Datganiad i'r wasg

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn canmol rôl y fyddin ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog

Alun Cairns: “Yn y flwyddyn y byddwn ni’n dathlu Canmlwyddiant y Somme, mae’n bwysig iawn i ni gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog”

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn bresennol heddiw ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog De Cymru a gynhelir yng Nghaerffili.

Bydd Mr Cairns yn gwylio gorymdaith a fydd yn cynnwys milwyr sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, cyn-filwyr a darpar filwyr drwy’r dref ac yna’n mynd i Wasanaeth Awyr Agored yng Nghastell Caerffili. Ymhlith y gweithgareddau eraill bydd cerddoriaeth fyw drwy gydol y prynhawn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol:

Mae’r digwyddiadau eleni yn arbennig o deimladwy gan ein bod yn dathlu Canmlwyddiant Brwydr y Somme. Cefais gyfle yn ddiweddar i ymweld â’r fynwent rhyfel ym Mametz, ac mae’r profiad o weld aberth cynifer o fywydau ifanc yn un pwerus.

Mae heddiw yn gyfle i ni ddiolch i’n milwyr ac i gydnabod eu cyfraniad mewn brwydrau drwy gydol hanes hyd heddiw. Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog.

Cyhoeddwyd ar 25 June 2016