Ysgrifennydd Gwladol yn annog cefnogwyr Cymru i aros yn ddiogel ac yn wyliadwrus
Ysgrifennydd Gwladol yn annog cefnogwyr Cymru i aros yn ddiogel ac yn wyliadwrus

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Bydd y genedl gyfan tu ôl i dîm Cymru wrth iddynt herio Rwsia heno.
Mae ein cefnogwyr wedi bod yn rhagorol yn eu hymddygiad drwy gydol y twrnament. Mae diogelwch cefnogwyr Cymreig yn bryder allweddol ac mae’n dda gweld bod presenoldeb yr heddlu yn cael ei gryfhau yn Toulouse cyn y gêm heno.
Fodd bynnag, fyddwn eto yn apelio at gefnogwyr Cymru i fod yn wyliadwrus. Peidiwch â theithio i’r ardal heb docyn i’r gêm, ceisiwch osgoi unrhyw cythrudd a gadewch i ni wneud heno yn achlysur i ddathlu pêl-droed.