Cyhuddo saith o bobl ar ôl i’r NFCU ymchwilio i greulondeb wrth anifeiliaid a chig anaddas
Ymddangosodd saith o bobl gerbron Llys Ynadon San Steffan ddydd Mercher, 14 Hydref 2026
Aethant i Lys Ynadon San Steffan yn dilyn ymchwiliad hir a chymhleth gan Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Gwnaeth pedwar dyn ymddangos gerbron y llys dros alwad fideo, sef: Tudor Organ, 30 oed o Gaerfyrddin; William Organ, 54 oed o Gaerfyrddin; Simon Jones, 36 oed o Gaerfyrddin; a David Hird, 29 oed o Geredigion. Roedd tri arall, pob un o Lundain, yn bresennol wyneb-yn-wyneb, sef: Richard Agyemang, 58 oed; Amjad Buttar, 58 oed; ac Abdul Rahman, 56 oed.
Gwnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron awdurdodi’r cyhuddiadau bod pob un wedi cynllwynio i gyflenwi cig anaddas. Cafodd Tudor Organ a William Organ eu cyhuddo hefyd o greulondeb wrth anifeiliaid, gan eu bod wedi achosi i anifail ddioddef.
Mae’r NFCU yn gweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron, sy’n dwyn yr achos hwn yn ei flaen, ac mae achosion llys yn parhau.
Dywedodd Neil Castle, Dirprwy Bennaeth NFCU yr ASB:
Mae saith o bobl wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon San Steffan i wynebu cyhuddiadau yn dilyn penderfyniad gan Wasanaeth Erlyn y Goron. Daw hyn ar ôl ymchwiliad hir a chymhleth gan yr NFCU i droseddau bwyd. Cafodd pob un ei anfon i ymddangos yn Llys y Goron Southwark ar 11 Tachwedd 2026, ac maen nhw i gyd ar fechnïaeth ddiamod.
Dywedodd Dean Quick, o’r Gyfarwyddiaeth Troseddau Cyfundrefnol Economaidd Difrifol a Rhyngwladol, yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron:
Mae ein herlynwyr wedi gweithio i sefydlu bod digon o dystiolaeth i ddod â’r achos hwn gerbron y llys, a bod mynd ar drywydd achos troseddol er budd y cyhoedd.
Rydyn ni wedi gweithio’n ofalus gydag Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd wrth iddi gynnal ei hymchwiliad. Rydyn ni’n atgoffa pawb dan sylw fod achos yn erbyn y diffynyddion hyn ar waith a bod ganddynt yr hawl i dreial teg. Mae’n hollbwysig na ddylid adrodd ar yr achos, cynnig sylwebaeth na rhannu gwybodaeth ar-lein a allai niweidio’r achos hwn mewn unrhyw ffordd.