Stori newyddion

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, i ymddangos yn y Senedd i amlinellu Araith EM y Frenhines heddiw

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn ymddangos yn y Senedd yn nes ymlaen heddiw i amlinellu manylion Araith y Frenhines a’i goblygiadau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn ymddangos yn y Senedd yn nes ymlaen heddiw i amlinellu manylion Araith y Frenhines a’i goblygiadau i Gymru. Bydd yn cwrdd ag Aelodau’r Cynulliad i ymgynghori ar fuddion y rhaglen a chymryd rhan mewn trafodaethau i glywed beth sydd gan Aelodau i’w dweud am y ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth ar gyfer Ail Sesiwn y Senedd yn Araith EM y Frenhines ar 9 Mai 2012.

Mae gofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno datganiad ynghylch Araith y Frenhines i’r Cynulliad Cenedlaethol o dan delerau Deddf Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Rwy’n falch o gael y cyfle i drafod ail raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n caniatau i mi ymgynghori ag Aelodau’r Cynulliad ynghylch buddion y rhaglen i Gymru, a chlywed beth sydd gan Aelodau i’w dweud ynghylch y ddeddfwriaeth rydyn ni’n ei chyflwyno.

“Mae’n bwysig iawn gwneud yn siŵr bod Llywodraeth y DU yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr ein bod ni’n cyflawni’r gorau i Gymru.”

“Unwaith eto, ein nod yw canolbwyntio ar fuddsoddi a thwf economaidd, a chreu cymdeithas sy’n deg a gwobrwyo’r rheini sy’n gweithio’n galed ac sy’n gwneud y peth iawn.”

Cyhoeddwyd ar 23 May 2012