Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cynnal derbyniad ar gyfer tîm Bargen Ddinesig Abertawe

Cynhaliodd Alun Cairns dderbyniad heddiw ar gyfer tîm Bargen Ddinesig Bae Abertawe,

Secretary of State for Wales

Secretary of State for Wales hosts reception for Swansea City Deal team

Cynhaliodd Alun Cairns dderbyniad heddiw ar gyfer tîm Bargen Ddinesig Bae Abertawe, arweinwyr awdurdodau lleol ac ASau. Mynychodd dros 30 o bobl y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Tŷ Gwydyr, Whitehall.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Bargeinion Dinesig wedi bod yn llwyddiant mawr ar draws y DU o ran gadael i bobl leol, cynghorau, busnesau a phartneriaid eraill gyflwyno cynigion ar gyfer ysgogi buddsoddiad a chreu swyddi. Rydym wrthi’n sefydlu bargen yng Nghaerdydd, rydym yn gweithio ar gytundeb twf i Ogledd Cymru ac mae’n gwbl briodol bod Abertawe yn cael cyflwyno ei gweledigaeth ei hun.

Mae’r fargen ar gyfer Abertawe yn un cyffrous ac arloesol. Mae derbyniad heddiw yn gyfle da i ddathlu pa mor bell rydym wedi teithio ac i fwrw ymlaen â thrafodaethau mwy manwl.

Rwy’n edrych ymlaen at dderbyn rhagor o gynigion manwl ac i gyflwyno’r achos dros Abertawe wedi’i hadnewyddu i’r Trysorlys.

Dywedodd Syr Terry Matthews, Cadeirydd Bwrdd Rhanbarth Dinas Bae Abertawe:

Rwy’n falch fod llawer iawn o gynnydd wedi’i wneud. Ond bydd angen gwneud llawer mwy o waith a bydd angen cefnogaeth diwydiant a’r llywodraeth i gwblhau ein rhaglenni. Mae pwysigrwydd sicrhau Bargen Ddinesig wedi’i bwysleisio gan yr ansicrwydd sy’n parhau ynghylch y diwydiant dur ac yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym yn argyhoeddedig fod yr amser yn iawn ar gyfer ein cynlluniau busnes ac mai’r canlyniad fydd cynnydd economaidd sylweddol yn y rhanbarth.

Mae partneriaid busnes allweddol ar draws y rhanbarth wrthi ar hyn o bryd yn cwblhau’r cynigion ar gyfer Arfordir y Rhyngrwyd ac mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ymwneud yn llawn â’r manylion ‘Rydw i’n edrych ymlaen at y digwyddiadau yr wythnos hon. Cerrig milltir sy’n amlwg yn bwysig ar lwybr llwyddiant y rhanbarth.

Cyhoeddwyd ar 15 September 2016