gwneud ceisiadau ar-lein ar www.gov.uk/student-finance neu www.studentfinancewales.co.uk. Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar Facebook.com/SFEngland a Twitter.com/SF_England neu Facebook.com/SF_Wales a Twitter.com/SF_Wales

Mae’r dyddiad cau cyllid i fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr newydd eisoes wedi pasio, ond ar gyfer unrhyw un sydd wedi ei fethu, rydym yn dal i’ch cynghori i wneud cais cyn gynted â phosibl. Hyd yn oed os bydd rhywun yn ansicr o’i gwrs, Prifysgol neu goleg ar hyn o bryd, dylai myfyrwyr newydd ymgeisio yn seiliedig ar eu dewis cyntaf, gan nad oes cosb am dynnu cais yn ôl neu addasu’r manylion yn hwyrach.

Gellir gwneud ceisiadau ar-lein ar www.gov.uk/student-finance neu www.studentfinancewales.co.uk. Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar Facebook.com/SFEngland a Twitter.com/SF_England neu Facebook.com/SF_Wales a Twitter.com/SF_Wales

Cyhoeddwyd ar 10 June 2020