Stori newyddion

Llinell gymorth Hunanasesiad i ganolbwyntio ar ymholiadau â blaenoriaeth 

Bydd CThEF yn canolbwyntio ei linell gymorth Hunanasesiad ar ymholiadau â blaenoriaeth rhwng 11 Rhagfyr a 31 Ionawr.

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn canolbwyntio ei linell gymorth Hunanasesiad ar alwadau â blaenoriaeth yn y cyfnod yn arwain at y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth, gydag ymholiadau eraill yn cael eu cyfeirio at ei wasanaethau ar-lein o safon.    

Bydd cwsmeriaid sy’n ffonio ag ymholiadau y gellir eu datrys ar-lein yn gyflym ac yn hawdd yn cael eu cyfeirio at wasanaethau ar-lein CThEF o 11 Rhagfyr tan y dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad ar 31 Ionawr.   

Bydd ymgynghorwyr arbenigol yr adran yn canolbwyntio ar ateb ymholiadau Hunanasesiad sydd â blaenoriaeth - y rhai na ellir ymdrin â nhw’n hawdd ar-lein - yn ogystal â chefnogi’r lleiafrif bach o gwsmeriaid sydd angen cymorth ychwanegol neu sy’n methu ymgysylltu â ni’n ddigidol.    

Mae CThEF yn monitro pob galwad i adnabod pobl a allai fod angen cymorth ychwanegol. Mae’r cwsmeriaid hyn yn cael eu trosglwyddo i Dîm Cymorth Ychwanegol CThEF sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig i ddelio â threthdalwyr bregus.

Mae’r mwyafrif helaeth o gwsmeriaid Hunanasesiad yn defnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF, gyda mwy na 97% o gwsmeriaid yn cyflwyno eu Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar-lein y llynedd, ac yn gyffredinol mae dros 80 y cant o’r cwsmeriaid yn fodlon ar y gwasanaethau hyn.  

Ond gellir datrys tua dwy ran o dair o alwadau i’r llinell gymorth Hunanasesiad yn llawer cyflymach drwy wasanaethau ar-lein CThEF. Er mwyn gwneud pob galwr Hunanasesiad yn ymwybodol o helaethrwydd gwasanaethau ar-lein yr adran, bydd negeseuon wedi’u recordio a gefnogir gan destunau SMS yn cael eu defnyddio.  

Mae enghreifftiau o ymholiadau y gellir eu datrys yn llawer cyflymach ar-lein yn cynnwys diweddaru gwybodaeth bersonol, mynd ar drywydd cynnydd cofrestriad Hunanasesiad, dod â chofrestriad Hunanasesiad i ben, a gwirio Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr. 

Gall cwsmeriaid sydd angen cymorth i lenwi eu Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, o flaen y dyddiad cau sef 31 Ionawr 2024, droi at yr help helaeth ar-lein sydd ar gael yn GOV.UK. Mae’n esbonio sut i gael mynediad at wasanaethau CThEF a gofyn am help, heb orfod aros ar y ffôn.   

Meddai Angela MacDonald, Dirprwy Brif Weithredwr ac Ail Ysgrifennydd Parhaol CThEF:    

Dyma gyfnod prysur i gwsmeriaid sydd am gael trefn ar eu trethi. Ry’n ni am helpu cwsmeriaid i ddatrys unrhyw broblemau yn y ffordd fwyaf cyflymaf a hawdd, sydd yn aml drwy ein gwasanaethau ar-lein. 

Mae’r mwyafrif helaeth o gwsmeriaid Hunanasesiad yn cyflwyno eu Ffurflenni Treth yn ddigidol, felly rydym yn eu helpu i gymryd y cam nesaf tuag at ddatrys ymholiadau symlach drwy ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein. 

Bydd ein hymgynghorwyr arbenigol yno i helpu pobl gydag ymholiadau brys a mwy cymhleth, yn ogystal â helpu’r nifer fach sydd ddim yn gallu cael mynediad at ein gwasanaethau ar-lein.

Bydd gwasanaethau ar y llinell benodol i asiantau hefyd yn efelychu cynnig y llinell gymorth Hunanasesiad, gydag asiantau hefyd yn cael eu cyfeirio at ein gwasanaethau digidol ar gyfer ymholiadau addas.   

Mae CThEF yn trosglwyddo i ddull digidol yn gyntaf, sy’n golygu y gall cwsmeriaid gael ateb i’w hymholiadau bob awr o’r dydd, heb orfod aros ar y ffôn nac ysgrifennu llythyr. Mae’n parhau i wella ac ehangu ei wasanaethau ar-lein, gan gynyddu eu galluoedd a rhwyddineb eu defnydd ac yn troi’n opsiwn cyntaf naturiol i gwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys ap CThEF, sy’n cael ei ddefnyddio eisoes gan fwy na miliwn o bobl bob mis.

Cyhoeddwyd ar 7 December 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 December 2023 + show all updates
  1. Sentence about the HMRC app added.

  2. Added translation