Datganiad i'r wasg

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn bwrw ymlaen gyda chynllun twf ar gyfer Gogledd Cymru

Bydd Alun Cairns yn cynnal cyfarfod bwrdd crwn yn y Gogledd i ddysgu sut mae'r rhanbarth yn meddwl y gall elwa ar gytundeb twf.

Mae Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru wedi defnyddio ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd i fwrw ymlaen â’r agenda am fargen twf yng ngogledd Cymru.

Bydd Alun Cairns yn casglu arweinwyr cynghorau, cyflogwyr, darparwyr addysg uwch a sefydliadau busnes at ei gilydd yr wythnos nesaf i amlinellu ei weledigaeth ar gyfer economi Cymru - a dysgu sut mae’r rhanbarth yn meddwl y gall elwa ar gytundeb twf.

Dywedodd Mr Cairns:

Y peth cyntaf wnes i’r bore ’ma oedd trefnu ymweliad â gogledd Cymru fel y gallaf fynd i siarad â’r cymunedau ynghylch sut byddent yn hoffi gweld bargen twf yn datblygu.

Yma mae’r economi sy’n tyfu gyflymaf yn y byd datblygedig, ac mae Cymru’n tyfu’n gyflymach nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig heblaw am Lundain. Rwyf am i ogledd Cymru feddwl am gynigion i fanteisio o ddifrif ar hynny.

Fel yr Ysgrifennydd Gwladol, rwy’n ymrwymedig i sicrhau fod pob rhan o Gymru’n elwa ar dwf economaidd. Mae wythnos nesaf yn gyfle i glywed gan arweinwyr lleol a’u herio, a gweld sut gallwn ni fanteisio i’r eithaf ar fod yn rhan o ranbarth Pwerdy’r Gogledd, sy’n ymestyn o Newcastle i ogledd Cymru.

Trefnwyd y cyfarfod bwrdd crwn ar gyfer dydd Mercher 30 Mawrth, gyda’r lleoliad i’w gyhoeddi cyn bo hir.

Cyhoeddodd y llywodraeth y byddai’n ‘agor y drws’ i gynllun twf ar gyfer gogledd Cymru yn ystod y Gyllideb yr wythnos ddiwethaf, a’i bod yn gobeithio y bydd Llywodraeth nesaf Cymru’n datganoli pwerau ac yn buddsoddi yn y rhanbarth fel rhan o unrhyw gynllun yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd ar 21 March 2016