Arestio ail unigolyn dan amheuaeth o dwyll gwin yn dilyn ymgyrch gan yr NFCU
Aeth swyddogion o Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i gyfeiriad yn Surrey ddydd Iau, 12 Tachwedd, gyda chymorth y Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd a arestiodd unigolyn dan amheuaeth.
Bottles of wine in a crate image:Canva
Cafodd dyn 38 oed ei arestio ar ddrwgdybiaeth o dwyll trwy gamgyfleu, yn gysylltiedig â chyflenwi gwin dan amheuaeth o fod yn ffug.
Mae’r dyn wedi’i ryddhau ar fechnïaeth ac mae ymholiadau’n parhau.
Gwerthwyd y gwin, a oedd dan amheuaeth o fod yn ffug, i unigolyn diniwed – 55 o boteli, gwerth dros hanner miliwn o bunnoedd.
Yn gynharach eleni, ym mis Awst, cafodd unigolyn arall dan amheuaeth ei arestio, ac fe gafodd ei ryddhau wedyn ar fechnïaeth.
Dywedodd Simon Ashwin, Uwch-ymchwilydd yr NFCU yn yr ASB:
Dylai pobl allu ymddiried yn y bwyd a’r ddiod maen nhw’n eu prynu, felly does dim esgus am y math hwn o drosedd bwyd. Gall twyll bwyd danseilio ymddiriedaeth yn y system fwyd, ac felly mae rhywun wastad yn dioddef.
Rydyn ni’n annog busnesau i wirio eu cyflenwyr a gwneud eu gwaith cartref i helpu i sicrhau bod y cynhyrchion maen nhw’n eu prynu yn gyfreithlon. Rydyn ni’n parhau i weithio gyda’r heddlu a phartneriaid i helpu i atal troseddau bwyd a dod o hyd i dwyllwyr bwyd, fel bod busnesau a defnyddwyr yn cael eu diogelu.