Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn canmol busnesau o Gymru fel “peiriannau twf diguro”

Alun Cairns yn cydnabod cyflawniadau cwmnïau Fast Growth 50 mewn carreg filltir o seremoni wobrwyo a gynhelir am yr 20fed flwyddyn

Fast Growth 50

Fast Growth 50

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn galw perchnogion busnesau’r genedl yn “beiriannau twf ar gyfer y dyfodol Cymru” mewn seremoni wobrwyo fawr heno (y 19eg o Hydref).

Bydd Mr Cairns yn annerch cynulleidfa o dros 900 o arweinwyr busnes ac entrepreneuriaid yng nghinio Wales Fast Growth 50 yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd. Mae’r seremoni wobrwyo, sy’n dathlu ei hugeinfed pen-blwydd eleni, yn cydnabod cyflawniadau’r cwmnïau mwyaf deinamig yn y wlad.

Ers cychwyn y seremoni ugain mlynedd yn ôl, amcangyfrifir bod y busnesau sydd wedi ymddangos ar y rhestrau blynyddol wedi creu 40,000 o swyddi a chynhyrchu £22 biliwn ar gyfer economi Cymru. Ymysg enillwyr y gorffennol mae’r cwmni awyrennau Aerfin o Gaerffili yr ymddangosodd ei enw hefyd ar restr Fast Track 100 y Sunday Times yn 2017.

Disgwylir y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn dweud:

Allwn ni ddim meddwl am fusnesau bychain yn unig yn nhermau entrepreneur yn gwneud cychwyn arni, yn sefydlu rhywbeth neu’n gweithio er ei fwyn ei hun. Y rhain yw peiriannau twf dyfodol Cymru.

Heboch chi ni fyddai gennym rai o’r cwmnïau mwyaf, gorau, mwyaf deinamig a chyffrous ym Mhrydain sy’n falch o hyrwyddo stamp ‘Cynnyrch Cymru’ ar eu cynnyrch a’u gwasanaethau ar draws y byd.

Bydd Mr Cairns yn dweud yn y cinio gwobrwyo fod Llywodraeth y DU yn creu’r hinsawdd iawn i fusnesau dyfu drwy fesurau fel dileu’r tollau dros Bont Hafren, sefydlu band llydan cyflym a sefydlu Bargeinion Dinas a Bargeinion Twf ar draws y wlad.

Bydd yn dweud:

Ni ellir gwadu nad yw cyfuno entrepreneuriaid deinamig, ymroddedig â llywodraeth sydd o blaid busnes a thwf wedi bod yn llwyddiant.

Wrth inni ymroi’n llwyr i ran olaf ein taith allan o’r UE, rhaid inni fod yn awyddus i ehangu ein gorwelion, a manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan y marchnadoedd newydd sy’n tyfu’n gyflym ar draws y byd – ac mae arna’ i eisiau i fusnesau bychain arwain y ffordd yn hyn o beth.

Felly daliwch ati i siarad gyda ni. Peidiwch â stopio dweud wrthym beth y medrwn ni ei wneud eto i helpu eich busnes i lwyddo. Oherwydd dyna beth mae ar bob gweinidog yn Llywodraeth y DU eisiau ei weld ac ar hynny y maent yn canolbwyntio.

Gellir darllen am gefndir y digwyddiad ar Wales Online

Cyhoeddwyd ar 19 October 2018