Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dangos ei gefnogaeth i ymateb COVID-19 cwmni Cymreig yn ystod ymweliad rhithwir

Newidiodd Transcend Packaging eu llinellau cynhyrchu i greu amddiffynnydd wyneb i'r GIG.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, wedi ymweld â chwmni De Cymru Transcend Packaging i glywed sut mae’r cwmni wedi ymateb i’r pandemig coronafeirws.

Mae’r cwmni, sydd wedi’i leoli yn Ystrad Mynach, fel arfer yn arbenigo mewn darparu cynnyrch pecynnu cynaliadwy i fwytai, ond ers hynny, maent wedi trosi llinellau cynhyrchu a bron a dyblu’r gweithlu parhaol i 127 o staff mewn pedwar mis ar ôl newid rhan o’i weithrediadau i greu PPE.

Yn ystod yr ymweliad, a gynhaliwyd gan ddefnyddio fideo-gynadledda ar-lein, dangosodd Rheolwr Gyfarwyddwr Transcend, Lorenzo Angelucci, Mr Hart sut y defnyddiodd arbenigedd y cwmni i greu cynhyrchion cynaliadwy i ddatblygu a chynhyrchu amddiffynnydd wyneb o fyrddau papur a atgyfnerthwyd a deunyddiau ailgylchadwy.

Mae Transcend Packaging bellach wedi cyflenwi mwy na 15 miliwn o amddiffynnydd wyneb i’r GIG, tra bod mwy o’u cynnyrch PPE yn cael eu defnyddio ledled y byd gan staff iechyd a gofal cymdeithasol yn y rheng flaen.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Er mai dim ond yn rhithiwr y gellid cynnal yr ymweliad hwn ar hyn o bryd, roedd yn wych gweld y gwaith y mae busnes Cymreig fel Transcend wedi’i wneud i gefnogi’r rheng flaen yn ystod y pandemig coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.

Mae gweld eu gwaith yn dangos bod pobl a busnesau Cymru yn gallu ateb atebion arloesol o dan bwysau anhygoel ac rydw i’n ddiolchgar iddo ef, Transcend, a’u staff am bopeth y maent yn ei wneud ar yr adeg hynod heriol hon.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 6 November 2020