Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn nodi blwyddyn ers trychineb Glofa’r Gleision

Flwyddyn ar ol y digwyddiad yng nglofa’r Gleision (15 Medi), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi mynegi ei gydymdeimlad a theuluoedd y pedwar…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Flwyddyn ar ol y digwyddiad yng nglofa’r Gleision (15 Medi), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi mynegi ei gydymdeimlad a theuluoedd y pedwar dyn dewr a fu farw yn y trychineb.

Bu farw David Powell, Garry Jenkins, Charles Breslin a Phillip Hill pan wnaeth y lofa lenwi a dŵr ar Fedi’r 15fed y llynedd.

Wrth nodi’r dyddiad emosiynol, dywedodd Mr Jones: “Heddiw, mae fy meddyliau, gweddiau a chydymdeimlad dwysaf yn mynd i deuluoedd, ffrindiau ac anwyliaid y dynion dewr a gollodd eu bywydau yn nhrychineb Glofa’r Gleision y llynedd.

“Fe wnaeth y digwyddiad gyffwrdd calonnau pob un ohonom, nid dim ond yng Nghymru, ond ledled Prydain.

“Mae Heddlu De Cymru ar hyn o bryd yn arwain yr ymchwiliad ac yn gweithio gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch”.

Cyhoeddwyd ar 17 September 2012